Morfablog

Jump to content.

Facebook yn Gymraeg?

Braf gweld, ar flog Mercator bod Facebook wedi derbyn y galw am fersiwn Gymraeg o’r safle.

Mae’r broses gyfieithu yn agored i bawb, ac maen nhw’n defnyddio model diddorol iawn ar gyfer y gwaith. Y cam cyntaf yw i gyfieithu’r 226 o dermau sylfaenol maent yn galw y “glossary” - gwaith sy wedi’i gwblhau eisioes. Wedyn mae rhaid i bob gair ennill hyn a hyn o bleidleisiau gan siaradwyr yr iaith - mae’n bach yn anghlir faint yn union o bleidleisiau sydd angen.

Mae hyn y beth da.

Ond…

Mae hefyd yn golygu bod llwyddiant y trosiad yn dibynnu ar y “gymuned” (eu gair nhw). Os na fydd digon o bobl yn rhoi o’u hamser i gyfieithu’r safle ac i wyrio cyfieithiadau pobl eraill, na fydd feriswn Cymraeg. Dw i’n credu bod hyn yn hollol deg; y gymuned sy wedi mynnu fersiwn Cymraeg, wedi’r cwbl.

Am unwaith, os na chaiff y Cymry Cymraeg eu “hawliau ieithyddol” bydd yn ddigon clir pwy sy ar fai.

Na, nid Rhodri Glyn Thomas.

Cymreictod Rob Brydon

Rhaglen ddiddorol ar BBC4 neithiwr, sef Rob Brydon’s Identity Crisis. Wnaeth Brydon daith fach o gigs yn Ne Cymru, gan ffilmio’r “daith darganfod hunaniaeth” oedd e arni’r un pryd. Mae Brydon yn actor arbennig (yn hytrach na “stand up” arbennig), ac oedd amheuaeth gen i a oedd Brydon wedi darganfod ei Gymreictod, neu dim ond y ffordd orau o gael laffs ma’s o gynulleidfa Cymreig. Hynny yw, bod jôcs hawdd fel “we’ve even got Welsh serial killers now” yn mynd i lawr yn well os wyt ti wedi darbwyllo’r Cymry dy fod di’n falch o fod yn un ohonyn nhw, yn hytrach na bod â chywilydd. Fel darganfyddiad cymdeithasegol mae hyn ar yr un lefel â darganfyddiad A.A.Gill bod rhai pobl yn dal dig os wyt ti’n dweud pethau cas am eu hiaith a diwylliant.

Aeth y cringe factor oddi ar y raddfa gyda chyfweliad cefn tacsi â Victor Spinetti, a’i honiad, er nad yw’n eithafol dros yr iaith, mae e’n ei charu cymaint fe hoffai fe “ei ffwcio hi”. (Ambyty 40 munud mewn i’r rhaglen.)

Ond ar y cyfan, rhaglen werthchweil. Gobeithio bod Brydon yn dweud y gwir am y newid aeth e trwyddo, a bod hynny’n arwain at rywbeth real, fel dysgu’r iaith. A dysgu’r iaith er mwyn ei dysgu, nid er mwyn bod ar y teledu.

Cymraeg Harvard

Newydd ffeindio (diolch i sylwadau ar flog Dot) y blog-ar-y-cyd gwych Harvard Cymraeg. Dw i heb ddarllen trwy’r hen flogiadau i gyd hyd yn hyn, ond o beth dw i’n deall, blog gan ddysgwyr sy’n astudio ar gwrs Celtic 128 yng ngholeg Harvard yw e.

Diddorol gweld ar dudalen y cwrs pethau fel llun o gastell Caernarfon â’r capsiwn:

Castles: Picturesque symbols of conquest.

Anodd dychmygu gweld hynny ar wefan cwrs Cymraeg yma yng Nghymru fach, heb sôn am y lluniau o brotestiadau Cymdeithas yr Iaith.

(Oedd hyn yn mynd i arwain at drafodaeth hirfaeth a dwys ar y gwahaniaeth rhwng y mudiad Cymraeg i Oedolion a’r maes CiO sy bellach wedi’i lyncu. Ond arhosa i nes bod rhywun yn fodlon fy nhalu i’w sgwennu.)

