Dysgu

Ro’n i am flogio am hyn wythnos yn ôl oedd aeth o’m pen: Gwyneth Lewis ar ddysgu Saesneg yn gyfrinachol, o’r Guardian ddydd Sadwrn diwetha ond un. Braf gweld stori bositif ar yr iaith yn y Guardian, sydd ond yn rhy barod i ail-gyhoeddu rwtsh Daily Mail-aidd er mwyn gysuro darllenwyr y Guardian ei fod yn iawn o hyd i gasau’r Cymry, er eich bod yn rhyddfrydol gofalus ym mhob agwedd arall o’ch bywyd.

Ond wrth gwrs, cafodd stori Gwyneth Lewis ei chladdu yn adran Family y papur, yn lle iddi fod yn y Review, fel fyddai stori am fardd uniaith Saesneg.

Paranoid, moi?

Y pwysigwrydd o gael crap da

Noson yng nghwmni y pum bardd ifanc sy’n gyfrifol am y cyfrol Crap ar Farddoni, yng Nghaffi’r Emlyn, Tanygroes. Prin iawn oedd y cynulleidfa, yn anffodus, ond doedd dim prinder o hwyl ar y beirdd, na’r pibydd o Wyddel, Thomas (cyfenw?), na’r parti o aelodau Côr Ger y Lli, Aberystwyth.

Noson hollol wych, sy wedi ail-lenwi fy matris mewn sawl ffordd.

Llio Rhydderch yng Nghegin Ceri

Manylion Ceri Ceri 5, Theatr Mwldan Aberteifi, nos Iau 5 Hydref 2006:

Llio RhydderchWedi’i hysbrydoli gan wychder cerddoriaeth draddodiadol, tirwedd ac iaith Cymru a thu hwnt dyma’r diweddara’ o Gegin Ceri lle mae Ceri Rhys Matthews (bagbibau, ffliwt a gitâr) yn rhannu cerddoriaeth fyw a thaith sgyrsiol o ganfyddiad drwy dirwedd gyfoethog gyda’r gynulleidfa a gwesteion arbennig – ychydig fel eistedd yng nghegin rhywun gyda theulu, cyfeillion a dieithriaid, ond yn Theatr Mwldan.

Heno’r gwestai yw Llio Rhydderch y delynores deir-res amryddawn sydd â sgiliau cerddorol a repertoire di-ail ddaw o genedlaethau o draddodiad llafar dros ganrifoedd, fe’i cydnabyddir fel un o delynoresau gorau Cymru heddiw. Mae Llio yn cyfuno traddodiad cerddorol gwych â dawn ysgubol i fyrfyfyrio, ac mae wedi cwblhau sawl prosiect cydweithiol â cherddorion o bob cwr o’r byd.

Angharad o flaen eu gwell

Neges gan Steffan Cravos, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

Annwyl gyfaill

Ar ddydd Mawrth 2ail o Awst am 10 o’r gloch, Llys Ynadon Caerdydd, Adamsdown,
bydd Angharad Blythe o flaen ei ‘gwell’ am achosi difrod troseddol i Bencadlys
Llywodareth y Cymnulliad. Ym mis Hydref 2005 fe baentiodd slogan yn galw am
ddeddf iaith newydd ac yn mynni parch i’r iaith.

MAE ANGEN EICH CEFNOGAETH – Dewch draw i ddangos eich ochr.

Dyma fydd yr achos olaf o’r gyfres o weithredoedd uniongyrchol gan Gymdeithas yr
Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd yn ystod 2005.

Mae achos Angharad dros chwe mis ers y weithred wreiddiol! Goiriwyd yr achos
wreiddiol am fod yr wys a dderbyniodd i ymddangos ger bron y llys heddiw yn
uniaith Saesneg. Yr hawl i gael gwys Cymraeg oedd ymgyrch gyntaf y Gymdeithas
yn 1962!

Pan ymddangosodd Angharad yn y Llys ymn mis Mehefin. Cafodd yr achos Llys yn
erbyn Angharad Blythe ei ohirio tan Awst 2il am fod yr wys a dderbyniodd i
ymddangos ger bron y llys heddiw yn uniaith Saesneg. Fe feiodd y barnwr yn yr
achos Heddlu De Cymru am hyn a dywedodd y byddai yn anfon cwyn swyddogol atynt.
Cyhuddodd yr heddlu o wyrdroi drefn gyfreithiol drwy beidio cadw at ganllawiau’r
Cynllun Iaith.

