Diolch yn fawr, Cyngor y Barri

Diolch i Pads ar y maes am ffeindio’r enghreifft gorau/gwaethaf erioed o Scymraeg ar y we, sef gwefan Cyngor Tref y Barri:

Yr Enillydd yw...

Ie, enghraifft arall o gamddefnydd o gyfieithydd ar-lein di-werth (ond rhad ac am ddim!) InterTran yw hyn – ond mae hyn yn wahanol i’r llu o enghreifftiau eraill dyn ni wedi gweld dros y blynyddoedd diwetha ’ma: nid siop smyt yw hwn ond cyngor tref.

Dychmygwch am eiliad bod y gwaith ’ma wedi’i wneud gan gynlluniwr gwe uniaith Gymraeg, yn lle yr un uniaith Saesneg sydd ar fai yma. Dyma’r paragraff cyntaf uchod wedi’i gyfieithu’n fras:

Ymysg pethau eraill, bydd y safle hon yn cynnwys gwybodaeth ar gyfleusterau ac adnoddau ar gael yn y Barri, gan gynnwys y gwasanaethau hynny sy’n cael eu darparu gan Gyngor y Dref.

Mae hynny’n ddigon clir, ond yw hi? Dyma beth chi’n cael wrth fwydo’r uchod mewn i InterTran:

Among things other , he will be the position this containing knowledge signs opportunities and resources available crookedly the bars , with contain the services that who ‘ is heartburn have them prepare with Council the Town.

This is what happens when a town council uses an online translator instead of paying a professional. Had the website’s contents been composed in Welsh (as they are in some areas, one presumes) and then “translated” by machine like this, the paragraph above shows the kind of nonsense that would result. A bit hard to imagine this getting onto the web, isn’t it? The subtext, as so often, seems to be “Oh, fuck the Welsh, who cares? Nobody reads it anyway.”

John Cowper Powys

John Cowper PowysThe Ecstatic Storyteller – adolygiad o ddau lyfr a chyflwyniad gwych i waith a bywyd John Cowper Powys yn y Wall Street Journal ddoe.

Y cyntaf o’r ddau lyfr yw Descents of Memory gan Morine Krissdóttir, y cofiant llawn cyntaf am Powys – arwydd heb ei ail o’r “academic neglect” soniwyd amdano gan Robertson Davies ac eraill.

Yr ail yw un dw i wedi bod yn aros amdano ers deg mlynedd a mwy – argraffiad newydd o nofel fwyaf Powys (yn ei farn e), sef Porius. Darllenais i hon blynyddoedd yn ôl, yn argraffiad toriedig y Village Press o lyfrgell Caerdydd, ond dw i erioed wedi llwyddo ffeindio copi ohoni. Mi gafodd “fersiwn llawn” o’r nofel ei chyhoeddi gan Wasg Colgate yn y 90au, ond oedd y pris ar hwnna wastad yn rhy uchel i’r darllenydd tlawd yma, ac yn ôl Companion to Porius W.J.Keith, doedd y fersiwn yma ddim mor dibynadwy â dylai “fersiwn academaidd” fod. Dyma’r tro cyntaf, felly, i’r nofel fod ar gael, yn “fersiwn JCP”, ar bris sy ddim yn debyg i’w roi ar silfoedd llyfrgelloedd colegau yn unig.

“Nofel Arthuriaidd” yw Porius ar un olwg, ond mae’n agosach ato i ddweud taw “nofel Myrddinaidd” yw hi. O beth dw i’n cofio, mae Arthur yn ffigwr ymylol i brif rediad y stori, tra bod Myrddin Gwyllt, sy’n ffito’r proffeil “arwr Powysiaidd” i’r dim, yn ganolig iddi.

Dyma’r John Heath-Stubbs ar y nofel:

The Welsh have never really taken to Arthur, and he’s not nearly as important to them as he is to the English. Owen Glendower is much more important to the Welsh. I think that John Cowper Powys’ Porius gives an awfully plausible picture of the sixth century, with these people of Roman descent living on in their ruined palaces, surrounded by resurgent paganism. I think it must have been very like that.

Rwy’n ail-ddarllen A Glastonbury Romance ar hyn o bryd, ac yn gobeithio dod i ben â’r epig yna cyn i’r llyfrau uchod fy nghyrraedd o lanau warws yr Amazon.

Two new books for my Powys shelf, reviewed in yesterday’s WSJ. The links are all to English language sites.

Sabbath dyb

Mae Maff (darllenwr di-Gymraeg y blog di-Saesneg ’ma) yn pwdu gan fy mod i wedi dechrau blogio yn ddwyieithog, ac wedyn stopio. Pwdu cymaint, ei fod e’n bygwthio dechrau ei flog ei hunan, yn lle jyst ebostio fi bob tro mae’n ffeindio rhywbeth doniol ar YouTube.

Ar ei gyfer e, felly, dyma fi ddychwelyd y ffafr, gan roi linc i fersiwn dyb y gân “Black Sabbath” gan y band Black Sabbath, o’r albym Black Sabbath.

Ond mae hyn gan Venetian Snares.

Continue reading

Chirk Noir

Mae’r Flickiwr JayT47 â sawl llun hyfryd o’r hen Waun. Maent dan hawlfraint llawn, felly dw i’n methu eu dangos fan hyn (wna i ofyn caniatâd nawr), ond fy ffefrynnau yw:


Y Clwydi Pert

Gwesty’r Llaw

Y Waun gyda’r Nos

Tandoori’r Waun (dyma lle clywais i fod fy nhad ar farw, felly yn fwy noir-aidd i fi’n bersonol, debyg)

Teras y Llaw (dw i’n meddwl taw dyna’r enw)


Gol: Diolch i Jay am roi’r caniatâd i ddangos y lluniau yma.

