Llun gan Cynulliad Cymru
Newyddion da ar Quixotic Quisling yn diweddar: mae’r Cynulliad wedi newid y trwydded ar eu lluniau ar Flickr i un Comins Creadigol. Braf cael rhywbeth i’w ddathlu ar fore oer o Chwefror.
Llun gan Cynulliad Cymru
Newyddion da ar Quixotic Quisling yn diweddar: mae’r Cynulliad wedi newid y trwydded ar eu lluniau ar Flickr i un Comins Creadigol. Braf cael rhywbeth i’w ddathlu ar fore oer o Chwefror.
Llun newydd i’r pendesg, diolch i Plep.
Ffotograffiaeth Poloroid o’r byd rhwng y bydoedd. Wedi lawrlwytho rhyw 20 o’r lluniau ’ma i fynd ar y pendesg.
Mae’r Flickiwr JayT47 â sawl llun hyfryd o’r hen Waun. Maent dan hawlfraint llawn, felly dw i’n methu eu dangos fan hyn (wna i ofyn caniatâd nawr), ond fy ffefrynnau yw:
Y Clwydi Pert
Gwesty’r Llaw
Y Waun gyda’r Nos
Tandoori’r Waun (dyma lle clywais i fod fy nhad ar farw, felly yn fwy noir-aidd i fi’n bersonol, debyg)
Teras y Llaw (dw i’n meddwl taw dyna’r enw)
Gol: Diolch i Jay am roi’r caniatâd i ddangos y lluniau yma.
Cyhoeddwyd Tarkovsky’s Polaroids ym mis Mawrth eleni, a dim ond nawr dw i wedi archebu copi. Dyma enghreifftiau o’r lluniau ar wefan y Guardian.

Diolch i Dafydd am y ddolen i arddangosfa arlein diweddaraf y Llyf Gen, sef Encore : Cerddoriaeth yng Nghymru. Mae’n llawn o luniau gwych fel hyn o’r Blew. Yn anffodus, fel mae Dafydd yn sôn, mae llawer o gamgymeriadau yn y teitlau, ac yn enwedig, yn nyddiadau, y lluniau, ond dw i’n siwr y caiff y rheiny ei sorto ma’s toc.
Gwych hefyd yw gweld enghreifftiau o effemera Cymdeithas yr Iaith yn dechrau ymddangos ar lein, ar ôl i Gymdeithas roi ei chasgliad i’r Llyfrgell.
Cynhelir Datganiad i’r wasg: LENS – Gŵyl Dogfennu Cymru â’r Camera yn y Llyfrgell Genedlaethol ar y 29ain o Hydref. Edrych yn ddiddorol, er mod i ddim yn debyg i fynd gan ein bod ni’n symud tŷ dros yr hanner tymor. Tybed a fydd y dyn sy’n wneud mwy na neb arall i ddogfennu Cymru â’i gamera o gwmpas y lle?

Mae BoingBoing wedi sôn heddi am gasgliad Charles W. Cushman, ffotograffydd amatur o Americanwr. Mae’r lluniau yn dyddio o 1938-1969, ond yn 1961 daeth e yma, i Gymru, ar ei wyliau. Mae’r lluniau o Aberystwyth yn wych, a ti’n gallu gweld faint sy wedi newid a faint sy wedi aros.
Peidiwch â cholli’r dolenni eraill yn y cofnod BB, sef Casgliad Edward S. Curtis a America Mewn Lliwiau, 1939-1945.
Diolch i fy mam, wedi dod ar draws llun o’m taid arall (ei thad hi), Grandad Cliff, yng nghasliad Geoff Charles. Cliff yw’r un ar y dde, cael ei goluro ar gyfer pantomeim, Aladin, yn y Waun, 1955.