Llun gan Cynulliad Cymru
Newyddion da ar Quixotic Quisling yn diweddar: mae’r Cynulliad wedi newid y trwydded ar eu lluniau ar Flickr i un Comins Creadigol. Braf cael rhywbeth i’w ddathlu ar fore oer o Chwefror.
Llun gan Cynulliad Cymru
Newyddion da ar Quixotic Quisling yn diweddar: mae’r Cynulliad wedi newid y trwydded ar eu lluniau ar Flickr i un Comins Creadigol. Braf cael rhywbeth i’w ddathlu ar fore oer o Chwefror.
Dw i wedi cael cynnig bach o waith cynnal a chadw y gwybodaeth ar wefan Canolfan Cymraeg i Oedolion y Ganolbarth, sy’n hala i fi feddwl am strwythr darpariaeth Cymraeg i Oedolion, ac yn enwedig ei bresenoldeb ar y we.
Cafodd maes CiO ei ail-strwythro yn sylfaenol sawl blwyddyn yn ôl, pan sefydlwyd chwe chanolfan rhanbarthol sydd erbyn hyn yn gyfrifol am ddarparu dosbarthiadau. Mae Canolfan y Ganolbarth yn cyfro ardal eang iawn, ac yn contracto ma’s y darpariaeth; yng Ngheredigion, i Brifysgol Aberystwyth sy’n darparu cyrsiau dwys, Wlpanaidd, ac i Gyngor Sir Ceredigion sy’n wneud y cyrsiau unwaith-yr-wythnos. Mae’r Ganolfan hefyd â chyfrifoldeb dros Powys a Meirionydd, a sa i’n siwr pwy sy’n gyfrifiol am y dosbarthiadau yna. Mae’r sefyllfa yn rhannau eraill Cymru yn debyg, am wn i, gyda Chanolfannau yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr y dosbarthiadau, ac yn gyfrifol yn uniongyrchol am bethau fel marchnata cyrsiau ac hyfforddi staff.
Mae gan pob un o’r chwe Chanolfan ei gwefan ei hunan, sef (yn nhrefn eu pellder o Gaerdydd, natch):
Reit. Dyma fy mhwynt cyntaf. Heb edrych yn ôl at y rhestr uchod, dych chi’n gallu cofio un o’r URLiau? Dim ond un ohonyn nhw sy’n cynnwys enw y ganolfan, mae dau ohonyn nhw bron yn union yr un peth, un arall yn debyg iawn, a’r ddau ola yn byw mewn is-ffolder ar wefannau’r colegau sy’n rhoi llety i’r Canolfannau.
Pa mor anodd byddai prynu un parth a rhoi un cyfeiriad sy’n wneud synnwyr, ac sy’n hawdd i gofio, i bob Canolfan? Rhywbeth fel hyn:
Gwaith 5 munud oedd creu’r cyfeiriadau yna, ond dw i nawr yn gallu dweud wrthoch chi beth yw cyfeiriad gwe pob Canolfan Cymraeg i Oedolion trwy Cymru gyfan, a dyw e ddim wedi costio dim byd i’r Cynulliad.
Hei, croeso.
Pwynt dau. Gan fod pwrpas a chynnwys pob un o’r gwefanau yn debyg iawn i’w gilydd, pam oedd rhaid talu i ddatblygu chwe gwefan hollol newydd yn y lle cyntaf?
O’r gorau, mae ateb i hwnna tu hwnt i fi.
National Assembly for Wales: Healthplanonline – credwch neu beidio, mae’r ddolen honna yn anelu at dudalen Gymraeg ei hiaith, er fod y llabed <title>, bob llabed <meta>, sawl llabed <alt> a hyd yn oed enw’r ffeil ei hunan yn uniaith Saesneg. Dw i’n hoff iawn o’r linc ‘Saesneg’ gyda’r testun <alt> sy’n dweud ‘Cymraeg’. Darllen heb ddarluniau? Tyff.
Rhodri Glyn Thomas: ‘Dim ateb gan fudiadau iaith’ – ond mae’n Cynulliad ni yn gwneud job da iawn o sicrhau dyfodol i’r Gymraeg? Hmmn.
Gair o’r Cadeirydd – o’n i’n cael gip ar wefan Adeiliad Newydd Ein Cynulliad Ni, pan sylwais gyfeiriad at Cadeirydd Mao. Edrych ar y dewislen de top. A pham mae tagiau <title> ac enwau ffeiliau HTML yn Saesneg? Ac ar y fersiwn Saesneg mae ’na ddau ddolen i’r fersiwn Cymraeg, un sy’n gweithio yn iawn, ac un sy’n pwyntio yn ôl at y fersiwn Saesneg. Ar y fersiwn Gymraeg, ar ôl y tudalen gynta does dim dolen i’r fersiwn Saesneg, achos bod nhw wedi copio cynllun y tudalen Saesneg, gan gynnwys dolen i’r fersiwn Gymraeg.