Dim ond nawr dw i’n gweld hyn, mae’n siwr bod pawb yn gwybod amdano eisioes, ond ’na fe: Dafydd ap Gwilym ar lein. Testun y gwaith i gyd, gydag aralleiriad mewn Cymraeg fodern, cyfieithiad Saesneg, a ffeiliau MP3 o’r rhan fwya (mae rhai sy ddim yn gweithio, mae’n debyg). Fel mae Languagehat yn ei ddweud, mae wedi’i wneud yn ardderchog.
Dafydd ap Gwilym ar lein
Ymateb