Gwrando ar bodlediad Mark Kermode, a chan bod dim byd well ’da fi wneud gyda fy nwylo (ahem! taw yn y cefn!), hwpo ymadroddion ar hap o’r darllediad mewn i Google i weld beth sy’n dod lan.
Ti rili ddim moyn dy bartner cerdded mewn i’r stafell pan ti’n Gwglo oiled men in their pants, ond mae’n ffordd dda o ffeindio pethau fyddet ti ddim wedi gweld fel arall. Oni bai dy fod di’n chwilio am bethau fel hyn yn aml.
Ta beth: Hot Chicks With Douchebags – dyna’r ystyr trosiadol o’r gair ola, nid rhyw pornfa rhyfedd o Siapan, ni phoener. Wedi dweud hynny, poener tipyn bach, oherwydd nid safle reit-on iawn yw hwn, chwaith. Mae lefel y hiwmor yn lled isel, ond mae lled iselrwydd yn iawn bob hyn a hyn, ond yw e? A beth arall wyt ti’n disgwyl o safle sy’n casglu lluniau o ddynion hyll/nerdy/smyg/hen gyda merched del? Beckett?
Sôn am Sammy B, gydag ymddiheuriadau os ydw i wedi dwyn hyn o flog Cymraeg arall (dw i ddim yn cofio sut des i ar ei draws): Pitch ‘n’ Putt with Joyce ‘n’ Beckett. Ddim yn saff i’r gweithle – ond os ti’n darllen hyn yn y gweithle ti’n haeddu popeth ti’n cael.
Dw i dal mewn hwyliau da wedi dysgu (chwe mis ar ôl i weddill y byd, siwr fod) bod y Welsh Christian Party yn cael eu hariannu gan freindaliadau o’r anthem disgo So Macho. Diolch i’r Hen Rech Flin am ddod â fi i fyny i gyflymder ar y pwnc llosg yma.
Diwrnod fishi ddoe. Cynhadledd yn Rhos y Gilwen yn y dydd, ynglŷn â chynaladwyedd, iaith, cymuned a phob dim sy’n dda yn y byd. Caws neis hefyd. Braf cwrdd â’r Mab Afrodlon o’r maes. Dw i wastad bach yn araf wrth gwrdd â maeswyr am y tro cyntaf. Sut fyddet ti’n ymateb petai dyn ifanc yn dod atat ti a dweud “Helo Nic, fi yw’r mab afradlon”. Dw i’n amau ’sai fe wedi edrych rhyw 5 mlynedd yn ifancach, byddai hyn wedi peri cryn gofid yn eich gohebydd bregus.
Syth o’r cynhadledd i Blwmp i godi Joss a mynd â fe i Raeadr Gwy am ail rownd Brwydr Bandiau C2. Tipyn o siom oedd clywed bod 2 (3?) o’r bandiau oedd wedi ennill lle yn y rownd yma ddim wedi troi i fyny, felly o’r tri band oedd am gystadlu, tri ohonyn bydd yn mynd trwyddo i’r rownd nesa. Mewn geiriau arall, oedd yr holl beth yn wastraff llwyr o amser.
Ond na! Gan fod cyfle i ni gael swper mewn tafarn fech neis (ydyn nhw’n dweud “fech” yn Sir Faesyfed? mi ddylen nhw) lle wnaeth Saesnes sefyll efo ei phen-ôl i’r tân am funud cyn iddi adael, a dweud “Just warming Gary’s supper”, punchline i jôc dw i ddim wedi clywed ers 1976.
Ac eto, na! Gan ein bod ni’n cael gweld, os na chwrdd â, ei Glynwiserwydd. Bob tro welais i’r boi, oedd giggle o ferched tamaid bach yn rhy ifanc o’i gwmpas, oni bai am ei ymddangosiadau ar y llwyfan. Daeth e ar draws fel boi digon ffein, ond sut yn y byd gaeth e swydd ar Radio Cymru, ar wahan i’r amlwg h.y. ei fod e wedi bod ar deledu y Sais.
Ac unwaith, os na dwy- neu deir-gwaith, eto eto, gan ein bod ni’n cael clywed Stonefree (un gair neu ddau?), Meibion Ffred a Gwiber. Nid oedd Stonefree yn neud cymaint o argraff arna i a wnaethon yn Cŵps wythnos o’r blaen. Tro ‘ny, cwyn beirniadaeth adeiladol Owain Shiv oedd eu bod nhw’n chwarae yn rhy uchel i’r PA – dyna yn union y peth o’n i’n lico amdanyn nhw; oedd tipyn bach mwy o fin iddyn nhw, a nhw oedd y band oedd yn edrych yn barod i fod ar lwyfan “go iawn”. Neithiwr, gyda PA oedd yn fwy na pharod i lyncu sŵn eu Marshalls, wnaethon nhw swnio braidd yn ddi-fflach, yn fy nhyb i. Mae fy nhyb yn newid yn ôl faint mae wedi’i iro, cofiwch, a nhw oedd band cyntaf y noswaith.
Mae Meibion Ffred dal i swnio’n obeithiol iawn, ond dw i’n credu y byddan nhw’n dod ymlaen yn lot glouach unwaith bod y TGAUs mas o’r ffordd a chân nhw ymarfer yn fwy aml. Wnaeth Rhys Llwyd awgrymu y gallen nhw cymryd dalen o lyfr yr Anweledig a chynnwys mwy o elfennau PARTEH! yn eu perfformiad. Gan gofio bod y bois yma dal yn yr ysgol, bydd rhaid iddyn nhw dethol yn ofalus pa dudalenau’r llyfr ’na maent yn benthyg. Sa i’n gweld bod cael strippers a spliffs ar y llwyfan yn mynd i fynd i lawr yn iawn gyda’u rhieni ac athrawon Ysgol Dyff Teif.
Y band ola oedd Gwiber, o Lanfair Caereinion. I fi, nhw oedd y band mwya diddorol ar y noson. Mi oedd ’na rhywbeth yn y ffordd ymlaciol wnaethon nhw fynd o gân i gân oedd yn apelio ata fi, ac oedd effaith eu sŵn yn ei gyfanrwydd yn debyg i beth welais i yn Stonefree yn y Cŵps. Mi oedd egni Stooges-aidd yma, ac o’n nhw’n disgwyl fel o’n nhw’n gyfarwydd â’r holl clichés roc a rol, heb deimlo bod rhaid iddyn nhw eu hail-adrodd. Oedd y canwr yn f’atgoffa o’r Roddy Frame ifanc, ac roedd y drymwr yn gryf iawn – jyst abowt yr unig peth o’n i’n cytuno â Rhys Llwyd amdano oedd taw hwnna oedd cerddor cryfa y noson. Edrych ymlaen at glywed mwy ganddyn nhw pan byddan nhw, a’r bandiau eraill, ar y radio yn fuan.
Ai hwn yw’r cofnod hiraf erioed? Iesgob.
Gair y dydd yw hwnna.
Iesgob.