Cymuned am “ddwyn cywilydd ar wleidyddion” – stori o’r BBC.
Tai, Gwaith ac Iaith
Ddoe, fe brynais Tai, Gwaith ac Iaith, argymhellion Cymuned i Arolwg y Cynulliad o’r Iaith Gymraeg. Wedyn, casglais i lyfr o’n i wedi ei archebu misoedd yn ôl o’r llyfrgell, Reversing Language Shift gan Joshua Shipman.
Braf gweld, wrth ddarllen y peth gan Simon Brooks (Cymuned), ei fod e wedi darllen y peth gan Shipman.
Honna Fishman yr adferir iaith leifrifol trwy sefydlogi cymunedau ieithyddol; gan eu diffinio fel y cwlwm rhwng aelwyd, teulu a chymdogaeth. Oherwydd bod hyn yn dasg anodd, ceir tuedd weithiau gan ymgyrchwyr iaith i bwyso am fuddugoliaeth sy’n haws eu cyrraedd, megis darpariaeth yn yr iaith leiafrifol mewn llywodraeth, y cyfryngau ac ym maes statws cyhoeddus.
Pwysleisia Fishman na allai’r rhain fyth gymryd lle y gymuned ieithyddol naturiol.
O ymhwyso dadansoddiad Fishman i Gymru, gellir gweld mai hanes y mudiad iaith fu pwyso am fuddugoliaethau corfforaethol neu ‘symbolaidd’ megis arwyddion ffyrdd dwyieithog, S4C a Deddf Iaith Newydd, yn hytrach na gwarchod ac amddiffyn sail tirogaethol cymunedau naturiol Cymraeg.
O hyn ymlaen, bydd eisiau gwneud gwarchod y cymunedau naturiol Cymraeg sy’n weddill yn brif nod ein hymdrechion i adfer y Gymraeg os yw’r iaith i fyw.
A dyma difyniad o wynebddalen llyfr Fishman:
When one significant section of the community burns with the sense of injustice, the rest of the community cannot safely pretend that there is no reason for their discontent.
Cynog a “chymuned”
Dyma rhywbeth i gnoi cil drosto, sylwadau Cynog Dafis ar y gair cymuned:
Petai Raymond Williams yn sgrifennu yn y Gymraeg, nid wyf yn credu y byddai e wedi oedi’n hir gyda’r gair cymuned. Fel y gair cyfrifiadur, nid yw’r gair cymuned yn ymddangos o gwbl yng nghyfrol gyntaf Geiriadur Prifysgol Cymru. Nid oedd cyfrifiaduron yn bodoli ryw lawer yn y 50au pan gyhoeddwyd y rhannau o’r Geiriau sy’n ymdrin â geiriau yn dechrau gyda’r llythyren ‘C’. Ond nid felly gymunedau! Y gwir yw mai dim ond yn ddiweddarach y teimlwyd fod angen yn y Gymraeg air oedd yn cyfleu’r gair Saesneg community yn ei ystyr fwyaf haniaethol, a mwyaf arwynebol hefyd efallai. Mae yna wers i ni Gymry dwyieithog yma. Beth ydyw’r gair cymuned mewn gwirionedd? Dim mwy na glos prennaidd ar y gair Saesneg – enghraifft o’r perygl, wrth inni geisio trafod syniadau deallusol yn y Gymraeg, i’r iaith ddirywio’n ddim mwy nag adlewyrchiad gwan o’r Saesneg. A hynny am ein bod yn teimlo’n rhy aml fod angen union gyfatebiaeth rhwng cysyniad gwreiddiol yn Saesneg a chysyniad yn Gymraeg. Dyna cymuned i chi felly, gair heb hanes, gair heb fawr o rin.
Ar gael yn Saesneg, hefyd.
Chwilio am gymdeithas Wga-Bwga ar y We
Ers dros blwyddyn, dw i wedi bod yn aelod o’r “weflog gymunedol” MetaFilter. Os ydy hi’n bosib i greu cymuned ar y we, MeFi yw’r esiampl orau sy ’da ni, am wn i. Dyma’r sylwadau un aelod ar pam mae cymunedau ar-lein yn bwysig.
