Paul Flynn

Diolch i Chris Castle am ddod â hyn i’n sylw: cyfieithiad o erthygl Barn gan Paul Flynn o 2001.

To find the Welsh nation, we must search in the language. That’s the abode where the centuries of the wisdom, humour and ambitions of the peoples of Wales live.

There is an embryo body in the Welsh Labour Party dedicated to the memory of Lord Cledwyn that is slowly emerging. Sadly most of the party leadership is content to stand aside and collect the electoral dividend of Plaid Cymru’s divisions.

The warning on the threat to Welsh should be heeded by all parties. Ireland bitterly regrets that their tardy action to support their language came only when it was close to extinction.

Drueni nad yw’r wreiddiol ar gael ar y we. Tybed oes cynllun i roi hen erthyglau Barn arlein? Trysor i’r genedl, ac yn y blaen.

Gwranda, Mr Pugh

Erthygl yn y Western Mail gan Steffan Cravos sy’n ymateb i erthygl Alun Pugh ddechrau’r wythnos.

Alun Pugh naively makes this judgment: “Major companies like Tesco and Ikea are happy to work on extending bilingual provision without the stick of legislation”.

The tokenistic exceptions of sporadic and piecemeal developments to which he refers prove the rule; unless private companies are required by law to operate bilingually, they mostly choose not to do so.

Alun Pugh suggests that a new Welsh Language Act would “alienate the 80% of people in this country who have not been fortunate enough to learn both our national languages”. There is no evidence to support this view and it is surely scandalous for Alun Pugh to be so divisive.

Hir ei dafod, byr ei wybod.

I fod yn deg i Alun Pugh, mae e’n gwybod yn union beth mae’n wneud, sef yr un peth mae Plaid Lafur wedi bod yn wneud ers dyddiau George Thomas: cadw’r di-Gymraeg yn ofnus o’r Nashis gan ddweud eu bod nhw mewn perygl o fod yn ddinasyddion ail-radd yn eu gwlad eu hunain. Sôn am y bobl sy’n galw am, a gweithio tuag at sichrau, hawliau sifil i’r 20% o bobl Cymru sy’n siarad Cymraeg fel eu bod nhw yn fygythiad i hawliau sifil y 80% o bobl Cymru sy ddim yn siarad Cymraeg. Mae hyn yn dacteg oedd Southern Democrats yr UDA yn ei ddefnyddio yn y 60au i gadw cefnogaeth y croenwynion tlawd; demoneiddio protestwyr hawliau sifil.

Ac hyn yn yr un wythnos a gollon ni Rosa Parks.

Gorddweud?

Dych chi wedi gweld y ffilmiau o heddweision llusgo aelodau Cymdeithas yr Iaith gan eu gwallt yn ystod protestiadau’r 70au? O’r “Cymry da” gweiddi a phoeri arnyn nhw ar loriau y Swyddfa Bost yn y 60au? Heb y protestiadau heddychlon sy wedi cadw pwysau parhaol ar yr “awdurdodau”, fyddai dim hawliau ieithyddol ’da’r Cymry Cymraeg o gwbl. Mae Alun Pugh yn siarad fel bod siaradwyr Cymraeg yn mynnu bod yn well na’r rhai sy ddim yn medru’r iaith. Ein lle ni yw gofyn am gonsesiynau gan gwmnïau mawrion fel Tesco a Microsoft, ac i beidio bod yn rhy anamyneddgar os dydyn nhw ddim yn cweit yn barod i’n bodloni. Gwell peidio cynhyrfu’r dŵr gormod gan fynnu eu bod nhw’n trin y Gymraeg yn gyfartel â’r Saesneg, neu fyddan nhw… beth? Tynnu eu busnes ma’s o Gymru? Gwynt teg iddynt.

