Mae Phoo Action yn dod

Braf clywed gan The Beat bod BBC Three wedi wneud rhaglen gwerth ei gwylio, am unwaith. Sawl gwaith maen nhw’n ymddangos pennodau Two Pints a’r ffycin Hustle ’na mewn wythnos?

Ta beth, Phoo Action yw enw’r bastad, addasiad o gyfres wnaeth Jamie Hewlett i’r Face nôl yn y dydd. Ro’n i’n ffan mawr stwff Hewlett pan oedd yn wneud Tank Girl (sy wedi’i hail-lansio, gydag artist newydd, dw i’n gweld), ond dyw’r Gorillaz erioed wedi apelio ata i am ryw reswm – mae ’na rywbeth am Damon Albarn, ond oes? – felly dw i ddim wedi meddwl am Hewlett ers blynydde.

Ond mae hyn yn edrych yn wych. Fath o groesiad rhwng y Prisoner, Kill Bill, a’r Dick Emery Show. Edrych ymlaen.

[Gol.] Duh. Bydd sioe arno nos Fawrth, 12fed Chwefror, am 9.00 yh.

Woody Allen

Inside Woody Allen – mae brith gof ’da fi o ddarllen y stribedi ’ma yn y 70au, pan o’n i’n rhy ifanc i’w deall yn iawn, ond yn chwerthin arnyn nhw. Nawr dw i’n eu deall, ac mae rhan fwya ohonyn nhw’n drist iawn.

*och*

Shutterbug Follies

Os wyt ti’n ffan comics byddi di wrth dy modd gyda Bee – Shutterbug Follies gan Jason Little, Efrog Newydd. Yr unig problem yw, dyw y stori ddim wedi bennu eto: darllenais i drwy’r 37 tudalen sydd ar y wefan ac yn awr dw i’n ffaelu aros am rifyn 38.

O.N. O’n i meddwl oedd yr enw yn gyfarwydd – Jason Lytle yw canwr gyda Grandaddy, un o’r grwpiau gorau i ddod o’r Amerig yn ddiweddar. Dyma cyfweliad gyda nhw a dyma tirwedd Grandaddy.