Angharad Blythe yw’r aelod diweddaraf o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i ymddangos
gerbron y llysoedd fel rhan o ymgyrch weithredol y mudiad dros
Ddeddf Iaith Newydd. Ers mis Hydref mae 40 o aelodau wedi cymryd rhan yn yr
ymgyrch weithredol hon.

Bydd gan Angharad cymeriad tyst eithaf enwog yna i’w chefnogi!

Dewch draw i gefnogi!

Steffan Cravos

Chwedyl y Kymro Kanol

Mae’n siwr bod wedi gweld blog y Kymro Kanol erbyn hyn, ond jyst rhag ofn.

Angen mwy o flogiau yn y wir hen iaith:

Ac eisted yr oedwn prynhawngweith yng Kaer Seint yn Aruon, neud, yn y tauarn yn kymryd llynn brau. Wele, yr oed y teledydd yn dangaws da raglenn pa le roed y Lloegrwys yn brywdraw Swetenn mewn gornest pel droet, a hynn eneit achaws ei uot yn Kwpann y Byt, a phop ffecyn tauarn yn dangos hynn. Eithyr, yr oedwn rhy uedw i gyuodi o’m ystol.

Gwychder.

Cyfarfod “Y Byd” yn Llundain

Dyma destun ebost ges i heddi, falle fydd o ddiddordeb i ddarllenwyr yn Llundain, os oes darllenwyr yn Llundain gyda ni.

Annwyl Gefnogwyr Y BYD,

Dyma neges i roi gwybod i chi am gyfarfod bydd yn cael ei gynnal gan Y BYD yn Llundain mis nesaf. Bwriad y cyfarfod fydd denu rhagor o gefnogaeth i’r fenter ac ennyn diddordeb ymysg Cymry yn Llundain – ac mae croeso mawr iawn hefyd i bobl sydd eisoes yn gefnogol.

Os ydych chi’n nabod unrhyw Gymry yn Llundain, neu unrhywun arall fyddai’n debyg o fod â diddordeb, tybed allech chi anfon y neges hon ymlaen atynt?

Dyma’r manylion:

7 o’r gloch, dydd Gwener 9 Mehefin, Royal Commonwealth Society, 25 Northumberland Avenue WC2N

“Y datblygiad pwysicaf i’r cyfryngau Cymraeg ers 1982 a sefydlu S4C.” (Huw Edwards, BBC)

Dewch i ymuno â Ned Thomas a Rebecca Williams mewn cyfarfod dwyieithog i glywed am y fenter i sefydlu Y BYD – y papur dyddiol cyntaf erioed yn Gymraeg.

Cynigir diod a bwyd ysgafn, felly byddai’n dda gennym gael gwybod o flaen llaw os ydych yn bwriadu dod.

Diolch am eich cefnogaeth,

Rebecca Williams, Swyddog Datblygu

Y Byd/Cwmni Dyddiol Cyf
Canolfan Mercator
Y Buarth
Aberystwyth SY23 1NN

Ffôn: 01970 621998
Ffacs: 01970 621524

Ydych chi’n aelod o’r Clwb Cefnogwyr? Ymunwch ar-lein heddiw!

http://www.ybyd.com

Yscolan a Rímur

Fel dw i wedi sôn o’r blaen, heno oedd yn noson i edrych ymlaen iddi hi, gyda’r ail o Geginau Ceri Rhys yn ein Theatr Mwldan ni, ac hon yng nghwmni’r ddai Islandwr, Hilmar Örn Hilmarsson a Steindór Andersen. Mae Steindór yn arbennig yn y grefft o rimur, sef dull traddodiadol o lafarganu – fe yw cadeirydd (?) Iðunn, rhyw fath o gymdeithas cerdd dant Gwlad yr Iâ. Mae’r ddau Islandwr wedi recordio gyda Sigur Rós, ac mae enghreifftiau o waith Steindór ar gael ar gael yma.

