Pe tasai Jon Stewart yn siarad Cymraeg

Jyst rhag ofn bod rhywun yn darllen hyn sy ddim yn dilyn blog Chris Cope, mae ei gofnod fideo diwetha ’na yn wych: Arth sy’n Dawnsio: Parablu.

Dyma’r fideo ar YouTube, rhag ofn dy fod di am adael sylw fan ’na.

Mae Chris yn llygad ei le, mae angen lot mwy o bethau fel hyn arnon ni, a mwy o drafodaeth hefyd.

Mae hefyd yn ddoniol iawn, a ’sai rhywun yn S4C am ddilyn traddodiad y pedwaredd sianel o wneud fersiwn cartre o talk shows Americanaidd, Chris fyddai’n ddewis naturiol am Gymreigio’r Y Sioe Beunyddiol.

Chris Cope – O Flaen dy Lygaid

Jyst rhag ofn bod rhywun heb glywed am hyn, bydd Chris Cope, internet superstar (Welsh div.) ar raglen S4/C O Flaen dy Lygaid nos yfory am 9 o’r gloch. Wrth feddwl, mae’n bosibl bydda i ar hyn hefyd – wnes i ffilmiau vox pop i ryw raglen am Chris yn y Steddfod, ond mae’r boi wedi bod ar fwy o deledu na theulu Jade Goody at ei gilydd, felly pwy a wyr?

Fydda i ddim yn gallu gweld y rhaglen yn fyw (mae Talwrn y Beirdd yn cael ei recordio nos fory, ac mae tîm Philippa ynddo), felly dw i’n gobeithio y bydd ar gael ar wasanaeth newydd S4/C, Gwylio Eto.

Dyma fideo o Chris wrthi’n adolygu am ei arholiadau. Da iawn rwan.

Continue reading