Tasai llywodraeth Cymru â digon o geilliau i basio Deddf Iaith sy’n werth yr enw, byddai’n bosibl dweud wrth Microsoft “either you produce Welsh language versions of all your software, or we install Linux and Open Office on every publically owned computer in Wales”. Ond yn hytrach na hynny, mae Llywodraeth y Cynulliad yn gorfod mynd at Bill Gates a’u capiau yn eu dwylo, gofyn yn boleit, cynnig talu am y gwaith cyfieithu gydag arian y trethdalwr, ac wedyn dweud diolch yn fawr iawn i Microsoft ym mhob datganiad i’r wasg am y tair blynedd nesaf, fel eu bod nhw wedi wneud ffafr i ni, gan adael i ni wario ein arian ni ar feddalwedd dyn ni wedi talu i’w ddatblygu.

We are idiots babe,
It’s a wonder we can even feed ourselves.

Bob Dylan said that.

Cei di fod yn fy mreuddwyd i
Os ga’ innau fod yn dy freuddwyd di.

Dylan ddwedodd hynny, hefyd.

Symud i Gymru / Moving to Wales

Symud i Gymru: tips i bobl sy’n meddwl am symud i Gymru fach. Un o’r wefannau ’na lle mae fersiwn Saesneg yn fwy pwysig na’r un Gymraeg, am unwaith.

Moving to Wales: background information for potential immigrants. Good, beefy stuff too.

Many non-Welsh speakers feel a sense of commitment to the traditional language and lifestyle of the area in which they live, a commitment that is sometimes deeper than that of the native Welsh speakers themselves. As Stel Farrar of Bethesda, former Welsh Learner of the Year, said, “I learnt Welsh because I didn’t want to contribute to the decline of the language by bringing up a non-Welsh speaking child.” After a few months in her beginners’ Welsh class, she stopped speaking English to her 2-year-old son. As a result both mother and son were fully bilingual within two years.

Diolch, Rhys!

Buddsoddwch yn Y Byd

Rwy wedi dod i mewn i dipyn bach o arian yn diweddar, felly galla i wneud rhywbeth dw i wedi bod yn gobeithio wneud ers meityn sef prynu cyfranddaliadau ym mhapur dyddiol Y Byd. Dim ond rhyw £40,000 sydd angen arnyn nhw erbyn hyn — na, dw i ddim yn gallu fforddio cymaint â hynny, ond dyw e ddim yn swm anferthol y dyddiau hyn chwaith, nag yw? Llai na 10c y pen gan bob siaradwr Cymraeg yn y wlad.

Hanes Cymdeithas yr Iaith, a’i dyfodol

Dw i newydd sgwennu cofnod hir, ar ôl gwylio’r fideo ar hanes cynnar Cymdeithas yr Iaith o archifau’r BBC, ac wedyn ei golli fe i dduwiau creulon y blogosffêr. Treuliais i ryw awr arno fe, ac oedd yn cynnwys un o’r ffigurau ymadrodd mwya arteithiedig yn hanes rhethoreg Cymraeg. Byddai fe wedi bod yn rhodd i’r genedl, wir i chi.

O wel.

Hanfod y neges oedd gwylia’r fideo hwn ac wedyn dwed wrtha i pam nag wyt ti’n gallu dod i’r Rali yng Nghaerdydd ar Hydref 1af.

Gwefan CYD

Rhaid i mi ddweud i mi fod braidd yn sinicaidd pan glywais i bod Cyd wedi cael grant o rhyw £4500 o bunnoedd er mwyn creu gwefan newydd, ond dw i’n hapus iawn i gyfaddau taw fi oedd yn anghywir, ac mae’r wefan yn edrych yn ddefnyddiol iawn. Dw i’n lico’r ffordd nad yw’r Saesneg yn ymddangos yn awtomatig, sy’n rhoi’r dewis i’r dysgwyr sy’n ei defnyddio faint o help maent am ei gael.

