Blogsbam cyntaf yn yr heniaith

Newydd weld sylw sbamllyd ar hen flogiad sy wedi llwyddo dod trwy fy hidlau sbam gan ei fod yn Gymraeg. Dw i ddim cweit yn siwr beth yw ystyr

Ydych chi wedi bod yn twyllo wyneb i lawr

ond mae’n ddigon diddorol i gael aros yna.

Dw i’n gweld o Google bod martinbrooksdesk@gmail.com yn gwneud yr un peth ar flogiau mewn sawl iaith gwahanol, ond dydyn nhw ddim wedi gadael dolen i unrhyw wefan gyda’r sylw, felly dw i ddim yn siwr beth yw’r pwynt. Dw i’n gywbod mod i wedi dweud bod Google Translate yn mynd i newid y byd, ond do’n i ddim yn disgwyl hyn.

Ydy rhywun arall wedi cael hyn eto?

Coleg Sir Benfro a GoogleTranslate

Mae gan Coleg Sir Benfro wefan uniaith Saesneg sydd erbyn hyn yn cynnwys teclyn GoogleTranslate i ddarparu fersiwn Gymraeg o’r safle, ynghyd â fersiwn bob iaith arall dan yr haul.

Dyma’r enghraifft cyntaf dw i wedi gweld o sefydliad a ddylai fod yn ddwyieithog sy’n dewis defynddio cyfieithydd Google er mwyn arbed bach o arian. Mae’n methu ar gymaint o lefelau mae’n anodd gwybod ble i ddechrau.

O’r gorau. Os dych chi’n mynd i adael i’ch defnyddwyr ddibynnu ar beiriant cyfieithu, dyw e ddim yn syniad da i gynnwys testun mewn JPGs ar eich tudalen blaen. Dyma “fersiwn Gymraeg” y dudalen flaen:

Picture 1

Pa mor Gymraeg yw hynny?

Unwaith mae defnyddiwr yn mynd i mewn i’r wefan ei hunan, mae GoogleTranslate yn wneud jobyn eitha da o gyfieithu’r cynnwys (ond yn wneud job lot well o’i gyfieithu i Ffrangeg, siwr o fod), bron a bod yn ddigon da i rywun sy wir eisiau defnyddio dim ond y Gymraeg gael wneud hynny.

Bron a bod.

Dyma’r dudalen am Bagloriaeth Cymru. Eto, mae ’na dalp mawr o destun uniaith Saesneg sy mewn ffurf graffeg a felly yn anweledig i Google. Wedyn mae perlau yn y cyfieithiad, fel hyn:

Gofynnodd Exeter (Caerdydd) ar gyfer dau brecwast yn lefel-A a basio i Fagloriaeth Cymru i astudio bioleg yno, roeddent yn awyddus iawn ar y Bac Cymreig yn fy cyfweliad.

“Exeter (Caerdydd)” yw Prifysgol Caerwysg a’r “dau brecwast” yw dwy radd B (pwy a ŵyr pam).

Nawr dw i’n gwybod fy mod i wedi bod yn efengylaidd am GoogleTranslate yma yn y misoedd diwetha, a does dim byd yma sy’n newid fy meddwl ar werth y teclyn ei hunan. Ond wedi dweud hynny, fi oedd un o’r cyntaf i pw-pwio pryderon y rhai llai efengylaidd pan dwedon nhw y bydd pobl yn defnyddio GoogleTranslate yn lle cyflogi cyfieithwyr go iawn.

A dyma fe’n digwydd eisoes, mewn sefydliad addysg bellach.

A oes ots ’da myfyrwyr y Coleg?

(Bron) Popeth (ar y we) yn Gymraeg

Hyd yn hyn, dw i wedi sôn am beiriant cyfieithu Google mewn termau eitha cul, Cymraeg/Saesneg. Ond mae ochr arall i’r ceiniog, sef bod (bron) holl gynnwys y we erbyn hyn ar gael i ni yn ein hiaith ein hunain, os ydyn ni’n fodlon rhoi tipyn bach o waith i mewn.

Er nad ydw i’n debyg iawn i ddarllen Metafilter yn y Gymraeg, mae’n anhygoel bod hynny yn bosibl. Ces i wefr o weld bar-lywio Mefi, rhywbeth dw i wedi gweld bron bob dydd ers 1999, wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg, bron pob gair yn ei le:

Picture 1

Gwych o beth, ond ddim digon o reswm i ddewis darllen cyfieithiad carpiog yn lle’r Saesneg gwreiddiol.

