Neil Shakespeare, artist Photoshop.
Tag Archives: Celfyddydau
Arteffactau Ecsentrig
Drueni na wnes i ffeindio hyn ddoe, gan taw dyma’r fath o beth dw i wrth fy modd blogio amdanynt, sef pethau dw i wedi dod ar draws gan hap a damwain wrth Googlo am rywbeth hollol wahanol. Beth sy gyda ni ’ma yw pethau rhyfedd wedi wneud mewn sied.
Fy hoff bethau yw’r dillad a’r paciau.

Arts et Métiers Graphiques
Dw i’n benderfynnol i beidio treulio’r ddwy awr ola cwyno am ba mor flinedig ydw i – ystyr Blogathon yw 24 awr o flogio, nid 4 awr o flogio ac 20 o deimlo yn drist dros dy hunan bach. (Ond dw i yn anhygoel o flinedig, os bydd hynny yn dy wneud di yn fwy tebyg i roi tipyn bach yn y bwced.)
Dyma wefan Arts et Métiers Graphiques, sef y cylchgrawn teipograffi a dylunio dylanwadol o Ffrainc.
Saeson Obsesiynol
Mae gan Adele Prince hobi bach od: mae hi wrth ei bodd canfod trolïau siopa ar strydoedd dinasoedd mawrion Lloegr.
Mae rhaid i rhywun wneud, sbo.
Dydy hi ddim ar ei phen ei hunan chwaith.
Bydd Dogfael yn lico hyn: merch sy’n tynnu llun o bopeth mae hi’n bwyta am flwyddyn. Popeth.
Saeson, eh? Ffaelu byw gyda nhw, ffaelu wneud jôcs am losgi eu tai haf i lawr.
(Y nodyn anghenrheidiol: nid “y Saeson” yw gwir targed ein dirmyg eironig yma, ond “yr artistiaid cysyniadol”. Dyn ni’n chwarae gyda’r syniad o fod yn philistaidd, ond i fod yn deg, mae rhai o’n ffrindiau gorau yn artistiaid cysyniadol. Diolch am fod yn amyneddgar.)
I’r chwith
5 milltir i’r ddwyrain o Ffestiniog. Llun bach neis.
Dechrau arafu bach nawr, megis car sy’n dod at Ffestiniog. Chwarter ola y daith o’n blaen ni, a ddim yn hollol sir faint o betrol sy yn y tanc.
Blaidd Drwg yng Nghaerdydd
LLuniau gan dafydd o graffiti Dr Who yn y brifddinas.

Cloriau Philip K. Dick
Cloriau Philip K. Dick. 650 o gloriau i lyfrau un o’r meistri.
Amser cawod.
Arddangosfa Celf Gwyddoniaeth
Arddangosfa Celf Gwyddoniaeth. Lluniau o bob disgyblaeth gwyddonol, o ecoleg i gyfrifiadureg, o astroffiseg i technoleg nano.

Baneri wedi’u hacio
Baneri wedi’u hacio – gorfodi baneri cenedlaethol dweud stori am eu gwledydd.

Cyfarfodydd Mewn Trefi Bach America
Mae Paul Shambroom yn tynnu lluniau o “bwyllgorau blinedig” mewn trefi bychain ar draws yr UDA. Mae e wedi cyhoeddu’r lluniau mewn llyfr. Mae e’n cynnwys cofnodion y cyfarfodydd gyda’r lluniau. Mae’n fyd gwahanol, gyffeillion.

Esgyrn E.S.Christman
E.S. Christman, darlunydd, a weithiodd i’r Amgueddfa Astudiaethau Natur Genedlaethol America yn gynnar yn y ganrif ddiwetha. Lluniau anhygoel, fel yr un ’ma o benglog Claosaurus agilis.

Dychwelyd i Arkham
Lovecraft: na, nid yr album newydd gan y Super Furries, ond comic sy’n seiliedig ar waith H.P.Lovecraft.
Dim amser ’da fi ei ddarllen nawr – un i Mordecai, efallai.
Amgueddfa Meicroffôn Rwsia
When we think of great technical achievements of the Soviet Union, big and politically important things come to mind.
Like, space vehicles. Weapons.
However, the fact is, since WWII and till it’s end, The Soviet Union has been repeatedly bringing up some real gems in the very nonpolitical, separated art of microphone-building.

[Trwy Pop Peth. Ahem.]
Y Waun gan Jim Heath
Mae Jim Heath yn artist sy’n byw yn Y Waun, ac mae sawl darn ganddo yn y pentre. Fe wnaeth y ffrâm o gwmpas y map wrth yr orsaf – falle y map ei hun hefyd, sa i’n gwybod. Mae’r darn hwn tu ocirc;l i fynwent y pentre, ar bwys adeilad y Sgowtiaid. Dw i’n ei chofio pan oedd hi’n goeden.
Ar ddydd Sadwrn ola fy Nhad, es i gyda Philippa am wâc bach yn Wrecsam a gwelon ni darn o waith Jim yn llyfrgell y dre, gosodiad mawr sy’n dwyn y teitl Ship of Dreams – doedd dim camra ’da fi, wrth gwrs.
Taith Dogfael
Mae ’na bethau ar Flickr sydd ond yn wneud sens os wyt ti’n eu gweld yn y cydestun cywir. Edrych ar ffrwd Dogfael ar y funud ac mi weli di lot o luniau sy ddim yn edrych yn arbennig o ddiddorol, ond edrych arnyn nhw fel cyfres o sleidiau ac maen nhw’n wneud sens perffaith. Darn o waith celf, dwedwn i.
Ble mae’r Jetée Gymru?
Julian Beever
Mae Julian Beever yn artist y palmant sy’n arbenigo mewn lluniau 3D.

[Diolch i Siôn Jobbins am y linc.]
Breuddwydiaf am Stevie…
Pam fyddet ti’n talu rhywun i dy anfarwoli mewn paent, ’set ti’n gallu dy anfarwoli gyda Stevie Nicks?
Paid â boddran gofyn am gael dy anfarwoli gyda rhywun arall: dim ond Stevie mae Johanna yn wneud.
O, a’r blydi Celtiaid, wrth gwrs.
[trwy WFMU]
Diolch, Flickr
Mae Flickr newydd roi dau anrheg i bawb a wnaeth brynu cyfrif “Pro” gyda nhw, sef dwbli hyd y tanysgrifiad gwreiddiol, a rhoi dau danysgrifiad “Pro” arall gall yr aelod basio ymlaen at ffrindiau.
Neu, rhoi fel gwobr mewn cystadleuaeth ffotograffiaeth.
Manylion i’w dilyn.
Oriel Genedlaethol i Aberteifi?
Mae Peter Lord am greu Oriel Genedlaethol yng Nghastell Aberteifi.
Cardigan Castle could become the home of Wales’ only national museum of Welsh art.
The proposal – which is being championed by eminent Welsh art historian Peter Lord – earned the enthusiastic approval of a packed public meeting in Bethania vestry on Monday night.
Mr Lord has already acquired three collections of 200 paintings – worth £750,000 – to kick start the venture. He now plans to look for £3.5m endowment funding to finance the running of the museum, which would be open free to the public. Mr Lord will report back to Ceredigion next month with a business plan.
Flickr: The Cloriau Clasurol Pool
Cronfa y Cloriau Clasurol. Mae mwy o bobl wedi dechrau postio sganiadau o’u hoff hen recordiau Cymraeg, gan gynnwys llawer o bethau dw i erioed wedi’u gweld, a rhai bandiau dw i heb clywed amdanyn nhw.
Ble aeth Yr Awr, er enghraifft?



