Wythnos yn ôl, ar ein ffordd i Ynys Môn, treulion ni noson yn Nhregaron, gan fod ffrind yn dathlu ei phen-blwydd yn nharfarn y Talbot. Cyrraedd yn gynnar, braidd, er mwyn sieco mewn i’n gwely a brecwast, ac hefyd i gael cip yn siop ac oriel Rhiannon.
Mae’r siop wrthi’n dathlu ei phen-blwydd ei hunan eleni, a phedwar deg o flynyddoedd o greu gemwaith Cymreig yng ngogledd Ceredigion. Fel rhan o’r dathliadau, mae Rhiannon wedi penderfynnu arddangos ei chasgliad personol o emwaith y Celtiaid, mewn Amgueddfa Geltaidd fach newydd. Mae ’na wledd o bethau hyfryd yn y casgliad, a dyna fi’n difaru’n barod mod i wedi dod ar wyliau heb gamera ond yr un sy ar y ffôn newy’, ac felly dyma’r unig lun sy gyda fi sy ddim yn hollol ddiwerth, sef pedwar anifail bychan:

Ymlaen at y parti, a rhyfeddu ar y gwaith adnewyddu sy’n mynd ymlaen yn y Talbot. Dw i’n ei gofio fel lle go dywyll, o’r tro diwetha bues i yn ei berfeddion; erbyn hyn mae’r golau yn llenwi’r lle trwy ffenestri to. Yn y brif stafell fwyta, mae gwaith y ffotograffydd Rolant Dafis, astudiaethau o fyd natur sy hefyd yn taflu golau mewn i’r stafell.
Parti da, ’fyd. Canwyd cerdd dant gan y teulu a chlasuron pop Cymraeg gan bawb eraill. Ymunais yn y “la la las” a’r Mawredd Mawrion, do. Lot o sbort.
Treulion ni’r nos mewn gwely a brecwast yn Lledrod, tra bod y teulu wedi bwcio’r dafarn i gyd rhyngddynt, ond oedd y gwesty bach yn braf iawn, a’r jam cartref eirin Mair yn arbennig o dda.