Continue reading

Preswyliad GWRANDO yn Llangrannog

(Yr isod wedi’i gopio o wefan Canolfan Crannog.)

Bydd GWRANDO yn cynnal preswyliad yng Nghapel Crannog o 23/6/07 i 1/7/07.

Fe sefydlwyd y gydweithfa gelf sonig GWRANDO ym mis Ionawr, 2007 gan Lou Laurens a Jacob Whittaker. Mae’r gydweithfa gelf yn bwriadu darparu fforwm i’w aelodau, ac i gynnal a hyrwyddo digwyddiadau celfyddydau byw yng Ngheredigion a thu hwnt.

Mae gwahoddiad agored i unrhyw un a hoffai ymuno â’r côr, a bydd yn ymarfer ddydd Sadwrn, 23 Mehefin a ddydd Sul, 24 Mehefin, gyda pherfformiad ar y 1fed o Orffennaf. Cadwch eich lle trwy wefan Gwrando, neu ffonio 07866 371 481, neu fydd poster a ffurflen ma’s cyn bo hir.

Continue reading

Polperro, Totnes a Dartington

Lluniau Flickr o’r penwythnos diwetha.

Cawson ni benwythnos penigamp gyda theulu Philippa. Nos Wener gyda ei chwaer, ei merch hithau, a’i theulu ifanc hithau, sydd i gyd yn byw ym Mholperro, Cernyw. Wedyn ddydd Sadwrn i Totnes, Dyfnaint, i gwrdd â chwaer arall Philippa, ei phartner a’i phlant, ar gyfer Darlith Coffa Bina Gibson, sef mam Philippa.

Menyw ar ei Gorwedd, Henry Moore Gardd Siapanaidd, Neuadd Dartington Polperro, Cernyw

Continue reading

Wps – dim ffrydiau categoriau [Gol. OES!]

Wedi dweud wrth y darllenwyr di-Gymraeg bod hi’n bosibl tanysgrifio i ffrwd y categori Saesneg, dw i’n sylweddoli nad oes ffrwd o’r fath ar gael. Wna i sorto hyn yn y man, ond rhaid i fi fynd ma’s nawr.

Unrhywun yn digwydd gwybod sut i wneud hyn (creu ffrwd RRS o gategori unigol ar WordPress) – i arbed gwaith Gwglo i fi? Jolch.

[Gol.]http://morfablog.com/categori/english/feed/ yw cyfeiriad y ffrwd. Diolch yn fawr i Aran a Babs, am fod yn glyfrach na fi.

Continue reading

Trip You Up

[Newydd ffeindio hyn yn fy "nraffts".]

Newydd ddeall, ar ôl 23 mlynedd, yr odl ym mhennill cyntaf y clasur yma:

Sometimes, I walk sideways
To avoid you
When I’ve annoyed you.

Athrylith.

Dw i wedi bod yn mymblan y llinell yna ers 1984.

Mae rhywun wedi gofyn ar y maes yn diweddar pwy yw’r band mwya dilynwadol yn y Sîn Roc Gymraeg. Mae’n bosibl dadlau taw JAMC yw e. Meddylia amdano: dim Mary Chain, dim See Emily Play (cyn dy amser di); dim Emily, dim Ffa Coffi Pawb; dim Ffa Coffi, dim SFA.

Etc.

Continue reading

Ta Ta Tony

Dw i’n hwyr gyda hyn, dw i’n gwybod, ond nid un o’r “blogwyr gwleidyddol” ydw i, felly does dim ots. Does dim lot alla i ychwanegu at y sylwadau byddwch chi wedi darllen eisioes, ond i (ail-) bostio araith olaf Brian Sedgemore fel aelod seneddol Plaid Lafur. Des i ar draws hyn nawr wrth fynd trwy fy ffeiliau MP3, paratoi rhestr gwrando am y penwythnos (mynd lawr i Ddyfnaint), a dw i heb ei glywed ers sbel. Mae dal yn wneud blew cefn fy ngwddw sefyll fel dim byd arall.

Araith Brian Sedgemore (MP3, 8.5Mb).

Gyda llaw, mae bwriad gennyf i bostio yn ddwyieithog am sbel. Gawn ni weld am faint bydd hyn yn parhau, ond bydd y Saesneg yn ymddangos dan y ffold ’ma, oni bai am…

(Limited translation of this post below the fold.)

Continue reading

Chris Cope – O Flaen dy Lygaid

Jyst rhag ofn bod rhywun heb glywed am hyn, bydd Chris Cope, internet superstar (Welsh div.) ar raglen S4/C O Flaen dy Lygaid nos yfory am 9 o’r gloch. Wrth feddwl, mae’n bosibl bydda i ar hyn hefyd – wnes i ffilmiau vox pop i ryw raglen am Chris yn y Steddfod, ond mae’r boi wedi bod ar fwy o deledu na theulu Jade Goody at ei gilydd, felly pwy a wyr?

Fydda i ddim yn gallu gweld y rhaglen yn fyw (mae Talwrn y Beirdd yn cael ei recordio nos fory, ac mae tîm Philippa ynddo), felly dw i’n gobeithio y bydd ar gael ar wasanaeth newydd S4/C, Gwylio Eto.

Dyma fideo o Chris wrthi’n adolygu am ei arholiadau. Da iawn rwan.

Continue reading