Cylchgrawn y Tiwtor

Mae cylchgrawn ar lein Y Tiwtor newydd ei lansio, gyda phroffeil y blogiwr mwyaf golygus yng Nghymru Fach yn ei rifyn cyntaf.

[Gol. A phroffeil teulu o ddysgwyr golygus iawn ar y tudalen nesaf, hefyd.]

Ond uchelbwynt a “phwynt gwerthu unigryw” y cylchgrawn, er mor anodd yw curo hwnna, yw’r tudalen o adnoddau dysgu. Llond sach o stwff defnyddiol yna, gan gynnwys gweithgaredd am Langrannog, sy wastad yn neis.

Diolch yn fawr, Cyngor y Barri

Diolch i Pads ar y maes am ffeindio’r enghreifft gorau/gwaethaf erioed o Scymraeg ar y we, sef gwefan Cyngor Tref y Barri:

Yr Enillydd yw...

Ie, enghraifft arall o gamddefnydd o gyfieithydd ar-lein di-werth (ond rhad ac am ddim!) InterTran yw hyn - ond mae hyn yn wahanol i’r llu o enghreifftiau eraill dyn ni wedi gweld dros y blynyddoedd diwetha ‘ma: nid siop smyt yw hwn ond cyngor tref.

Dychmygwch am eiliad bod y gwaith ‘ma wedi’i wneud gan gynlluniwr gwe uniaith Gymraeg, yn lle yr un uniaith Saesneg sydd ar fai yma. Dyma’r paragraff cyntaf uchod wedi’i gyfieithu’n fras:

Ymysg pethau eraill, bydd y safle hon yn cynnwys gwybodaeth ar gyfleusterau ac adnoddau ar gael yn y Barri, gan gynnwys y gwasanaethau hynny sy’n cael eu darparu gan Gyngor y Dref.

Mae hynny’n ddigon clir, ond yw hi? Dyma beth chi’n cael wrth fwydo’r uchod mewn i InterTran:

Among things other , he will be the position this containing knowledge signs opportunities and resources available crookedly the bars , with contain the services that who ‘ is heartburn have them prepare with Council the Town.

This is what happens when a town council uses an online translator instead of paying a professional. Had the website’s contents been composed in Welsh (as they are in some areas, one presumes) and then “translated” by machine like this, the paragraph above shows the kind of nonsense that would result. A bit hard to imagine this getting onto the web, isn’t it? The subtext, as so often, seems to be “Oh, fuck the Welsh, who cares? Nobody reads it anyway.”

Reddit yn y Gymraeg?

Neges gan Pat yn fy mewnflwch Facebook (dylwn i sieco hwnna yn fwy aml) ynglŷ â lleoleiddio Reddit.

If you’d like a reddit in your language, please email us with the request and we’ll get it online. All we ask is that you tell all of your [insert language]-speaking friends about it (and that you let us know if we screw something up in translation).

Rhaid i mi gyfaddau mod i ddim yn gyfarwydd â reddit cyn hyn. Dw i ma’s o’r l

Rhannwch eich Cymraeg

YouTube - Rhannwch eich Cymraeg

Dw i’n eitha hoff o’r peth gyda’r llaw yn wneud C mawr a siarad. Lwcus fod hynny ddim yn ddwyieithog. Mae angen dwylo i wneud W mawr siaradog.

Limewire Cymraeg

Ces i hwn mewn ebost heddi:

Mae’r rhaglen Limewire bellach ar gael yn Gymraeg!
*Rhannu caneuon, lluniau, fideos, meddalwedd… gyda Limewire

Mae’r fersiwn diweddaraf ar gael o http://www.limewire.com/download/

- Ar ol ei lwytho
- Clicia ar fflag bach America yn y cornel chwith isod
- Mae rhestr o ieithoedd yn ymddangos
- Dewis Cymraeg a wedyn ail-gychwyn Limewire…
a dyna ti, dy hoff raglen swopio ffeils i’w weld yn dy hoff iaith
(Gwerthaf modd mae blydi Jac yr Undeb sydd gynnon nhw ar gyfer fflag
Cymru a nid y Ddraig Goch.. be nei di?)

Sa i wedi defnyddio Limewire ers dyfodiad Rapidshare, ond mae’n braf gweld bod pethe fel hyn yn cael eu lleoleiddio.