Mae gan MetaFilter dros 11,000 o aelodau, gyda falle 10% ohonyn nhw yn postio’u sylwadau’n gyson (dydw i ddim un o’r cyfranwyr mwya cyson – fel dwedodd y bardd, dw i’n sgwennu Saesneg fel iaith farw…). Fel arfer mae ’na rhyw 20-30 o bynciau newydd i’w trafod bob dydd. Mae pethau wedi mynd bach yn wallgo ers digwyddiadau yn Efrog Newydd a DC, gyda llawer o aelodau newydd, a bron bob cadwyn trafodaeth newydd yn sôn am yr ymosodiadau bu neu’r rhai sy’n dod. Ond, fel arfer mae ’na beth wmbredd o bynciau i’w trafod, gyda man dechrau bob un yn ddolen i rywbeth diddorol rhywle ar y we.
Fel cymuned go iawn, gallwch chi ddod ar draws bob math o berson a phob math o farn. Mae rhan fwya o’r aelodau’n dod o Ogledd America, ond mae ’na ddigon o bobl Ewrop, Asia a lleoedd eraill i atal yr Iancs rhag mynd yn rhy hunan-obsesiynol. A nage, nid fi yw’r unig Cymro. Mae goleddf “rhydfrydig” (yn yr ystyr Americanaidd o’r gair) ar y safle, ond mae ’na hefyd geidwadwyr sy’n cymryd rhan yn gyson. Mae croeso i bawb a’i farn, ond dydy’r cymuned ddim yn diodde pobl sy’n treillio (trolling? – pobl sy’n dweud pethau cas dim ond i wylltio pobl eraill) neu bobl sy anwybyddu llinellau mynegi‘r cymuned, a gafodd eu creu gan berchen y cymuned, Matt Haughie.
Pam ydw i’n sôn cymaint am MetaFilter, sydd, wedi’r cyfan, gwefan Americanaidd, Saesneg ei hiaith? Achos mod i’n meddwl am greu MeFiCymru, gan ddefnyddio’r côd “ffynnon agored” sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Fy syniad yw cael seiat trafodaeth Cymraeg ei hiaith ble y gallwn ni “rannu, cyfoethogi a’n dysgu ein gilydd”.
“Ond mae seiadau trafodaeth ’da ni’n barod, y twpsin”, dw i’n eich clywed chi’n dweud yn syn.
Oes, ond ar hyn o bryd dim ond un (am wn i) sy’n cael ei defnyddio’n gyson, sef Seiat y Cynganeddwyr. Mae Negesfwrdd y Cymry Cwl yn beth eitha newydd, ond erbyn hyn mae rhan fwya o’r cadwynau trafodaeth wedi bod yn araf iawn i ddatblygu ac mae nifer o hybysebion arni hi’n cynyddu bob wythnos. Hefyd, mae ’na leoedd fel Cylch Trafod Cymuned, ond mae llinell blaid mewn lleodd felly’n gallu troi’n gylch hudol sy’n cadw’r anghyfarwydd ma’s. Mae sawl rhestr e-bostio ’da ni wrth gwrs, ond dim byd (eto, am wn i) sy’n uniaith Cymraeg neu sy’n trafod unrhywbeth ond y Gymraeg. Mae Usenet yn wlad y sbamwyr a’r treillwyr erbyn hyn, ondyfe?
Dydw i ddim yn debyg i wneud unrhywbeth ymarferol yn fuan. Ond unwaith bydd y côd ar gael, bydda i’n dechrau chwarae gyda fe ac ymchwilio’r posibiliadau. Os oes awgrymiadau ’da chi, defnyddiwch y blwch trafod isod neu ebostiwch nhw ataf. Diolch.
O Benyberth i Gymuned
65 mlynedd yn ôl, ar y 8fed o Fedi, 1936, aeth tri dyn parchus i losgi ysgol bombio byddin Lloegr ym Mhenyberth.
Ar fy ffordd i Grymych.
