Wedi bod yn gwrando ar Ys gan Joanna Newsom trwy’r dydd. Edrych ymlaen at ei gweld yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.
Dyma dudalen o MP3au Newsom, sy’n cynnwys Little Wing Jimi Hendrix.
Wedi bod yn gwrando ar Ys gan Joanna Newsom trwy’r dydd. Edrych ymlaen at ei gweld yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.
Dyma dudalen o MP3au Newsom, sy’n cynnwys Little Wing Jimi Hendrix.
Wedi bod yn gwylio Offret Andrei Tarkovsky, fel soniais i o’r blaen. Doedd dim albym trac sain i’r ffilm hon, felly dyma fi ceisio tracio i lawr y gerddoriaeth wych: Matthäs-Passion J.S.Bach, sy’n ddigon enwog wrth gwrs, ond dyw’r fersiwn sy yn y ffilm ddim ar gael ar CD; cerddoriaeth ffliwt o Siapan sy hefyd ddim ar gael, oni bai mod i’n colli rhywbeth; a’r peth mwya rhyfedd, kulning, dull draddodiadol o alw defaid a gwartheg yn Sweden (cafodd ffilm ei wneud yn y wlad honno). Mae un darn sy yn y ffilm ar gael fel MP3 (sgrolio i lawr tipyn bach). Wrth ddarllen am kulning oedd rhywbeth yn fy nharo yn gyfarwydd, felly nôl i Google â a ffeindio mod i wedi blogio am hyn o’r blaen, 4 blynedd a hanner yn ôl.
Mae’n swyddogol ‘te. Dw i wedi bennu darllen y rhyngrwyd. Be sy nesa?
Ddim wedi gweld y blogiad yma o’r blaen, gan ei fod yn newydd yr wythnos ’ma. Ac mae MP3 bach arall fan ’na.
(Nid mwy o’r hen rwtsh yma, siwri, Nic?)
Dyma ni nôl eto; mae bywyd â blas tipyn bach mwy dwfn arno ar hun o bryd, gan fod Philippa yn yr ysbyty adennill ei nerth ar ôl llawdriniaeth ddoe. Mewn hanner awr, bydda i ar fy ffordd i Fronglais i’w gweld.
A’r bore ’ma, dyma CD newydd Peter Hammill yn y post. Dw i’n gwrando arno nawr, a hyd yn oed hanner ffordd trwyddo, dw i’n gwybod taw hwn yw’r record gorau gan Hammill ers, beth, Patience? Fel mae’n dweud, yn ei gylchlythyr newydd, mae bron pob cân arno yn dangos olion yr harten gafodd e gwpl o flynyddoedd yn ôl, felly dyw e ddim yn easy listening yn union, ond mae’n cael gafael ynddof o’r gwrandawiad cyntaf, rhywbeth sa i wedi gallu dweud am y rhan fwya o’i waith ers yr 80au, ar wahan i Present, albym Van der Graaf yn 2005.
I lay on my back, post-heart attack, conscious of the fact that I needed to i) stay awake when awake and ii) rest, absolutely, when not awake; figuratively aware of hovering just outside the final gravity of a Drop. I didn’t drop, so I don’t know if that’s how it will feel in the end, if I’m granted (or cursed with) consciousness at the (my personal) finish. I certainly had the feeling that waiting for me in those moments when the chances of my life continuing depended on coins spinning in the air was some kind of black hole, some vortex which would not release me if I went too far into its grasp. I’ve tried to express some of those feelings here. This much, at least, is a report from the front line of experience.
Ac mae’n chwibannu arno!
O, ac un am golli rhiant. Diolch, Pete. Dw i fod i yrru mewn munud.
Fel allwch chi weld o’r brawddegau gor-hir yma, dw i ddim â’r amser i feddwl am beth dw i’n dweud yma. Ond dw i’n gwybod taw cerddoriaeth Hammill a Van der Graaf fydd yr unig peth i fi yn y dyddiau, wythnosau, i ddod.
