Digwyddiadau i ddysgwyr (ac eraill) yn Ne Ceredigion am yr wythnos sy’n dod.
Digwyddiadur: 16 – 22 Mai 2005
Digwyddiadau i ddysgwyr (ac eraill) yn Ne Ceredigion am yr wythnos sy’n dod.
Digwyddiadur: 9 – 15 Mai 2005
Digwyddiadau i ddysgwyr (ac eraill) yn Ne Ceredigion am yr wythnos sy’n dod.
Digwyddiadur: 2 – 8 Mai 2005
Digwyddiadau i ddysgwyr (ac eraill) yn Ne Ceredigion am yr wythnos sy’n dod.
Digwyddiadur: 25 Ebrill – 1 Mai 2005
Digwyddiadau i ddysgwyr (ac eraill) yn Ne Ceredigion am yr wythnos sy’n dod.
Sgiliau Sylfaenol, wir yr
Wnes i bron â phrynu pecyn o gardiau treigladau o’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol, nes i mi sylweddoli (o’r ffeil PDF) bod tri chamgymeriad arnyn nhw. Dau a hanner, os ti’n teimlo yn garedig.
Digwyddiadur: 18-24 Ebrill 2005
Digwyddiadau i ddysgwyr (ac eraill) yn Ne Ceredigion am yr wythnos sy’n dod.
Hanner awr i helpu CYD yn Aberystwyth / Aberteifi?
Daw hyn trwy “rhestr Roced”:
Annwyl bawb,
Dyma ni ar fin tymor newydd ac rydw i’n gofyn i chi eto os oes modd i chi
wneud sesiwn neu ddau yn helpu dysgwyr ymarfer siarad. Mae’r tymor yn
dechrau yr wythnos nesaf ac yn gorffen 24eg o Fehefin gyda thoriad am hanner
tymor 30/5-3/6. Mae dosbarthiadau ar boreau Mawrth, Mercher a Iau, a
nosweithiau Mawrth a Mercher sydd eisiau siaradwyr. Byddaf yn falch o glywed
oddi wrthoch, gyda dyddiau cyfleus.
Diolch yn fawr iawn,
Linda Gay,algaywaitrose com
eifi – os oes modd i chi roi rhyw hanner awr y mis i helpu dysgwyr yr ardal hon, cysylltwch â fi trwy’r sylwadau ’ma neu ar nicdafis .
Digwyddiadur: 4-10 Ebrill 2005
Digwyddiadau i ddysgwyr (ac eraill) yn Ne Ceredigion am yr wythnos sy’n dod.
“Pawb ar y bws ding ding!”
Bydd y ddrama newydd hon yn cael ei pherfformio tair gwaith yr wythnos hon. Yn anffodus, dw i’n methu ffeindio unrhyw gwybodaeth arall (beth yw’r teitl, er enghraifft), ond wotsh ddys sbeis. [Gweler sylwadau.] Diolch yn fawr i Dafydd Gwylon am hala’r manylion isod i ni.
Bydd y ddrama yn cyfleu portread o fyw yng nghefn gwlad ac mewn cymuned ddwyieithog. Rydym wedi casglu argraffiadau Cymry Cymraeg a Di-Gymraeg, mewnfudwyr a dysgwyr i rannu eu profiadau, gofidion, canfyddiadau a gobeithion ynglŷn â’r sefyllfa yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru.
Byddwn yn defnyddio’r ddrama fel cyfrwng er mwyn pigo ar gydwybod, ysbrydoli a chyflyru gwahanol gynulleidfaoedd ar hyd a lled yr ardal, i fod yn hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg gymaint â phosib yn eu bywydau bob dydd. Rydym hefyd am godi ymwybyddiaeth y Gymraeg a’r di-Gymraeg fod yr iaith yn fyw, a bod yna ddiwylliant a thraddodiad yn bodoli yn ein hardaloedd.
Rydym yn gobeithio yn fawr y bydd y prosiect yn effeithio ar bobl efallai drwy eu hysbrydoli i fynd ati i ddysgu’r Gymraeg, i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddechrau sgwrs gyda phobl dieithr neu i ddanfon eu plant i ysgol Gymraeg. Beth bynnag yw effaith y ddrama ein bwriad yw diogelu’r diwylliant a thraddodiadau Cymraeg a Chymreig yng nghymunedau bro Teifi am yr oesoedd a ddêl.
