Richard Powers ar gofio, cydymdeimlo a’r we

Rhoddais i linc sydyn i hwn diwrnod o’r blaen, ond dim ond nawr dw i wedi cael yr amser i wrando ar ddarlleniad Richard Powers yng Nghanolfan Lensic, Sante Fe, rhyw fis yn ôl.

Dydw i ddim yn gyfarwydd iawn â Powers; dim ond un o’i nofelau dw i wedi ei darllen, sef The Time of Our Singing. Enghraifft arall, petasai angen un, o’r ffordd dw i’n gallu gwastraffu amser wneud pethau di-ddim, tra bod llond basged o lyfrau gwych heb eu darllen yn aros amdana i.

Mae’r darlleniad yn arbennig, ac am wn i, dyw’r stori mae Powers yn darllen, “The Moving Finger”, ddim wedi’i chyhoeddi eto. Ynddi, mae Powers yn siarad yn y person cyntaf, o safbwynt nofelydd sy’n dod ar draws blog o’r enw Speculum Ludi trwy’r broses arferol mae dyn yn dod ar draws y pethau gorau ar y we: Googlo am rywbeth arall. Mae’r blogiwr, “Funes the Memoirist”, â diddordeb, os nad obsesiwn, ym maes niwrobioleg; ym mhenodol, yn y gwaith ar niwronau drych.

Rhaid i mi gyfaddau, tan y pwynt yma yn y darlleniad, a finnau ddim yn gwrando yn astud iawn, darllen pethau eraill yr un pryd, do’n i ddim wedi sylweddoli taw ffuglen oedd Powers yn ei darllen, ac nid siarad am flog go iawn. Ond oedd y busnes ’ma am niwronau mewn mwncïod (sydd efallai yn bresennol ynddon ni hefyd) sy’n tanio yn yr ymennedd pan fydd y mwnci yn gweld rhywun arall yn perfformio gweithred, yn union fel bod y mwnci ei hunan yn wneud yr un gweithred, yn swnio mor anhebyg i mi bod rhaid i mi dalu mwy o sylwi i’r hyn oedd Powers yn disgrifio.

Wedi i mi wrando yn iawn, beth oedd yn nharo oedd y ffordd mae Powers yn sôn am y profiad o ffeindio, ac wedyn dilyn, blog sy’n mynd yn syth at galon eich dychymyg. Mae adroddwr y stori yn mynd ati nid yn unig i ddarllen pob un o flogiadau Funes, ond i balu trwy domenni’r we nes iddo ganfod hunaniaeth go iawn y blogiwr. Mae’n dechrau cymryd diddordeb personol ym mywyd rhywun hanner anhysbys, ac wrth i Funes gadael sylwadau sy’n awgrymu ei fod yn colli ei gof (ei memory, os nad ei feddwl), mae diddordeb yr adroddwr yn dechrau troi yn obsesiwn yn ei dro. Mae’n cadw’r blog mewn tab yn ei borwr, ac yn ei adfywio fe a dozen times an hour. Yn y diwedd, wrth gwrs, mae Funes yn sylwi, trwy logiau ei weinydd, bod darllenydd â mwy o ddiddordeb na’r arferol gyda fe, un sy’n ymweld â’i flog yn fwy aml nag ynteu ei hunan – teimlad dw i’n ei adnabod, o’m dyddiau fel ffrind gorau Natwatch a fel ffocws un o obsesiynau dyn unig mewn caffi seiber ym Manceinion.

Dw i ddim yn cofio darllen unrhyw beth am y profiad o ddarllen blog, na’r un o fod yn flogiwr, sy’n taro pen hoelen mor sownd â’r darn ’ma. Mae Powers yn llwyddo rhoi ei hunan yn sgidiau’r syrffiwr hamddenol sy’n troi’n cyberstalker ac yn gweld ei hunan yn wneud hyn. Fel mae Dan Visel yn awgrymu ar Future of the Book, dyma stori sy’n gweithio yn well fel darlleniad byw yn hytrach na fel stori mewn llyfr, gan fod y geiriau, a manylion y stori, yn aros yn ein cof yn unig, ac mae hynny’n newid wrth i’r stori mynd yn ei blaen. Mewn geiriau eraill, mae’n mynd â byd y we, a’r profiad gweddol newydd sy gyda ni o ddarllen blogiau, yn syth yn ôl at ein gwreiddiau fel storiwyr a gwrandawyr straeon, yn eistedd o gwmpas tanau ein llwythau, gan basio dros y cyfnod cymharol byr yn ein hanes diweddar o fod yn ddarllenwyr llyfrau.

Dw i’n falch ofnadwy mod i wedi dod ar draws hyn, yn awr. Dw i wedi bod yn meddwl, o ddifri, am roi gorau i’r blog ’ma, fel dw i (bron) wedi rhoi’r gorau i redeg maes-e. Ro’n i’n barod iawn i dderbyn gair nofelydd arall dw i’n ei hadmygu’n fawr, Doris Lessing, a ddwedodd yn ei haraith at rhoddwyr Gwobr Nobel:

In the same way, we never thought to ask, “How will our lives, our way of thinking, be changed by the internet, which has seduced a whole generation with its inanities so that even quite reasonable people will confess that, once they are hooked, it is hard to cut free, and they may find a whole day has passed in blogging etc?”

Athrylith yw Doris Lessing, a dw i’n gobeithio y bydda i’n darllen ei llyfrau tra bydda i’n byw, ond tra mod i’n gallu ffeindio pethau fel darlleniad Richard Powers ar y we, a dim ond ar y we, bydda i eisiau eu rhannu gyda phobl eraill, a byddaf yn flogiwr.