Ac nawr bod mwy o gigs Van der Graaf wedi’u cadarnhau, dw i’n gweld bod hyn yn mynd i redeg a rhedeg…
Sori.
Mae rhywun wedi hollti’r DVD wnaethpwyd o sioe gynta aduniad Van der Graaf Generator y llynedd, a’i roi ar YouTube.
Tan y munud hwn, ro’n i mewn dau feddwl ymgŷn â mynd draw i Lundain ym mis Ebrill i weld VdG.
Ond uffarch, maen nhw’n dda. Bydda i ’na.
Dyma’r gân “Darkness (11/11)”:
Mwy o’r un sioe: Undercover Man a Killer.
Mae ’na lwythi o stwff “newydd” Van der Graaf/Peter Hammill ar YouTube. Dylwn i sieco yn fwy aml.
Des i ar draws MP3 o record rhyfeddol o waith Eric Salzman pwyddiwrnod yn y Closet of Curiosities:
Billed as tropes for actor, renaissance consort, chorus, and electronics, The Nude Paper Sermon is a conceptual audio theatre piece commissioned by Nonesuch Records in 1968. It features Stacy Keach, an actor known mainly by his starring role as Mike Hammer in the TV series of the same name. The piece revolves around texts from John Ashbery‘s “Three Madrigals” and “The Nude Paper Sermon” written by Steven Wade.
Dw i’n methu ffeindio dim byd am Steven Wade, a does dim sôn amdano yn y cyfweliad yma gyda merch Eric Salzman, er ei bod hi’n sôn am Keach a Ashbery.
Hunanladdiad roc a rol, gan Tally Brown – wel, gan rhyw Sais bach tenau yn wreiddiol, ond cân Tally yw hi go iawn.
Ffeindiwyd hyn ar Le Blog de Glob, blog Ffrangeg, felly dw i ddim yn deall lot o’r pethau mae’r blogiwr wedi dweud amdano, ond dw i’n credu ei fod e mor hapus gyda fe ag o’n i.
Yn ogystal â bod un o superstars Andy Warhol, mi oedd Tally yn bwnc y ffilm ddogfen Tally Brown, New York – mae’r clip ’na yn cynnwys cân arall fyddech chi moyn ei chlywed.
Ffeindiwyd cofnod ar *sixeyes y bore ’ma am y gitarydd o Wlad yr Iâ Olafur Josephsson, neu Stafrænn Hákon. Daw ei gerddoriaeth o’r un maes rhewllyd â’i gyd-Ynyswyr Sigur Rós, ond hyd yn oed yn fwy etheraidd. Mae olion Godspeed You! Black Emperor yna hefyd, ac mae Josephsson wedi’u cefnogi, mae’n debyg.
Llawer o MP3au i gael – dechrau gyda’r ddolen cyntaf a gweithio dy ffordd mewn.
Beth yw e am Wlad yr Iâ?

Un o’r pethau gorau am roi ffidl y gêm chwarae rôl yn y to, yw bod mwy o amser ’da fi i wrando ar gerddoriaeth. Dros y Sul, wnes i glirio lle ar yr iMac gan ddileu gigabeitiaid o MP3au sy wedi’u llosgi ar CDr, neu sydd ddim yn debyg i gael eu chwarae ‘to. Sy’n golygu bod chwant ’da fi nawr i ffeindio mwy o stwff i lenwi’r lle gwag. Mae’n bosibl bydd hyn yn eitha hir o gofnod…
Adolygiad sioe Peter Hammill – wedi’i sgwennu gan ffan, mae’n debyg, ond yn ymddangos ar wefan “social housing”.
I still find it strange that Hammill is still largely a prophet without honour in his own country. Apart from a brief flurry of media coverage about the VDGG reunion last year Hammill is largely ignored by both press and radio. For me there are many parallels between Hammill the more feted Richard Thompson. Both are masterful songwriters with long careers, and although both are highly prolific the standard of quality control remains astonishingly high. They are also unmistakably English. Thompson is a far better instrumentalist but I suspect that part of the reason he is better known than Hammill is that the media can safely put him in the pigeonhole marked “folk”. They really don’t know how to categorise Hammill so they just don’t bother.