Bydd tri perfformiad ym mis Ebrill:
7fed Neuadd y Ddraig Goch, Drefach Felindre
8fed Festri Aberduar, Llanybydder
9fed Neuadd Ysgol Gyfun Dyffryn TeifiI ddechrau am 7.30yh
Pris i oedolion: £2.50
Pris consessiwn : £1.50
Prosiect Dyslecsia Cymru
Prosiect Dyslecsia Cymru sy’n cynnwys rhestr o bethau sydd eisiau ei wneud a na ddylid ei wneud.
Termau rygbi Cymraeg
Rugby terms in Welsh – handi iawn, nid jyst i ddysgwyr yr iaith, ond i ddysgwyr y gêm, fel fi. Cywilydd arnaf am byth, ond dim ond nawr ydw i’n dechrau gweithio mas beth mae pawb yn y tîm yn ei wneud.
Diolch Telsa!
Mae hi’n gofyn:
Still looking for these, or I haven’t figured them out yet.
- dummy – dwmi?
- space – gofod/bwlch?
- substitute – eilydd?
- replacement – eilydd gwaed?
- wide, out wide – yn llydan?
Cywiriadau yn y sylwadau, os squelch yn dda.
Dod yn Ddwyieithog gyda Suw
Becoming Bilingual – Or How To Learn Any Language Without Pulling Your Hair Out In The Process
Cyfres o gofnodion (a gaiff eu casglu fan hyn, mae’n debyg) gan Suw Charman, sy’n golygu eu bod nhw wedi sgwennu yn dda, ac yn dod o’i phrofiad real o ddysgu Cymraeg y “ffordd anodd”, hynny yw, tra oedd hi’n byw yn Berkshire.
Dw i wedi dweud ers sbel ei bod hi’n amser i mi ddysgu iaith newydd. Bydd yn ddiddorol gweld beth bydda i’n wneud yn wahanol ar ôl dysgu pobl eraill am bum mlynedd. Ond dw i’n methu penderfynnu pa iaith i’w dysgu. Dw i wedi prynu cwrslyfr Gwyddeleg, ond sa i wedi dechrau gweithio ar hwnna. Byddai’n well ’da fi dysgu iaith trwy gyfrwng y Gymraeg, os ydy hynny yn bosibl, ond ar wahan i hynny, does dim llawer o ots. Mae bob iaith yn brydferth, ac yn werth dysgu.
Ar yr un trwydded â chofnod Suw, dyma Wikibook ar sut i ddysgu iaith. Ro’n i’n meddwl oedd hyn mor dda , wnes i ei lungopio a’i roi i bob dysgwr yn fy nosbarthiadau. Mae tipyn o crossover rhwng hyn a beth mae Suw yn dweud, ond mae’n debyg y bydd Suw yn mynd i mewn i’r peth yn fwy manwl nag sy’n bosibl mewn Wicilyfr.
O’r erthygl honna, des i ar draws Cyfnewidfa Ieithoedd, sef lle i gwrdd â phobl sy’n barod i dy helpu di gyda’r iaith wyt ti am ei dysgu, os wyt ti’n gallu eu helpu nhw gyda’r iaith maen nhwthau am ei dysgu. Mae dros 650 o aelodau sydd am ddysgu Cymraeg!
Bone up on Your Welsh
(Hen newyddion, ond dw i wedi bod yn fishi…)
Colin and Cumberland yw ymgais diweddaraf y Beeb i wneud dysgu Cymraeg yn cwl. Y peth rhyfedd yw, mae e’n wych, a sdim rhaid bod yn ddysgwr i’w mwynhau. Dim ond un pennod sydd ar gael hyd yn hyn, ond mae hwnna yn arbennig o dda, os wyt ti’n gallu anghofio’r ffaith taw Stuart Cable sy’n wneud llais Colin – rhywbeth do’n i ddim wedi sylweddoli nes i mi ddarllen hwn.