Llythrennau amwys

Dal efo Pat - dyma beth sy’n digwydd os ti’n rhoi gorau i flogio am sbel: ti’n mynd yn ôl at dy hen restrau o hoff flogiau ac maen nhw i gyd llawn stwff diddorol. A chei di ei ailgylchu. Un adeg oedd Pat yn cyfieithu cofnodion Morfablog i Saesneg er mwyn gwella ei Gymraeg - dyma fi’n talu nôl y cymwynas. ;-)

Y tro ‘ma mae Pat wedi blogio am gofnod ar Datblogu ynglŷn â phecynnau bwyd 1.

Y peth wnaeth denu fy sylw mwya yma oedd y sylw gan MBM am y defyndd o’r ieithoedd Tsieceg a Slofaceg, sy’n debyg iawn i’w gilydd, ar becyn “Harmónie Chuti” (Tsieceg) / “Harmónia Chuti” (Slofaceg). Gan fod gwahaniaeth o ddim ond un llythyren, mae’r cynlluniwr wedi dyfeisio llythyren newydd sbon i sefyll am yr e a’r a:

maggi_harmonie_chuti2.jpg

Y rheswm mae hyn wedi tynnu fy sylw yw fy mod i wedi gweld rhywbeth tebyg i hyn ugeiniau 2 o weithiau wrth farcio gwaith cartre dysgwyr Cymraeg. Nid gyda llafariaid, ond gyda’r cytseiniau p a b ar ddechrau gair lle mae’r dysgwr ddim cweit yn siwr a oes treiglad neu beidio - mae’r llythyren sy’n cael ei defnyddio yn debyg iawn i þ Islandeg/hen Saesneg.

Pobl clyfar yw dysgwyr Cymraeg ond mae rhaid codi cyn cŵn bach Caer i ddala tiwtor Wlpan ar ei gam.


(1) Sy’n atgoffa fi o’r stori (myth trefol?) glywais i am y fam di-Gymraeg a ddaeth i’r ysgol i gwyno am y neges adroddwyd gan ei mab noson cyn trip y dosbarth i Alton Towers: “Mr Jones said we mustn’t forget our feckin’ food.”

(2) O’r gorau, sawl gwaith. Tair gwaith, o leia.

Dwyieithrwydd ar “Word of Mouth” heno

Bydd y rhaglen Radio 4 Word of Mouth heno yn edrych ar ystyr “cymdeithas ddwyiaithog” gan edrych ar y sefyllfa yng Nghymru, Iwerddon a Chanada. 11.00 yr hwyr, ail-ddarlledu fory am 4.00, ar gael o’r we wedi hynny, siwr o fod.

Diolch Pat!

Gwers hanes syml Cilmeri

llew.jpg

Llun gan Twm™, draw ar Flickr.


Gol. Gweler y sylwadau i weld yr arwydd cyn iddo gael ei wella. (Diolch Aran.)

Protest Thomas Cook

Fel Rhodri, dw i heb flogio am hyn tan nawr. Mae’n anodd gwybod beth i’w ddweud am ddigwyddiad mor hurt. Dydy hynny ddim yn stopio pobl maes-e, wrth reswm.

Chris Cope - O Flaen dy Lygaid

Jyst rhag ofn bod rhywun heb glywed am hyn, bydd Chris Cope, internet superstar (Welsh div.) ar raglen S4/C O Flaen dy Lygaid nos yfory am 9 o’r gloch. Wrth feddwl, mae’n bosibl bydda i ar hyn hefyd - wnes i ffilmiau vox pop i ryw raglen am Chris yn y Steddfod, ond mae’r boi wedi bod ar fwy o deledu na theulu Jade Goody at ei gilydd, felly pwy a wyr?

Fydda i ddim yn gallu gweld y rhaglen yn fyw (mae Talwrn y Beirdd yn cael ei recordio nos fory, ac mae tîm Philippa ynddo), felly dw i’n gobeithio y bydd ar gael ar wasanaeth newydd S4/C, Gwylio Eto.

Dyma fideo o Chris wrthi’n adolygu am ei arholiadau. Da iawn rwan.

(Read on …)

Ymgyrchu mewn cartwns

Newydd ddod ar draws Archig Cartwniau Prydain, adnodd gywch i unrhyw un sydd â diddordeb mewn agweddau y wasg Seisnig at Gymru, y Cymry, a’r Gymraeg. Dyma sawl perl o Chwefror 1970, adeg carchariad Dafydd Iwan. Symud y llygoden dros y llun i weld y capsiwn, neu roi clec i fynd at y fersiwn llawn.

How do you say 'What are you in for, mate?' in Welsh? - The Sun, Chwefror 1970 'And SIX months for the baritone... - Evening Standard, Chwefror 1970' 'Sorry - I'm Welsh' - Daily Mirror, Chwefror 1970 'I hear they're holding the Eisteddfod here this year' - Daily Mail, Chwefror 1970

Ac os ydy jôc yn werth neud, mae’n werth wneud ddwywaith.

Dydd Gwyl Ddewi gan Google

Neis iawn i weld bod Google wedi newid i logo ar gyfer gŵyl ein nawddsant:

Logo Google â chennin pedr

Yn anffodus, dim ond pobl sy’n Gwglo yn Saesneg welodd y cennin Pedr ‘ma. I’r rhai ohonom sy’n defnyddio Google Cymraeg roedd y logo yn edrych fel hyn:

Logo Google heb gennin Pedr

Do’n i ddim wedi clywed am y blodau nes i mi weld yr edefyn hwn ar y maes.

Posteri Cymdeithas ar Flickr

Cymdeithas yr Iaith 1960au & 70au - set bach o sganiadau o bosteri gigs ac ati. Rhai bydd yn gyfarwydd iawn (fel yr isod) ond rhai dw i heb weld o’r blaen, fel y poster am sengl Heather Jones Colli Iaith.

John Peel â record Edward H

Deddf Iaith - Protest Bangor 27/01/07

Manylion ar y maes.

Dysgu

Ro’n i am flogio am hyn wythnos yn ôl oedd aeth o’m pen: Gwyneth Lewis ar ddysgu Saesneg yn gyfrinachol, o’r Guardian ddydd Sadwrn diwetha ond un. Braf gweld stori bositif ar yr iaith yn y Guardian, sydd ond yn rhy barod i ail-gyhoeddu rwtsh Daily Mail-aidd er mwyn gysuro darllenwyr y Guardian ei fod yn iawn o hyd i gasau’r Cymry, er eich bod yn rhyddfrydol gofalus ym mhob agwedd arall o’ch bywyd.

Ond wrth gwrs, cafodd stori Gwyneth Lewis ei chladdu yn adran Family y papur, yn lle iddi fod yn y Review, fel fyddai stori am fardd uniaith Saesneg.

Paranoid, moi?

Y pwysigwrydd o gael crap da

Noson yng nghwmni y pum bardd ifanc sy’n gyfrifol am y cyfrol Crap ar Farddoni, yng Nghaffi’r Emlyn, Tanygroes. Prin iawn oedd y cynulleidfa, yn anffodus, ond doedd dim prinder o hwyl ar y beirdd, na’r pibydd o Wyddel, Thomas (cyfenw?), na’r parti o aelodau Côr Ger y Lli, Aberystwyth.

Noson hollol wych, sy wedi ail-lenwi fy matris mewn sawl ffordd.

Llio Rhydderch yng Nghegin Ceri

Manylion Ceri Ceri 5, Theatr Mwldan Aberteifi, nos Iau 5 Hydref 2006:

Llio RhydderchWedi’i hysbrydoli gan wychder cerddoriaeth draddodiadol, tirwedd ac iaith Cymru a thu hwnt dyma’r diweddara’ o Gegin Ceri lle mae Ceri Rhys Matthews (bagbibau, ffliwt a gitâr) yn rhannu cerddoriaeth fyw a thaith sgyrsiol o ganfyddiad drwy dirwedd gyfoethog gyda’r gynulleidfa a gwesteion arbennig - ychydig fel eistedd yng nghegin rhywun gyda theulu, cyfeillion a dieithriaid, ond yn Theatr Mwldan.

Heno’r gwestai yw Llio Rhydderch y delynores deir-res amryddawn sydd â sgiliau cerddorol a repertoire di-ail ddaw o genedlaethau o draddodiad llafar dros ganrifoedd, fe’i cydnabyddir fel un o delynoresau gorau Cymru heddiw. Mae Llio yn cyfuno traddodiad cerddorol gwych â dawn ysgubol i fyrfyfyrio, ac mae wedi cwblhau sawl prosiect cydweithiol â cherddorion o bob cwr o’r byd.

Next Page »