Nôl

Hermann Hirsch - Hunan-bortread

Hermann Hirsch
(1861-1934)
Hunan-bortread

Ein jüdischer Maler in Göttingen, arddangosfa o waith Hermann Hirsch, artist oedd yn hen-ewythr i’m partner, Philippa. Mae’r llun i’r chwith (rhowch glec am fersiwn mwy) yn un o ryw hanner dwsin sy gyda ni, wedi dod i lawr i Philippa trwy ei mam.
 

Never Knowingly Underwhelmed, blog Saesneg gan Andrew Collins. Wedi darllen ei hunangofiant yn diweddar, a braf yw darllen hanes rhywun na chafodd ei abiwso fel plentyn, yn seicolegol, na (oni bai am ddeiat o sbageti hwps ac Angel Delight) yn gorfforol. Dyw e ddim mor smyg ag mae hynny’n swnio.

Chasm Filler, blog MP3 eclectig iawn. Tim Buckley, Public Image Ltd a’r Boredoms o fewn yr wythnos diwetha.

We Can’t Paint, blog am ffotograffiaeth, a thrwy hwnna, Will Steacy, ffotograffydd o Philadelphia. [wood s lot]

Panda Flickr – dw i ddim yn ei ddeall, ond dw i’n ei hoffi fe. [mefi]

Fy hoff grŵp Facebook erioed – dw i’n siŵ bod yr athrawon Saesneg i gyd yn falch iawn o weld hyn.

Gall Cymru fod yn annibynnol? Gwefan newydd gan Plaid Cymru sy’n gofyn y cwestiwn hanfodol i’w bodolaeth nhw fel plaid. Rhaid i mi gyfaddau mod i wedi colli bach o ffydd yn y Blaid ers dabacl papur newydd Y Byd, ac mod i wedi bod yn byw gyda mhen gwleidyddol yn y tywod i ryw raddau am fwy na blwyddyn, felly mae hyn wedi dod fel sioc i mi, os yn sioc braf. Ydw, dw i mor fras â hynny; rhowch eich dadleuon ar wefan deca, gyda’r Adam Price hyfryd ’na yn eu cyflwyno, a wna i eu llyncu nhw’n gyfan. Neu, o leia, helpu lledu’r gair:

Darllen mwy – or watch an English language version.

Facebook yn Gymraeg?

Braf gweld, ar flog Mercator bod Facebook wedi derbyn y galw am fersiwn Gymraeg o’r safle.

Mae’r broses gyfieithu yn agored i bawb, ac maen nhw’n defnyddio model diddorol iawn ar gyfer y gwaith. Y cam cyntaf yw i gyfieithu’r 226 o dermau sylfaenol maent yn galw y “glossary” – gwaith sy wedi’i gwblhau eisioes. Wedyn mae rhaid i bob gair ennill hyn a hyn o bleidleisiau gan siaradwyr yr iaith – mae’n bach yn anghlir faint yn union o bleidleisiau sydd angen.

Mae hyn y beth da.

Ond…

Mae hefyd yn golygu bod llwyddiant y trosiad yn dibynnu ar y “gymuned” (eu gair nhw). Os na fydd digon o bobl yn rhoi o’u hamser i gyfieithu’r safle ac i wyrio cyfieithiadau pobl eraill, na fydd feriswn Cymraeg. Dw i’n credu bod hyn yn hollol deg; y gymuned sy wedi mynnu fersiwn Cymraeg, wedi’r cwbl.

Am unwaith, os na chaiff y Cymry Cymraeg eu “hawliau ieithyddol” bydd yn ddigon clir pwy sy ar fai.

Na, nid Rhodri Glyn Thomas.