Sorto Bloglines

Tra mod i ati, dw i wedi mynd trwy fy holl ffolderi Bloglines a rhoi pob blog sy’n debyg i bostio rhywbeth a fydd o ddiddordeb mewn un ffolder newydd. Er ei fod e’n wych bod cymaint o bobl yn blogio yn y Gymraeg erbyn hyn, does dim digon o oriau yn y dydd i ddarllen popeth, heb sôn am y dros 100 blog MP3 dw i wedi tanysgifio iddynt, a gweddill y blogosphere Saesneg.

Mae’r ffolder newydd – #Dyddiol – yn ymddangos ar frig y rhestr ffolderi (gweler yr # yna?) ac yn cynnwys rhyw ddwsin o flogiau Cymraeg, tipyn bach mwy yn Saesneg, a sawl peth fel ffrydiau Flickr a PledgeBank. Y pethau dw i’n poeni am golli pan dw i’n gweld bod dros 1000 o gofnodion heb eu darllen a does dim dewis ond i ddefnyddio’r botwm panig Mark All Read.

Coelbrennau Flickr

Mae Sanddef (sydd â mwy o flogiau na thi, wedi creu cyfrif Flickr sy’n cynnwys lluniau coelbren y derwyddon. Mae’n defnyddio “bathodyn Flickr” i ddangos un llun ar hap ar ei flog – fel y’i esbonir yma.

Felly, meddyliwch am gwestiwn, ewch i flog Sanddef a rhoi clec ar lun y goeden ar yr ochr dde…

Cw: Beth dylwn i wneud am Natwatch?

aethnen yn y gogledd

Ateb: wyt wedi dy ddal mewn rhwyd. cadw’n dawel ac ystyried dy strategaeth.

Annaearol!

Scymraeg yn y Steddfod

Of Gwelwch yn Dda

Wnaeth unrhywun arall sylwi ar hwn? Ym mhabell ‘Capital Cuisine’, lle oedd bron pob arwydd yn uniaith Saesneg, un o’r pethau bach o’n nhw wedi boddran trosi a dydyn nhw ddim yn gallu sillafu please yn iawn. O ddrws y babell oedd pethau yn edrych yn eitha Cymraeg, gan fod arwyddion mawr amlwg, gyda’r Gymraeg uwchben y Saesneg, ac yn fwy o faint, ond unwaith dy fod di’n dechrau ordro dy fwyd, ti’n dechrau sylwi bod bob dim arall yn uniaith Saesneg. Pan gofynodd fy mhartner pam oedd y bwydlenni yn Saesneg yn unig, dwedodd y ferch tu ôl i’r cownter (Cymraes, fel y staff i gyd, am wn i) bod rhywun di-Gymraeg wedi cwyno, felly o’n nhw wedi rhoi’r fersiynau Saesneg yn eu lle.

Sori, ond fel maen nhw’n dweud lan fan’na yn y gogledd pell, be’ ffwc?

In one of the main eating places on the Eisteddfod field this year, just about every sign was in English only, except for the most obvious ones which catch the eye as you enter the tent, and these on the table, where the Welsh phrase for “please” is mangled – no, not so much as to make it impossible to read, but enough to make you want to throw it across the room in a rage.