Pwy fydd yn meddwl am y plant?

Newydd gweld hwn ar Golwg360, am y poster diweddaraf gan Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain.

Mae’r posteri’n dangos plant yn sefyll o flaen y neges, gyda disgrifiadau amdanyn nhw – “Plentyn Catholig, Plentyn Protestannaidd, Plentyn Mwslim, Plentyn Hindŵ a Phlentyn Sikh”.

Er bod y llun ar wefan Golwg ddim yn ddigon o seis i’w ddarllen yn hawdd, mae’r poster hefyd yn cynnwys y disgrifiadau eraill, megis Plentyn Dyneiddaidd, Plentyn Anffyddiol, a fy ffefryn i, Plentyn Ôl-Fodernaidd.

Does dim sôn am y rhain yn yr erthygl, sy’n ddiddorol ynddo ei hunan.

3mx12m_w565

Dw i’n methu’n lân gweithio ma’s beth sy’n wneud y poster yma yn “beryg i blant”, chwedl Linda Morgan, cynghorydd Dinas Caerdydd. Dyw’r poster ddim yn sôn am beidio dysgu plant am grefydd, na ddim hyd yn oed am fynd â nhw at eglwys neu fosg, dim ond i beidio eu labeli cyn iddyn nhw gyrraedd oedran pan allen nhw ddewis eu labeli eu hunain.

Ond mae newyddion da i gael, hefyd:

Er ei bod yn cydnabod bod gan Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain “yr hawl i gyfathrebu neges o’r fath” doedd y cynghorydd, Linda Morgan, sy’n Gristion a Cheidwadwr, ddim yn licio’r syniad, meddai.

Dw i’n falch gweld nag yw Cyng. Morgan yn meddwl bod dim hawl i Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain godi’r fath bosteri achos byddai dweud rhywbeth fel hynny yn ffasgaidd. Felly, diolch am beidio bod yn ffasgydd, Linda. Mae hynny’n golygu llawer. Ond mae hefyd yn ddiddorol gweld bod chi’n eistedd ar Cyngor Sefydlog Ymgynghorol dros Addysg Grefyddol yn y Brifddinas. Does bosib bod eich safbwynt ar bosteri’r Dyneiddwyr wedi’i liwio gan eu hymgyrch ehangach yn erbyn ysgolion ffydd?

Sancteiddrwydd ac Anffyddiaeth

Dw i newydd orffen llyfr Richard Dawkins, The Ancestor’s Tale: A Pilgrimage to the Dawn of Life, a dyma paragraff o’r dudalen ola:

‘Pilgrimage’ implies piety and reverence. I have not had occasion here to mention my impatience with traditional piety, and my disdain for reverence where the object is anything supernatural. But I make no secret of them. It is not because I wish to limit or circumscribe reverence; not because I want to reduce or downgrade the true reverence with which we are moved to celebrate the universe, once we understand it properly. ‘On the contrary’ would be an understatement. My objection to supernatural beliefs is precisely that they miserably fail to do justice to the sublime grandeur of the real world. They represent a narrowing-down from reality, an impoverishment of what the real world has to offer.

Byddai dweud “na allwn i ddweud hynny yn well fy hunan” llawn cymaint o understatement.

Dw i’n siwr mod i wedi crybwyll hyn o’r blaen, efallai ar maes-e os nad ar y blog, ond dw i wedi tueddu osgoi siarad am grefydd ar y we. Rhan o’r rheswm yw, neu oedd, mod i wedi dod i nabod cymaint o bobl o ffydd trwy’r we Gymraeg, a do’n i ddim am ddweud pethau byddai’n eu hypseto. Rhan arall yw nad oedd fy nheimladau fy hunan yn ddigon cryf – hynny yw, er mod i ddim yn credu mewn duw, do’n i ddim yn teimlo bod hyn yn fusnes neb ond fy hunan.

Ond mae sawl peth wedi newid. Am un, dw i wedi gwylio fy nhad marw o ganser yn 62 oed. Cafodd e ei hun yr un profiad o golli tad yn ara deg, ond yn 20 mlynedd yn gynt yn ei achos e; dyma oedd y peth oedd e’n honni oedd yn gyfrifol am golli ei ffydd yntau. Yn fy achos i doedd dim ffydd i’w cholli, dim ond yr amheuaeth am fynegi fy anffyddiaeth.

Yn ail, dw i’n gweld yr ymdrechion diweddar i dod â chrefydd mewn i’n bywyd gwleidyddol, boed gan Gristnogion, Mwslemiaid neu bwy ag yn beth afiach. Mae’r UDA yn fishi troi yn theocratiaeth; dw i ddim eisiau byw mewn gwlad gyda Duw ar ei hochr.

Ac yn drydydd, dydy cadw yn dawel am rywbeth mor bwysig â bodolaeth Duw er mwyn peidio ypseto dy ffrindiau ddim yn iach iawn. Os taw Cristnogion go iawn ydyn nhw, byddent yn fy maddau ;-)

Fel sawl un, dw i ddim yn hollol hapus gyda’r enw “anffyddiwr”, gan ei fod yn awgrymu diffyg rhywbeth dw i ddim yn gweld ei eisiau. Mae hyn yn fwy amlwg yn y Gymraeg, o leia i berson ail iaith fel finnau. Fel arbrofiad meddwl, dychmygwch defnyddio’r gair “anrhesymwr” i ddisgrifio person crefyddol. Fyddai fe ddim yn deg, na fyddai? Ond mae’n hollol iawn y ffordd hyn, mae’n debyg. Er hynny, dyw’r gair Bright ddim yn un dw i’n teimlo fel mabwysadwy hyd yn hyn.

I gyd dw i am wneud yw “dod ma’s” fel rhywun sy ddim yn credu mewn bodolaeth unrhywbeth uwchnaturiol, gan gynnwys Duw, angelion, ysbrydion, coblynod, sêr-ddewiniaeth, feng shui, dreamcatchers, traed cwningod na hyd yn oed Pastatarianism. Dw i ddim yn gweld eisiau cymryd y Her Gableddus, ond fel y bobl yna does dim ofn arna i.