Preswyliad GWRANDO yn Llangrannog

(Yr isod wedi’i gopio o wefan Canolfan Crannog.)

Bydd GWRANDO yn cynnal preswyliad yng Nghapel Crannog o 23/6/07 i 1/7/07.

Fe sefydlwyd y gydweithfa gelf sonig GWRANDO ym mis Ionawr, 2007 gan Lou Laurens a Jacob Whittaker. Mae’r gydweithfa gelf yn bwriadu darparu fforwm i’w aelodau, ac i gynnal a hyrwyddo digwyddiadau celfyddydau byw yng Ngheredigion a thu hwnt.

Mae gwahoddiad agored i unrhyw un a hoffai ymuno â’r côr, a bydd yn ymarfer ddydd Sadwrn, 23 Mehefin a ddydd Sul, 24 Mehefin, gyda pherfformiad ar y 1fed o Orffennaf. Cadwch eich lle trwy wefan Gwrando, neu ffonio 07866 371 481, neu fydd poster a ffurflen ma’s cyn bo hir.

Continue reading

Cyfarfod “Y Byd” yn Llundain

Dyma destun ebost ges i heddi, falle fydd o ddiddordeb i ddarllenwyr yn Llundain, os oes darllenwyr yn Llundain gyda ni.

Annwyl Gefnogwyr Y BYD,

Dyma neges i roi gwybod i chi am gyfarfod bydd yn cael ei gynnal gan Y BYD yn Llundain mis nesaf. Bwriad y cyfarfod fydd denu rhagor o gefnogaeth i’r fenter ac ennyn diddordeb ymysg Cymry yn Llundain – ac mae croeso mawr iawn hefyd i bobl sydd eisoes yn gefnogol.

Os ydych chi’n nabod unrhyw Gymry yn Llundain, neu unrhywun arall fyddai’n debyg o fod â diddordeb, tybed allech chi anfon y neges hon ymlaen atynt?

Dyma’r manylion:

7 o’r gloch, dydd Gwener 9 Mehefin, Royal Commonwealth Society, 25 Northumberland Avenue WC2N

“Y datblygiad pwysicaf i’r cyfryngau Cymraeg ers 1982 a sefydlu S4C.” (Huw Edwards, BBC)

Dewch i ymuno â Ned Thomas a Rebecca Williams mewn cyfarfod dwyieithog i glywed am y fenter i sefydlu Y BYD – y papur dyddiol cyntaf erioed yn Gymraeg.

Cynigir diod a bwyd ysgafn, felly byddai’n dda gennym gael gwybod o flaen llaw os ydych yn bwriadu dod.

Diolch am eich cefnogaeth,

Rebecca Williams, Swyddog Datblygu

Y Byd/Cwmni Dyddiol Cyf
Canolfan Mercator
Y Buarth
Aberystwyth SY23 1NN

Ffôn: 01970 621998
Ffacs: 01970 621524

Ydych chi’n aelod o’r Clwb Cefnogwyr? Ymunwch ar-lein heddiw!

http://www.ybyd.com

Cyfieithu’r Blogathon

Bach yn gynnar i sôn am hyn efallai, ond bydd Blogathon ’06 yn digwydd ar y 29ain o Orffennaf eleni, sef wythnos cyn y Steddfod.

Y llynedd, os cofiwch chi, buodd y ‘Thon ar ddydd Sadwrn ola’r Steddfod, sef y diwrnod gwaethaf posibl, ar ran cael blogwyr Cymraeg i gymryd rhan. Fi oedd yr unig un i flogio yn y Gymraeg, ac er i mi gael lot o hwyl, a chodi dros $1000 i Tŷ’r Eos, byddai fe wedi bod yn lot well cael bach mwy o gwmni ar y daith.

Eleni, fel soniais i o’r blaen, mae’r trefnwyr wedi gofyn i mi gyfieithu gwefan y Blogathon. Dechreuais i ar y gwaith hwn y llynedd, ond ar ôl iddyn nhw newid y dyddiad ac oedd yn amlwg taw dim ond fi fyddai ar gael i flogio, doedd dim lot o bwynt cario ymlaen gyda fe.

I wneud yn siwr bod y gwaith yn werth ei wneud eleni, dw i wedi creu addewid PledgeBank. Byddai gwybod bod pobl yn mynd i ddefnyddio’r cyfieithiad yn hwb mawr wrth i fi eistedd i lawr i’r gwaith.

Mae Blogathon yn ffordd wych o godi arian at achos da, ond mae hefyd yn ffordd heb ei ail o godi proffeil dy flog. Mae papurau lleoll wrth eu boddau gyda storiau fel hyn, a pe bai digon ohonon ni yn cymryd rhan yn y Blogathon, yn y Gymraeg, dw i’n siwr y bydd yn ddigon hawdd i gael sylw yn y cyfryngau cenedlaethol.

Beth amdano ‘te?

“Pawb ar y bws ding ding!”

Bydd y ddrama newydd hon yn cael ei pherfformio tair gwaith yr wythnos hon. Yn anffodus, dw i’n methu ffeindio unrhyw gwybodaeth arall (beth yw’r teitl, er enghraifft), ond wotsh ddys sbeis. [Gweler sylwadau.] Diolch yn fawr i Dafydd Gwylon am hala’r manylion isod i ni.

Bydd y ddrama yn cyfleu portread o fyw yng nghefn gwlad ac mewn cymuned ddwyieithog. Rydym wedi casglu argraffiadau Cymry Cymraeg a Di-Gymraeg, mewnfudwyr a dysgwyr i rannu eu profiadau, gofidion, canfyddiadau a gobeithion ynglŷn â’r sefyllfa yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru.

Byddwn yn defnyddio’r ddrama fel cyfrwng er mwyn pigo ar gydwybod, ysbrydoli a chyflyru gwahanol gynulleidfaoedd ar hyd a lled yr ardal, i fod yn hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg gymaint â phosib yn eu bywydau bob dydd. Rydym hefyd am godi ymwybyddiaeth y Gymraeg a’r di-Gymraeg fod yr iaith yn fyw, a bod yna ddiwylliant a thraddodiad yn bodoli yn ein hardaloedd.

Rydym yn gobeithio yn fawr y bydd y prosiect yn effeithio ar bobl efallai drwy eu hysbrydoli i fynd ati i ddysgu’r Gymraeg, i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddechrau sgwrs gyda phobl dieithr neu i ddanfon eu plant i ysgol Gymraeg. Beth bynnag yw effaith y ddrama ein bwriad yw diogelu’r diwylliant a thraddodiadau Cymraeg a Chymreig yng nghymunedau bro Teifi am yr oesoedd a ddêl.

Bydd tri perfformiad ym mis Ebrill:

7fed Neuadd y Ddraig Goch, Drefach Felindre
8fed Festri Aberduar, Llanybydder
9fed Neuadd Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi

I ddechrau am 7.30yh

Pris i oedolion: £2.50
Pris consessiwn : £1.50