Rhodri Glyn Thomas: ‘Dim ateb’
Rhodri Glyn Thomas: ‘Dim ateb gan fudiadau iaith’ – ond mae’n Cynulliad ni yn gwneud job da iawn o sicrhau dyfodol i’r Gymraeg? Hmmn.
Dwy neges gan Cymuned
Dwy neges fer oddi wrth Cymuned:
CYFARFOD CRYMYCH. 2 o’r gloch pnawn Sadwrn, 8 Medi 2001 yn Theatr y Gromlech. Siaradwyr: Tecwyn Ifan, Glyn Powell, Moelwen Gwyndaf, Simon Brooks. Lluniaeth yn y neuadd a’r Crymych Arms; adloniant yn hwyrach yn London House. DEWCH i gefnogi ac i dynnu sylw at broblem y mewnlifiad yn ardaloedd deheuol Cymru.
SWYDDOG GWEINYDDOL. Lleoliad – Aberystwyth; 15-20 awr yr wythnos; cyflog @ ’14,000 pro rata; rhaid wrth brofiad o Word, Access a’r We; i ddechrau 1 Hydref. Manylion/ceisiadau (ar ffurf llythyr + CV) erbyn 17 Medi i swyddfa Cymuned. (Ffôn dydd am y tro: 01970 832 304). A wyddoch chi am rywun da?
Cymuned yn ethol swyddogion
Cymuned yn ethol swyddogion – (stori BBC). Mae gwefan Cymuned wedi dechrau tyfu, gyda rhestr postio a ffeiliau swn i’w llwytho.
Cymdeithas D.J.
Cymdeithas D.J. – y think-tank Cymraeg a ffurfiodd yn yr un cyfarfodydd â cymuned. Esgusodwch fi nawr, mae gen i lawer i’w ddarllen.
Mwy am Gymuned
Ar ôl i mi ddweud ddoe bod diddordeb ’da fi yn y mudiad newydd Cymuned, daeth e-bost oddi wrth Owen Thomas, Llambed:
Yr oeddwn i yn y cyfarfod ddydd Sadwrn wedi teithio bob cam o Lambed i Fynytho mewn tua theirawr ac oherwydd ei bod hi mor llawn bu’n rhaid imi aros tu allan yn y gwynt a’r glaw ond yr oedd y cyfarfod ei hun yn wefreiddiol, yn eli i’r galon. Ar ôl misoedd o gael ein galw’n hilgŵn gan bob plaid dan haul o’r diwedd dyma gyfle i Gymry Cymraeg leisio eu barn hwy ynghylch pwysigrwydd diogelu cymunedau Cymraeg.
Gallwch ddarllen gweddill neges Owen yma, a mae gyda fe erthygl yn rhifyn newydd Barn (sy’n sôn am Cynllun Datblygu Unedol Cyngor Sir Ceredigion).
Yn ôl datganiad Cymuned (hefyd yn Barn y mis ’ma), maen nhw’n galw yn benodol am:
- fynd i’r afael â’r mewnlifiad anferth o siaradwyr uniaith Saesneg i’n bröydd Cymraeg gan sefydlu rheolaeth gymunedol ar bolisi tai yn yr ardaloedd hyn;
- fynd i’r afael â’r all-lifiad o’r boblogaeth Gymraeg ei hiaith o’n bröydd Cymraeg gan roi blaenoriaeth i bobl leol yn y farchnad dai a darparu swyddi cymwys ar eu cyfer;
- ryddhau adnoddau i’r cymunedau Cymraeg a fydd yn eu galluogi i gymhathu’r mewnfudwyr uniaith Saesneg a datlblygu polisïau penodol a fydd yn cryfhau Cymreictod yr ardaloedd Cymraeg.
Fe allwch gysylltu â Cymuned gan hala ebost at cymuned@cymuned.org neu gan lythyr d/o Y Lolfa, Talybont, Ceredigion.
Seimon Glyn
Sylwadau Glyn yn ‘annerbyniol’ yn ôl Plaid Cymru. Unrhywun yn gwybod sut galla i ymuno â Cymuned?