Roedd tipyn o wahaniaeth rhwng Gŵyl Côr y Cewri 1984 a’r un ŵyl yn 1985. Rhywbeth i wneud â chyffuriau?
Beth oedd yr heddlu arno?
Mae hyn yn drist o gyfaddefiad, ond y prif wahaniaeth mae cerdded ma’s o swydd sefydlog a mynd yn ôl mewn amser 8 mlynedd wedi wneud i’m bywyd dydd-i-ddydd, yw bod rhaid i mi beidio prynu cymaint o CDs, llyfrau a DVDs.
Felly, bydd Morfablog yn troi yn fwy o flog MP3 dros y misoedd nesa, mae’n debyg, gan taw ar y fformat yna bydda i’n dibynnu i glywed cerddoriaeth newydd. Bydd yr MP3au ar gael ar y we rhywle arall – fydd dim byd anghyfreithlon yma, o na fydd.
Dyma ni’n dechrau felly gyda trac gan y “cymundod gwerin-kraut ôl-satanaidd, Silvester Anfang.
Silvester Anfang is the Belgian Funeral Folk collective gathered in a free folk droneband. The line-up depends on who’s available to record/perform. The compositions are mostly non-musical offertories to worship their almighty overlord Brohll, but every now and then things work out as free psychedelic improvisations.
Beth sydd i beidio ei lico?
Silvester Anfang – Verkracht Door Demonen (MP3, 9.7 MB)
Falle mod i wedi blogio hyn o’r blaen, ond mae’n werth ail-ddweud – Jacques Brel yw un o’r cewri.
Faint o gerddorion dych chi wedi gweld sy’n byw eu caneuon fel hyn?
Iesgob.
Lithium (Nirvana) gan y Polyphonic Spreeeeee.
Heb wrando ar Nirvana ers misoedd. Cofio siarad amdanyn nhw gyda Joss, sy’n tipyn yn ifancach na fi, a dweud wrtho i mi weld Nirvana yn Llundain yn y 90au cynnar ac iddo fod yn impresd iawn gyda hyn, fel o’n i wedi gweud mod i wedi gweld y Beatles neu rywbeth. Dim ond wedyn sylweddoli taw dyna yn union beth yw e. ‘Sai rhyw hen geezer wedi dweud wrtha i yn 1984 ei fod e wedi gweld Zeppelin nôl yn 1970 dyna fyddai fy ymateb i. Wnaeth yr holl rwtsh yngŷn â marwolaeth Cobain roi fi off y band am flynyddoedd, ond am gwpl o flynyddoedd yna, nhw oedd y band roc a rol ola i mi.
Manylion Ceri Ceri 5, Theatr Mwldan Aberteifi, nos Iau 5 Hydref 2006:
Wedi’i hysbrydoli gan wychder cerddoriaeth draddodiadol, tirwedd ac iaith Cymru a thu hwnt dyma’r diweddara’ o Gegin Ceri lle mae Ceri Rhys Matthews (bagbibau, ffliwt a gitâr) yn rhannu cerddoriaeth fyw a thaith sgyrsiol o ganfyddiad drwy dirwedd gyfoethog gyda’r gynulleidfa a gwesteion arbennig – ychydig fel eistedd yng nghegin rhywun gyda theulu, cyfeillion a dieithriaid, ond yn Theatr Mwldan.
Heno’r gwestai yw Llio Rhydderch y delynores deir-res amryddawn sydd â sgiliau cerddorol a repertoire di-ail ddaw o genedlaethau o draddodiad llafar dros ganrifoedd, fe’i cydnabyddir fel un o delynoresau gorau Cymru heddiw. Mae Llio yn cyfuno traddodiad cerddorol gwych â dawn ysgubol i fyrfyfyrio, ac mae wedi cwblhau sawl prosiect cydweithiol â cherddorion o bob cwr o’r byd.
