Ffilmiau Byrion Peter Greenaway

Am ryw rheswm, mae’n well ’da fi ffilmiau byrion cynnar Peter Greenaway na ffilmiau cyflawn ei adeg “aeddfed”. Dw i’n colli amynedd gyda ei obsesiynau dros cyfnod hir, ond mewn ffilm 5 munud, maent yn emau bach perffaith.

Rwy’n falch o weld bod rhai wedi’i postio ar YouTube, ond mae rhaid eu rhaid nhw ar DVD ar sgrîn mwy eich teledu… o leia.

Dyma un o’m fferfrynnau.

Windows [1974, 3 munud a hanner]

Map Cymru yn y “Dead Zone”

Tipyn bach o ddim byd, ond o’n i’n gwylio’r ffilm Cronenberg The Dead Zone y bore ’ma (ffilm wych do’n i ddim wedi gweld ers blynydde – mae Nic yn dweud sieco fe ma’s) pan welais i rywbeth od ar y wal yn nhŷ Christopher Walken:

Map Cymru yn y ffilm "The Dead Zone"

Os nad ydy hynny yn ddigon sgêri, mae Walken am fod yn Arlwydd yr UDA yn 2008.

Dan Ddylanwad Drwg

Fel dw i newydd gyfadde ar y maes, dw i nôl ar fy nhethe Warcraft, ac hyn ers rhai wythnosau bellach (sy’n esbonio pam mae pethe wedi bod mor dawel fan hyn). Ond dw i wedi cyrraedd rhyw bwynt diflas yn y gêm lle dw i ddim yn siwr mod i am gario ymlaen.

Dw i’n 40 oed, neno’r tad.

Mae fy hen frwdfrydedd am ffilmiau America’r 70au cynnar wedi’i ail-danio heno gan ffilm des i ar ei thraws ar hap ar Amazon, sef Decade Under the Influence. Ffilm talking heads ydyw, lle mae’r pennau ar ysgwyddau rhai o gyfarwyddwyr mwya’r adeg. Dim byd arbennig iawn, dim llawer sy’n newydd ta beth, ond mae wastad yn braf gweld clipiau o dy hoff ffilmiau mewn un lle – a thrwy eu gweld, sylweddoli eto pa mor ffrwythlon oedd yr adeg honno.

Braf hefyd i sylweddoli bod cymaint o ffilmiau yr adeg dw i heb eu gweld eto, felly esgus perffaith i lwytho lan fy rhestr Amazon â pherlau colledig fel Hi Mom! a Panic in Needle Park.

Wedi bod yn gweithio fy ffordd trwyddo ffilmiau Robert Bresson, hoff gyfarwyddwr Sant Andrei. Bunuel, hefyd – mae Belle de Jour ’da fi lawr stâr i wylio heno.

Ond cyn i mi ddechrau swnio fel Mr Pretentious ffilm snob, y ffilmiau dw i wedi mwynhau’r fwya yn diweddar yw ddwy ffilm John Hughes ces i i’m penblwydd gan fy ffrindiau Caerdydd, sef The Breakfast Club a Ferris Bueller’s Day Off. Mae rhai ffilmiau ti eisiau gweld ar ôl noson dawnsio yn y Pentre Arms tan 4 o’r gloch y bore, a dydy Andrey Rublyov ddim yn un ohonyn nhw.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd |

Ail-ddarganfod Andrei

Yr un mor wych, er ddim cweit mor hapus efallai, yw’r ffilm gwyliais i heddi, sef Regi Andrej Tarkovskij, ffilm ddogfennol gan Michal Leszczylowskis sy’n dod â’r DVD o ffilm olaf yr athrylith o Rwsia, Yr Offrwm. (Dw i newydd ffeindio clip YouTube o’r 8 munud cyntaf.) Dw i ddim yn cofio gwylio ffilm making of… gyda chymaint o ddiddordeb o’r blaen.

Mae un olygfa yn Yr Offrwm lle mae tŷ yn cael ei losgi. Yn ystod y saethu, oedd dau gamera’n ffilmio’r tŷ wrth iddo fynd i’r fflamau, ac ymatebion a symudiadau’r actorion i gyd. Doedd dim modd wneud camgymeriad; mi oedden nhw’n llosgi’r set. Ar ôl i bopeth ddod i ben, a phawb yn araf ymlacio, dyma Sven Nykvist, sinematogaffydd Tarkovsky ar ei ffilmiau olaf a bu farw yn 2006, yn dod at y meistr i ddweud bod ei gamera wedi jamio. Trychineb! Mae Tarkovsky yn torri i lawr, ffonio ei wraig a mynnu ei bod hi’n dod ato fe yn syth o Rwsia i Sweden i’w helpu dros yr argyfwng yma.

Ac wedyn, dyma’r criw ail-adeiladu’r tŷ, yn union fel y set gwreiddiol, ac wedyn ei losgi eto.

Mae lluniau gwych o’r tân fan hyn.

Dyma’r clip:

Pwy arall?

Who can bring us back to Paradise? Who can purge us of our sins? Who can put us right? Who can remind us what humans were like, back when there were humans? Who can turn us into an audience, rather than a bunch of actors playing the part of an audience?

Only Warren Oates.

Fideo du Jour

Wedi bod yn chwarae gyda Democracy, teclyn teledu-ar-y-rhyngrwyd, yr wythnos ’ma, sy’n ffordd (arall) wych o wastraffu amser pan dw i fod i wneud pethau eraill. Dw i ddim yn siwr os yw hyn yn well nag iTunes, sydd erbyn hyn yn cynnig podlediadau fideo hefyd – prif mantais falle yw bod Democracy yn cynnwys pethau bach gwirion sy ddim yn dod dan y disgrifiad “blog fideo”. Pethau fel:

Hefyd, cei di fideos cerddorol (BitTorrents yw’r rhain, ond mae Democracy yn eu handlo nhw heb angen meddalwedd newydd – do’n i ddim hyd yn oed wedi sylweddoli taw BT o’n nhw tan nawr):

Ac wrth gwrs, mae unrhywbeth sy’n dod â Morwynion Ffrengig i fy iMac yn werth arbrofi gyda fe am wythnos neu ddwy.


[Gol.] Diolch i Rhys am y ddolen i Treehugger TV, tanysgrifiad newydd i fi.

Bach o Lonydd

Y bore ’ma, gwyliais i Serenity, ffilm gyntaf gan Joss “Buffy the Vampire Slayer” Whedon, a’r ffilm sci-fi orau dw i wedi gweld mewn oes. Spin-off o’r cyfres teledu diddymedig, Firefly. Gan fy mod i’n byw mewn swigen di-deledu y rhan fwya o’r amser, do’n i ddim wedi clywed o hyn o’r blaen, a dweud y gwir dw i ddim yn siwr pam archebais i’r DVD o Serenity o Amazon.

Ond mae’n dda iawn.

(Cofnod arbennig arall. Amser cymryd hoe o’r hen flog, falle.)

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd |