Rali bach

Rali bach yn Aberystwyth y bore ’ma. Edrych ymlaen at weld lluniau o Angharad Tomos a fi ar yr un protest.

*yikes*

Dw i ddim yn teimlo cweit yn gartrefol ar brotestiadau Cymdeithas yr Iaith, er mod i’n cytuno â’r galw am Ddeddf Eiddo. Wastad yn gweld pethau o tu mas ydw i, trial darllen gwefusau’r heddweision (“Hei, mae’r boi ’na’n stico posteri ar ffenestri Swyddfa’r Cyngor. Ddylen ni ei arestio neu rywbeth?”) yn lle gwrando ar yr areithiau.

Wedi’r protest, fe es i lyfrgell y Brifysgol i gael gafael ar erthyglau ambyti barddoniaeth Gerallt Lloyd Owen. Mae ‘na gymaint o dwll rhwng y gweledigaeth sy ’da ni oddi wrth ein beirdd (ac ein cantorion, wrth gwrs) a beth sy’n digwydd ar y strydoedd. Nid ar bobl dafod y ddraig mae bai am hynny, wrth reswm – maen nhw’n neud llawer mwy na’r rhan fwya ohonon ni.

Ach. Jyst teimlo bach yn isel. Dylwn ni ymweld â’r dysgwyr yn 1142.

Rali Caerdydd

Pan o’n i yng Nghaerdydd dros y penwythnos, es i i Rali Glyndwr Cymdeithas yr Iaith. Braf i weld cymaint o bobl na (yn enwedig ar ôl turnout braidd yn siomedig yng Nghrymych wythnos diwetha).

Chwaraeodd Pep le Pew a gwrandawon ni ar areithiau gan Dafydd Iwan, Sian Howys ac eraill – gan gynnwys Ffred Ffransis, wedi ymprydio am wythnos er mwyn symboleiddio’r argyfwng a gwendid ein cymunedau Cymraeg a dangos parodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb o gario baich y frwydr ein hunain. Wedyn, fe aethon ni i gyd i sefyll yn y twll ble fydd y Cynulliad newydd yn cael ei adeiladu. Falle. Un dydd.

Ar ôl y gweithgaredd hwnnw (gyda’i symbolaeth amwys: dyma ni Gymry, sefyll mewn twll mawr…), nôl â ni i’r llwyfan am fwy o Pep le Pew a set gan y Tystion. Yn anffodus, oedd yr hen bobl a lot fawr o’r bobl ifainc wedi gadael, ac oedd dim ond rhyw ddeg ar hugain ar ôl pan bennodd Tystion un o’u caneuon gyda geiriau Bill Hicks ambytu “sugnwyr cala Satan”.

Drueni. Hwnna oedd uchelbwynt y diwrnod.

Datganiad Cymdeithas yr Iaith

Datganiad Cymdeithas yr Iaith

Arestio Pedwar Aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr ymgyrch Deddf Eiddo.

Yn oriau mân bore heddiw am 1.30am arestiwyd pedwar aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, tu allan i’r brif swyddfa yn Aberystwyth, am fod ym meddiant pentwr o arwyddion ‘Ar Werth’. Roedd yr aelodau wedi eu casglu fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Eiddo ac wedi bwriadu eu defnyddio mewn protestiadau ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cawsant eu cadw yn y ddalfa dros nos cyn cael eu rhyddhau gyda rhybydd.

Myfyrwyr oedd y pedwar ohonynt, sef Ffion Mai, Aled ap Iwan, Heledd Gwyndaf a Huw Lewis oll o Geredigion.

Daw’r gweithredu hwn ychydig ddyddau cyn cychwyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych lle bydd gan Gymdeithas yr Iaith raglen lawn o weithgareddau. Ar y dydd Gwener cynhelir protrest ar faes yr Eisteddfod yn galw am Ddeddf Iaith a Deddf Eiddo.

Ym mis Medi bydd y Gymdeithas yn cynnal Rali Glyndwr tu allan i’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd yn galw ar y sefydliad i withredu dros y Gymraeg a chymunedau Cymru. Am wythnos cyn y rali bydd Ffred Ffransis yn ymprydio tu allan ‘r Cynulliad er mwyn pwysleisio difrifoldeb y sefyllfa bresennol.

Mwy o wybodaeth:
Swyddfa Cymdeithas yr Iaith – (01970) 624501
cymdeithas.com