Mor braf i weld rhywbeth sy’n derbyn bod ’na rhywbeth braidd yn afreal am ddysgu iaith fel y Gymraeg, ac os wyt ti’n mynd i’w wneud, man a man wneud e am resymau gwirion fel dy fod di wedi twyllo dy ffordd i mewn i job fel DJ yn y “language slot” ar orsaf lleol, heb air o Gymraeg, ac mae dy gi yn gorfod wneud y gwaith drostot ti, ac yntau’n Sais a ti yn gyn-drymiwr gyda’r Stereophonics ac yn Gymro proffesiynol sydd, yn erbyn pob disgwyl yn llai pryfoclyd erbyn hyn na’r band gadawest ti, er taw ti oedd yr aelod mwya pryfoclyd ar y pryd.
Ers pryd ydw i’n amddiffyn Stuart Cable?
Ers i mi weld fy nhad cerdded i gwrdd â ni heddi, a siarad fel normal, ac edrych ymlaen at ddod yn well byth, yn lle marw cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda. Mae ’na bethau waeth yn y byd na chyn-ddrymwyr y Stereophonics, hyd yn oed os ydyn nhw’n methu galw bandiau Oes Auraidd Roc gan eu henwau go iawn: “The Purps”, “The Sabs”, “The ‘DC” ac yn y blaen.
Waw. Mewn un frawddeg yna des i’n agos at ddarbwyllo fy hun bod Stuart Cable yn waeth na chanser, wedi’r cwbl. Rhaid mod i’n fwy blinedig nag o’n i’n meddwl.
Paid gwrando arna i. Cer i wylio Colin a Cumberland.

Diolch i Rhys Wynn.
radioacen.fm
Mae radioacen.fm yn lansio yn swyddogol heddiw. Gorsaf radio digidol yn arbennig i ddysgwyr. Gobeithio y gallen nhw ehangu’r ystod o gerddoriaeth maent yn chwarae yn y dyfodol – dim byd yn erbyn Sain, ond mae angen mwy o amrywiaeth os ydyn nhw’n disgwyl i bobl wrando’n gyson.
Diolch i
Postiwyd yn Heb gategori
|
Tagiwyd Cerddoriaeth, Cymraeg, Dysgu, Radio
Fel dw i wedi sôn o’r blaen mae Telsa yn sgwennu am ei phrofiadau dysgu Cymraeg ar ei dyddiadur. Mae ei phrofiad diwetha ( Roedd lot, lot mwy, a roedd i’n siomedig iawn i ffeindio mas nid yr unig un i feddwl fel hwn oedd hi. Ar ôl rhai o’r sylwadau eraill, wedi argraffu mas ffurflenni cais CyI a Chymuned, ond heb eu llenwi nhw. Eto. Mae gen i theori bod y “bobl wrth-Gymraeg” yma yn wir asiantau cudd o’r mudiadau iaith, achos does dim byd sy’n wneud i fi deimlo mwy fel mynd mas fin nos â thun o Dulux na’r bobl ’ma a’u hagweddau 1847aidd. (Gyda llaw, os ydy unrhywun o’r BBC yn darllen hwn, byddai’n werth sieco’r llun ar y dudalen ’na. Sa i’n credu bod Pantycelyn yn AS i Coventry, o du hwnt i’w fedd.) Ta beth, llongyfarchiadau i Telsa am gael ei chymryd fel siaradwr Cymraeg – dyna beth wyt ti nawr, cofia, does dim angen aros yng ngeto y dysgwyr am oes.Y Dosbarth Ola?
rhaid sgrolio i lawr; does dim paraddolenni eto – diolch Telsa!) yn un dyn ni gyd yn gyfarwydd â fe, ac yn rhan anochel o’r broses o ddysgu’r Gymraeg, tybiwn i: cwrdd â Chymro wrth-Gymraeg:
Ond, wel, dw i wedi dysgu sawl peth heddiw. Pethe fel: does dim alw am ysgolion Cymraeg yn ôl fy ffrind newydd. Dim o gwbl. Dw i wedi dychmygu’r holl peth. Mae ysgolion Cymraeg yn costu dwbl cost ysgol Saesneg. Scandal yw hon, mae’n debyg, a dim yn deg. Dim byd i’w wneud gyda state of the building, o na. O, ie: does dim eisiau gwasanaethau Cymraeg gan y cyngor; neu gan unrhyw corff swyddogol. A beth am y pobl sy’ moyn gwneud pethe yn Gymraeg? Wel, maen nhw’n gallu siarad Saesneg, ydyn nhw?