Braf iawn i weld eu bod nhw’n cadw digwyddiadur ar y safle, yn enwedig achos fy mod i wedi bod mor ddiog gyda’r rhestr postio dw i fod i gadw – dim ebost ers dechrau gwyliau haf. Dw i’n gweld bod y digwyddiadur ag opsiwn i adael i “staff yn unig” olygu (ac ychwanegu?) manylion digwyddiadau – a fydd yn bosibl i adael mwy o bobl i mewn i’r sustem hwn? Hefyd, os ydy’r sustem ’na yn mynd i dyfu i fod yn adnodd cenedlaethol, a fydd yn bosibl i hidlo canlyniadau ymchwiliad gan “leoliad”, yn ogystal â chan “dyddiad”?

Cymry’n ‘troi i’r Saesneg’

Yn ôl enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni, un o’r prif broblemau sy’n wynebu dysgwyr o hyd yw amharodrwydd Cymry Cymraeg i siarad yr hen iaith gyda rhywun sydd ag acen Seisnig, rhywbeth dw i wedi sôn amdano yma o’r blaen.

“Unwaith yr oeddwn wedi mabwysiadu’r acen roedd pobl yn siarad yn fwy naturiol efo fi gan fy mod yn swnio fel Cymraes go iawn.

“Un o’r problemau i ddysgwyr yw bod swits ym meddyliau’r Cymry Cymraeg a phan maen nhw’n clywed acen Seisnig maen nhw’n troi i’r Saesneg.”

Land of my Padres

Land of my Padres – erthygl yn y Financial Times ddoe gan Luned Roberts de Gonzalez ac Oliver Balch, am sefyllfa yr iaith yn y Wladfa.

Keeping our culture alive, however, still remains a daily fight for survival. It’s like in Wales at the moment, which is being invaded by outsiders who accuse the locals of discrimination. Well, sorry boys, but if you come to Wales, learn the language. That’s what I think. But I’m not Welsh, I’m Argentine. So I shouldn’t be telling Wales what to do.

O, sa i’n siwr am hynny…

Cof Patagonia – safle S4C.
Cymru’r Byd – Dolen Ysgolion Cymru

Vodaphone yn y Gymraeg?

Newydd ddod oddi ar y ffôn â Vodaphone (oedd angen newid manylion cerdyn credyd), a rhoi’r holl fanylion i “Andy” i tseco taw fi yw’r Nic Dafis go iawn. Wrth ddod at y cyfeiriad, dyma fi’n dechrau sillafu popeth, a fe’n dweud yn swil bach “Mae’n iawn, dw i’n siarad Cymraeg”.

Gweddill y sgwrs yn Gymraeg wedyn.

Faint o “Andies” sy mas ’na tybed, a pham nad ydyw Vodaphone yn hysbysebu’r ffaith bod gennyn nhw siaradwyr Cymraeg yn eu canolfannau ymateb?

Bobi Jones

Cyfweliad â Bobi Jones, yn Saesneg gan y bardd Robert Minhinnick. Mae’r holl beth yn werth ei ddarllen, ond dyma ddau baragraff am y profiad o ddysgu Cymraeg:

I sometimes think that the full blast of simply regaining and restoring the language is as valuable and as inspiring as the language itself. First language Welsh people miss a lot, despite their many advantages. The full discovery can be breathtaking.

Getting hold of the language itself, now that in itself is a positive transforming task. Our own just heritage opens out, the country itself becomes more complete, old suppressed wounds are healed, new wonders and relationships are uncovered, and a more sensitive comprehension of internationalism in a more complete and enriching world is opened up. Apart from gaining a unique and vitally creative culture, learning the language is an honour and a revelation, particularly when done in its full context and taught in a well-graded course (not presented on the basis of ‘functional’ fads or show-biz patterns), but founded in a well-disciplined manner within the necessary sequential structures of the language. The language is a great world for everyone. Its essence and existence explain so much.

Llawer mwy o stwff diddorol yn y rhifyn arbennig Cymreig o’r cylchgrawn Transciprt.

[Diolch, Nwdls.]

