Morfablog

Jump to content.

Toriadau papur

Newydd weld hyn ar flog John Shelley - toriad papur a roddwyd iddo fe ar ei daith i Fongolia’n ddiweddar.

(Wedi dileu’r llun ar ôl gweld neges hawlfraint ar y blog. Wps.)

Mae gweld hyn wedi f’atgoffa o’r ddau lun, o fy mam a’i chwaer fel plant, sy ‘da fi ers i mi adael tŷ’r rhieni yn yr wythdegau. Sdim lot o wythrychau teuluol o’r ochr mam y tyl ‘da fi, felly dw i’n hoff iawn o’r rhain.

Anne   Helen

Cartwniau canoloesol

Archif cartwniau cynnar sy’n mynd yn ôl at y flwyddyn 300. Ddigon hen?

Ffeindiwyd hyn trwy Metafilter lle mae rhywun wedi cysylltu â’r cartwn am gaws ar dost o 1913.

Ellis Nadler

Lluniau Ellis Nadler - darluniwr o Lundain. Gwychder.

Mae rhagor ar Flickr.

Llyfrau y Byd Arall

Canolfan Celfyddydau’r Llyfr - amgueddfa/oriel sy’n arbenigo mewn llyfrau wedi’u creu, neu eu hail-greu, gan law’r artist.

CHRISTOPHER HAMMOND CHEUNG    Ville de Paris Telephone Book

Losins!

Cofnod PingMag ar losins a thegannau o Siapan. Llawer o hwyl.

Aros am fy nysgwyr bore ddoe, yn festri capel Bethania, heb lot i wneud, es i drwy drar yn yr hen ddesg o’n i’n eistedd wrtho, a des i ar draws papurau Spangles a ches i drawiad hiraeth surfelys - ie, jyst fel y losin ei hunan.

Sbwci.

Mae’r papur yn fy waled nawr, jyt rhag ofn.

Trwy Number Six, blog brawd Mikal Dyas (isod).

Mikal Dyas

Cyrhaeddodd y CD soniais i amdano pwy diwrnod, Songs of Green Pheasant, ac mae’n swynol iawn. Mae ganddo glawr arbennig hefyd, gan yr argraffydd Mikal Dyas o ynys Guernsey. Ma’r llun ar y clawr yn dod o gyfres Y Saethwr - dyma fersiwn pendesg ohono.

David Choe

Newydd weld David Choe. Mae’n llawn egni anhygoel, ysbrydoledig iawn. Dyma rai o’i luniau.

Llun gan David Choe

grenouille plus

grenouille plus - blog Ffrangeg sy’n postio sganiadau hyfryd. Ffeindiwyd ar flog Ffrangeg arall sy’n wneud mwy neu lai yr un peth.

Encore : Cerddoriaeth yng Nghymru

Diolch i Dafydd am y ddolen i arddangosfa arlein diweddaraf y Llyf Gen, sef Encore : Cerddoriaeth yng Nghymru. Mae’n llawn o luniau gwych fel hyn o’r Blew. Yn anffodus, fel mae Dafydd yn sôn, mae llawer o gamgymeriadau yn y teitlau, ac yn enwedig, yn nyddiadau, y lluniau, ond dw i’n siwr y caiff y rheiny ei sorto ma’s toc.

Gwych hefyd yw gweld enghreifftiau o effemera Cymdeithas yr Iaith yn dechrau ymddangos ar lein, ar ôl i Gymdeithas roi ei chasgliad i’r Llyfrgell.

Linda Norris

Mae gwaith newydd gan Linda Norris ar ei gwefan, ac mae’n wych.

Sôn am bethau gwych, mae’r swyddfa yn y tŷ newydd yn wynebu’r môr, ac er mod i ddim yn gallu gweld y môr ei hunan, mae machlud yr haul yn fendigedig o fan hyn. Bydd yn anodd iawn gweithio gyda pethau fel hyn yn mynd ymlaen tu ma’s i’r ffenestr.