Jakokoyak

Fideo o raglen Bandit neithiwr: Jakokoyak – Canada.

Mae Rhys dal un o’m ffefrynnau ar y sîn Gymraeg anglywadwy. Gwelais i fe yn Steddfod Casnewydd, ond oedd hi bron yn amhosibl ei glywed – enghraifft perffaith o daflu perlau o flaen moch. Dim ond fi, Criddle ac un neu ddau arall hyd yn oed trîal gwrando ar y boi; pawb arall yn dal i fyny gyda eu mêts a’u ciwion.

Ta beth am hynny, mae’r EP newydd ar gael nawr, mae’r safle MySpace yn cynnwys clips bach o’r CD cyntaf, a lot o ddolenni i bethau bach neis eraill.

Amser mynd am dro, dw i’nm eddwl.

Gwersi iaith am ddim i fewnfudwyr

O’r diwedd, mae rhywun wedi derbyn bod rhaid i fewnfudwyr cael gwersi iaith am ddim os ydyn nhw am gymryd swydd yng Nghymru.

Gwersi yn yr iaith fain, hynny yw.

Mandy Price, human resources manager at Le Monde Restaurants in Cardiff, said, “Providing English lessons is something we were looking at for a while and are now benefiting from this initiative.

“It has helped with attracting, retaining and developing our staff and has led to improved customer service.”

No shit, Sherlock. Ond ’sai unrhywun yn ddigon hy i awgrymu y dylai gweithwyr yn y sector twristiaeth yn y Fro Gymraeg yn cael gwersi Cymraeg am ddim (gorfodol?) tybed beth fyddai’r ymateb?

Cyfieithu’r Blogathon

Bach yn gynnar i sôn am hyn efallai, ond bydd Blogathon ’06 yn digwydd ar y 29ain o Orffennaf eleni, sef wythnos cyn y Steddfod.

Y llynedd, os cofiwch chi, buodd y ‘Thon ar ddydd Sadwrn ola’r Steddfod, sef y diwrnod gwaethaf posibl, ar ran cael blogwyr Cymraeg i gymryd rhan. Fi oedd yr unig un i flogio yn y Gymraeg, ac er i mi gael lot o hwyl, a chodi dros $1000 i Tŷ’r Eos, byddai fe wedi bod yn lot well cael bach mwy o gwmni ar y daith.

Eleni, fel soniais i o’r blaen, mae’r trefnwyr wedi gofyn i mi gyfieithu gwefan y Blogathon. Dechreuais i ar y gwaith hwn y llynedd, ond ar ôl iddyn nhw newid y dyddiad ac oedd yn amlwg taw dim ond fi fyddai ar gael i flogio, doedd dim lot o bwynt cario ymlaen gyda fe.

I wneud yn siwr bod y gwaith yn werth ei wneud eleni, dw i wedi creu addewid PledgeBank. Byddai gwybod bod pobl yn mynd i ddefnyddio’r cyfieithiad yn hwb mawr wrth i fi eistedd i lawr i’r gwaith.

Mae Blogathon yn ffordd wych o godi arian at achos da, ond mae hefyd yn ffordd heb ei ail o godi proffeil dy flog. Mae papurau lleoll wrth eu boddau gyda storiau fel hyn, a pe bai digon ohonon ni yn cymryd rhan yn y Blogathon, yn y Gymraeg, dw i’n siwr y bydd yn ddigon hawdd i gael sylw yn y cyfryngau cenedlaethol.

Beth amdano ‘te?

Blog Yscolan a Cegin Ceri

Yscolan – blog newydd gan Ceri Rhys Matthews. Dylai fod yn ddiddorol.

Edrych ymlaen hefyd at y cyfres o ddigwyddiadau cerddorol yn Theatr Mwldan dan ofal Ceri. Mae’n debyg bydda i’n colli’r un cyntaf, pan bydd Ceri yn cyflwyno y pibydd o’r Alban Allan MacDonald – mae hyn ar yr un noson ag Eisteddfod Cymdeithas Ceredigion – ond dw i’n edrych ymlaen yn arw at ymweliad Steindoór Andersen a Hilmar Örn Hilmarsson, dau gerddor o Wlad yr Iâ, i’n theatr fach ni ar y 12fed o Ebrill.