Wedi fy nghaffeineiddio, a gwrando ar Beggars Banquet, un o’m hoff albyms yr Rolling Stones, a wneud bach o Gwglo o gwmpas ei drac cyntaf mawreddog, Sympathy For The Devil pan des i ar draws hyn:
Released on Dec. 5, 1968, “Beggar’s Banquet” came out just 10 days after the Beatles’ White Album…
Wnaeth hynny jyst yn fy nharo fi. Dw i ddim yn dweud bod dim byd werth gwrando arno y dyddiau ’ma – dw i’n prynu mwy o gerddoriaeth gan artistiaid cyfoesol nag ydw i wedi neud erioed – jyst y ffaith bod dau albym fel hynny yn dod mas o fewn pythefnos o’i gilydd…
Ocê, sori, gormod o goffi.
Iawn, wedi sôn am (yr unig) peth negyddol ym mhenwythn os y Dyn Gwyrdd, dyma un o’r pethau positif: Circulus, band “gwahanol” o Loegr ddyfnaf. Un o’r bandiau all fod yn bryfoclyd dros ben ’set ti mewn hwyliau drwg, ond mewn cau mwdlyd a mwglyd does dim byd gwell. Gallwch chi fod wedi darllen amdanyn nhw yn y Guardian y llynedd, ond i werthfawrogi eu hapêl arbennig, mae rhaid i ti eu gweld nhw.
Basŵn!
Fel dw i wedi dweud o’r blaen, roedd Gŵyl y Dyn Gwyrdd, ond dechreuodd y peth yn wael, gan fod un o’r bandiau ro’n i eisiau gweld mwya, The Television Personalities, ddin wedi troi fyny.
Mae’n drist iawn, ond mae’n edrych fel bod bywyd Dan Treacy yn dilyn patrwm Syd, ond mewn slo-mo.
Un o’r pethau neisaf am y Dyn Gwyrdd oedd y pethau ffeindiaist ti heb edrych amdanyn nhw. Un adeg, cipiais i mewn y babell y sinema, i osgoi cawod sydyn o law. Dyna Neil Young ar y sgrîn, felly dyma fi’n setlo i lawr i wrando ar hwnna; wedyn, clip bach o Django Reinhart. Iawn, dw i’n aros am sbel ‘te.
Dal ddim yn gwybod beth ydw i’n gwylio, ond wrth iddo fe fynd ymlaen dw i’n gweld taw casgliad o glips cerddorol “gwerinol” ar hap yw e (wedi’u casglu gan Andy Votel, ond do’n i ddim yn gwybod hynny ar y pryd). Ac mae’r un nesa yn rhywbeth hollol newydd i fi, sef clip o’r Old Grey Whistle Test, adeg Whisperin’ Bob. Gitarydd ifanc, a rhai o’r fingerpicking gorau dw i wedi gweld yn fy myw: Dave Evans.
O beth dw i’n gallu ffeindio ar y we, dim ond dau albym recordiwyd gan Evans, a dim ond un ohonyn nhw ar gael ar CD. ‘Sai fe wedi cael digon o sens i farw yn ifanc fel Nicky Drake byddai’n enw cyfarwydd i bawb erbyn hyn, ond mae Dave wedi dewis byw, mewn bragdy/crochendy ym Mrwsel, lle mae hefyd yn neud gitarau bespoke. Ddim mor ramantus â lladd eich hunain yn eich hugeiniau, ond llawer mwy o hwyl, siwr o fod.
Hoffwn i roi MP3 yma, ond byddai’n well sgwennu at y dyn ei hun yn gyntaf, dw i’n credu.
[Gol.] Syth ar ôl postio’r uchod, ffeindiais i disgograffi ar wefan Dave Evans. Mae mwy o stwff mas ’na rhywle.
[Gol. 23/10/08 ychwanegwyd dolen i Bragdy de la Touffe a thwtio tagiau.
Casgliad o recordiadau 78rpm ar MP3. Mae’r stwff ’ma mor hen dyw hawlfraint ddim yn broblem bellach.
Ers i mi ddod o hyd i Sufjan (ie, ie, fi yw’r un ola, fel arfer), mae blas ’da fi am dipyn bach o fanjo.