Y Ffordd Ymlaen? – neges, neu erhygl braidd gan “Llion Bach” ar negesfwrdd y Cymry Cwl.
Yn boenus o syml, y ffordd i arbed yr iaith yw hon: mynnu ei pharhad. A’r unig ffordd i iaith barhau yw iddi gael ei defnyddio. Yn y dechreuad yr oedd y gair. A anghofiwyd y gwirionedd syml hwnnw? Siaradwn Gymraeg, felly, a siaradwn Gymraeg ym mhobman, gyda phawb. Siaradwn gyda’r Cymro, y Sais; yr Albanwr, yr Almaenwr; y Pacistani a’r Pwyl: pawb sydd yn byw neu yn gweithio yng Nghymru. Pawb. Yn ddieithriad. Yr unig bryd y trown at y Saesneg fydd er mwyn esbonio ymadrodd chwithig neu air newydd i’r sawl sy’n dysgu. Oherwydd nid cenedl o’r Gymraeg a’r di-Gymraeg mohonom bellach, ond cenedl o ddinasyddion sydd naill ai’n medru’r Gymraeg, neu’n ei dysgu.
Ar ôl darllen erthygl yn y Teifi Seid sy’n dweud bod Seimon Glyn yn “braidd yn hiliol”, rwy’n un cam agosach at derbyn her Llion. Rwy’n gwybod yn fy nghalon ei fod e’n hollol iawn, bod ein hunig gobaith yw i beidio troi i’r Saesneg er mwyn bod yn gwrtais wrth pobl sy ddim yn fodlon dysgu iaith y wlad maen nhw’n byw ynddi.