Ffeit ddy pwer, Sali Mali

Blog Dogfael: Cyfarfod gyda Sali Mali:

Wrth weld tair o ferched ifainc yn rhedeg lawr i dŷ Sali Mali yn sgrechen mewn cyffro y sylweddolais fod y ddynes ryfeddol hon yn gwneud llawer mwy na difyrru ein plant. Mae Sali Mali yn haeddu ei henwi ochr yn ochr ag Arundhati Roy fel un o brif ymladdwr globaleiddio yn ein byd heddiw.

Mae’n iawn hefyd. Ces i ddadl gyda merch yn y dosbarth am hyn: oedd hi’n gweld Sali Mali fel cymeriad bach yn naff, ond doedd hi ddim wedi’i magu gyda hi (na fi chwaith, wrth gwrs, felly mae wedi cymryd sbel i mi sylweddoli pwysigwrydd y cymeriad bach oren ’ma.

Gwell Pentre Bach (a Muumimaailma a’u math) na “Disney Cymru”.

Y Cwmni Cymraeg

Mae Cwmni Cymraeg yn cynnig gwefannau am ddim i gwmnïau Cymraeg eu hiaith.

Yn syml iawn, rydym yn cynnig gwefan na fydd dim rhaid i chi fuddsoddi ceiniog ynddi, os ydych yn fodlon cadw’r wefan ar ein gweinydd ni am ffi misol rhesymol dros ben. Nid oes rhaid i chi dalu cannoedd, neu filoedd, i gwmni mawr, barus, pan bod modd i chi dderbyn gwefan wych AM DDIM gennym, ac wedyn talu llai ar gyfer llety misol na hynny buasech yn talu ar gyfer un hysbyseb yn y Tudalennau Melyn bondigrybwyll!

Mae hyn yn fodel busnes hollol newydd, yn fy mhrofiad i, a bydd yn ddiddorol iawn i weld sut llwyddiant y cân nhw.

Llyfr o obaith

Book offers hope to the “Celtic Six” languages – adolygiad o’r llyfr Rebuilding the Celtic Languages: Reversing Language Shift in the Celtic Countries (sy hefyd ar gael yn syth o’r Lolfa ond dyw e ddim yn bosibl i wneud dolen i’r dudalen berthnasol).

Mae’r llyfr â rhagair gan Joshua Fishman, a sgwennodd y llyfr hanfodol cyntaf yn y maes:

In it [y rhagair], he emphasises the importance of transferring a language from mother to child if an endangered language is to survive and prosper. “I consider intergenerational mother-tongue transmission to be the core and the bedrock of security for threatened languages, while fancy footwork and computerized theatricals to be marginal.”

Hefyd:

He also warns against “becoming miniaturized versions of the majorities.” He says, “Minorities… should also be multilingual and multicultural carriers of a life-style that is distinctively and historically their own.”

Dw i’n siwr bod gweddill y llyfr yn werth ei ddarllen hefyd, ond mae rheiny yn werth ugain punt o arain Bwrdd yr Iaith ;-)

Y Peth Cwebec

The Quebec Thing – cofnod hynod o ddiddorol, a sgwrs yn y sylwadau yr un mor ddiddorol, am hunaniaeth Montrealaidd/Cwebecaidd/Canadiaidd. O safbwynt rhywun a gafodd ei eni ym Montreal, ond mewn teulu Saesneg ei iaith, ac sy’n gefnogol iawn i iaith a diwylliant Cwebec, er ei fod yn teimlo y “bwlch” rhyngddo fe â’r Quebecois de souche.

I can’t follow the hairpin turns of conversational Quebec French well enough to watch a talk show without having to guess and fill in words and meanings. This makes me feel embarassed sometimes, in conversation, like people are “dumbing down” their French for me, if they don’t switch to English.

Wedi bod ’na, wedi neud ‘ny.

The idea that different nationalities or ethnic groups share some sort of hard-coded mental wiring is a pretty cartoonish idea of the universe, straight out of Asterix.

Mae gen i deimlad y bydd rhaid i ni cael y sgwrs ’ma o fewn yr 20/30 mlynedd nesa, os ydyn ni’n llwyddo ac mae Cymru Gymraeg i gael erbyn hynny.