Dave Evans

Un o’r pethau neisaf am y Dyn Gwyrdd oedd y pethau ffeindiaist ti heb edrych amdanyn nhw. Un adeg, cipiais i mewn y babell y sinema, i osgoi cawod sydyn o law. Dyna Neil Young ar y sgrîn, felly dyma fi’n setlo i lawr i wrando ar hwnna; wedyn, clip bach o Django Reinhart. Iawn, dw i’n aros am sbel ‘te.

Dal ddim yn gwybod beth ydw i’n gwylio, ond wrth iddo fe fynd ymlaen dw i’n gweld taw casgliad o glips cerddorol “gwerinol” ar hap yw e (wedi’u casglu gan Andy Votel, ond do’n i ddim yn gwybod hynny ar y pryd). Ac mae’r un nesa yn rhywbeth hollol newydd i fi, sef clip o’r Old Grey Whistle Test, adeg Whisperin’ Bob. Gitarydd ifanc, a rhai o’r fingerpicking gorau dw i wedi gweld yn fy myw: Dave Evans.

O beth dw i’n gallu ffeindio ar y we, dim ond dau albym recordiwyd gan Evans, a dim ond un ohonyn nhw ar gael ar CD. ‘Sai fe wedi cael digon o sens i farw yn ifanc fel Nicky Drake byddai’n enw cyfarwydd i bawb erbyn hyn, ond mae Dave wedi dewis byw, mewn bragdy/crochendy ym Mrwsel, lle mae hefyd yn neud gitarau bespoke. Ddim mor ramantus â lladd eich hunain yn eich hugeiniau, ond llawer mwy o hwyl, siwr o fod.

Hoffwn i roi MP3 yma, ond byddai’n well sgwennu at y dyn ei hun yn gyntaf, dw i’n credu.


[Gol.] Syth ar ôl postio’r uchod, ffeindiais i disgograffi ar wefan Dave Evans. Mae mwy o stwff mas ’na rhywle.

[Gol. 23/10/08 ychwanegwyd dolen i Bragdy de la Touffe a thwtio tagiau.