Un lle dw i wedi defnyddio teclyn Google heddiw, i ddarllen rhywbeth na fyddai gobaith i mi ddeall heb gyfieithiad cyn nawr, yw gwefan arddangosfa Hermann Hirsch*, sef safle uniaith Almaeneg sydd erbyn hyn yn ddealladwy i Gymry Cymraeg.

Mae’r arddangosfa yn Amgueddfa Trefol o Göttingen, am y tro cyntaf yn yr Almaen yn gwneud yn deyrnged i’r hanghofio unjustly artist. Mae’n darparu daith bywgraffyddol drwy fywyd a gwaith yr artist hyblyg, ac yn gosod pwyslais ar ei Südniedersächsische amser.

Diddorol gweld y gair Saesneg unjustly yn y canol, sy’n awgrymu bod y fersiwn Gymraeg yn dod trwy’r Saesneg yn gyntaf. Diddorol hefyd bod y gair teyrnged (am “eine Würdigung”) yna yn tro’n asesiad os dych chi’n bwydo’r teclyn â’r testun fesul paragraff. “Assessment” yn hytrach na “tribute” yw e yn y Saesneg, ond eto, os dych chi’n rhoi llai o gydestun i’r peiriant, mae’r gair yn newid i “appreciation”.

Mae’r dewisiadau y peiriant braidd ar hap weithiau: gan fwydo’r un ymadrodd uchod mewn ond heb yr atalnod llawn, mae Hirsche yn newid o fod yn “painter” i “artist”.

Ta waith am hynny, dw i dal yn gweld hyn fel datblygiad enfawr yn hanes y Gymraeg ar y we. A tu hwnt, wrth gwrs – cofiwch bod testun bob llyfr yn y byd yn cael ei sganio gan Google, sy’n golygu (mewn theori) y bydd bob llyfr yn y byd ar gael yn y Gymraeg, yn y man. Mae hynny yn dipyn o beth, ond yw e?

* Dw i wedi blogio am Hermann Hirsche yma o’r blaen, y tro diwetha i mi ddod yn ôl ar ôl hoe bach o’r blog, fel mae’n digwydd. Hen ewythr Philippa oedd e, a chafodd bron popeth o’i waith ei “brynu” gan y Natsïaid am brisiau chwerthinllyd. Ond cewch chi ddarllen gweddill ei hanes ar wefan Amgueddfa Drefol Göttingen, os dych chi’n gallu darllen Almaeneg.

O Fy Nuw

Mae’r teclyn newydd ’na ar yr ochr yn bwerus, ac yn beryglus. Bydd yn demptasiwn i fi fynd yn ôl trwy’r archifau a chywiro cyfieithiad pob cofnod ar y blog.

Bydd temptasiwn arall, sy ddim mor adeiladol, i or-defnyddio idiomau Saesneg yn fy Nghymraeg er mwyn wneud teitlau cofnodion sy’n gweithio yn y ddwy iaith.

Dw i’n troi fy nghefn am fis, ac mae rhywbeth fel hyn yn digwydd.

Morfablog is for everyone

Dw i wedi cael fy ysbrydoli heddi gan gofnod ar Quixotic Quisling ynglŷn â pheiriant cyfieithu Google, sydd erbyn hyn yn gweithio yn y Gymraeg. Mae hyn yn golygu, am y tro cyntaf, bydd yn bosibl, mewn theori, i bobl di-Gymraeg ddeall rhywfaint o’r rwtsh sy’n llenwi’r lle ‘ma.

Fel hyn:

I’ve been inspired by records on Quixotic Quisling today about Google’s translation engine, which now works for the language. This means, for the first time, it will be possible in theory for people di-Gymraeg understand some of rwtsh filling space here.

Ymwadiad: ar ôl i mi sgwennu’r uchod, a’i gyfieithu gyda’r teclyn Google, oedd rhaid i mi fynd yn ôl drosto fe yn gyflym a newid cwpl o eiriau er mwyn cael canlyniad oedd yn wneud synnwyr yn y Saesneg. Newidiais i “blogiad” i “cofnod”, ac ychwanegu “Dw i” i ddechrau’r frawddeg gyntaf, er enghraifft. Os mai hynny yw’r pris am estyn cynulleidfa potensial o ryw hanner miliwn i gwpl o biliwn, dw i’n gallu byw gyda fe.

Hefyd, bydd Maff yn hapus.