Ai fi yw’r unig Macafalwr sy’n defnyddio Firefox Cymraeg ond yn gweld eisiau y llwybrau teirw di-ofyn arferol ar gyfer “Gadael Firefox” (⌘Q) a “Canfod Eto” (⌘G)?
Ar ôl misoedd o regu bob tro dw i’n trial ffeindio rhywbeth ar y tudalen a chael y blwch gwybodaeth, neu drial cau Firefox a chael y swn bach “ti’n jocan”, dyma fi’n Gwglo’r blydi peth a darganfod pwt bach ar Lifehacker sy’n esbonio pa mor hawdd yw e i greu (neu newid) unrhyw llwybr tarw ar unrhyw rhaglen OS X.
Open the Keyboard & Mouse preference pane in your System Preferences and click on the Keyboard Shortcuts tab. Click the little plus (+) sign, choose the application you want to assign a shortcut for from the drop-down, then enter the exact name of the menu bar item you want to execute…
Wedyn wneud yr un peth ar gyfer “Gwybodaeth am y Dudalen”: newid hwnna’n ôl ⌘I.
Y tro nesa i chi agor Firefox, bydd yn gweithio fel mae i fod i weithio.