Sgrechflwch y Dinosoriaid

Sgrechflwch y Dinosoriaid - gorsaf radio prog roc o Frasil dw i’n gwrando arno ar hyn o bryd, ac yn sgwrsio gyda’r cyflwynydd ar Soulseek.

[Gol.] Gwaith celf Sérgio.

England’s Dreaming

Erthygl wych gan Mark Larson yn y Guardian heddi, am ddadenni’r syniad o “Seisnigrwydd” fel rhywbeth ar wahan i “Brydeindod”.

If Muriel Spark had received the call from Stockholm on Thursday, she would rapidly have been identified as a “Scottish” laureate, emails and letters quickly descending if southern journalism had claimed her for the wider kingdom. Similarly, Paul Muldoon would have been “Irish” or “Northern Irish”. But Pinter, in broadcast bulletins and most newspaper reports, was persistently “British”.

Mae’r un peth yn wir am awduron eraill o Loegr megis Alan Bennett, P.D.James, A.S.Byatt, Tony Harrison, i grybwyll rhai oddi ar dop fy mhen. Nid Prydeinwyr mo’r rhain, ond Saeson. Mae hyn yn hollol glir i ni, ac i’r Albanwyr a’r Gwyddelod, pam mae mor anodd i’r Saeson eu hunain ei weld?

(Mae mwy i ddod ar hyn, ond dw i ddim yn hollol sobr, ac mae hyn yn ardal beryglus. Rhaid sobri, a meddwl mwy.)

Gwe y Gwëwyr

Knit-wits: blogwyr sy’n gwau / gwëwyr sy’n blogio.

[dangerousmeta]

John Bauer

Newydd dod ar draws cofnod blog ar yr artist John Bauer o Sweden. Am wn i, dw i heb weld gwaith Bauer o’r blaen, ond mae’n hyfred. Cyfoeswr agos i’r Sais Arthur Rackham, roedd steil y ddau artist yn debyg, ac roeddent yn dilanwadu ar ei gilydd.

Mae gwefan Amgueddfa John Bauers yn cynnwys oriel ond er bod llun bach Jac yr Undeb yna, dw i’n methu’n lan ffeindio fersiwn Saesneg o’r safle. Dim ots, mae’r lluniau yn werth eu gweld. Mae’n debyg bod stori Bauer yn un drist; fe foddwyd yr artist, ei wraig a’u mab 3 oed pan suddodd eu fferi i Jonkoping.

[Gol.] Sganiadau o safon uwch. Pwt bach ar Wikipedia.

LENS

Cynhelir Datganiad i’r wasg: LENS - Gŵyl Dogfennu Cymru â’r Camera yn y Llyfrgell Genedlaethol ar y 29ain o Hydref. Edrych yn ddiddorol, er mod i ddim yn debyg i fynd gan ein bod ni’n symud tŷ dros yr hanner tymor. Tybed a fydd y dyn sy’n wneud mwy na neb arall i ddogfennu Cymru â’i gamera o gwmpas y lle?

Charles W. Cushman yng Nghymru

Mae BoingBoing wedi sôn heddi am gasgliad Charles W. Cushman, ffotograffydd amatur o Americanwr. Mae’r lluniau yn dyddio o 1938-1969, ond yn 1961 daeth e yma, i Gymru, ar ei wyliau. Mae’r lluniau o Aberystwyth yn wych, a ti’n gallu gweld faint sy wedi newid a faint sy wedi aros.

Aberystwyth yn 1961

Peidiwch â cholli’r dolenni eraill yn y cofnod BB, sef Casgliad Edward S. Curtis a America Mewn Lliwiau, 1939-1945.

Darlunio ar Ddydd Gwener

Mae Illustration Friday yn syniad tebyg i’r hen “Friday Five” (oedd yn gosod 5 cwestiwn ar thema i flogwyr eu hateb dros y penwythnos, amser mae’n tueddu bod yn dawel yn y rhithfro). Mae hyn wedi’i anelu at artistiaid/darlunwyr (ble mae’r llinell?), ac yn rhoi testun bob dydd Gwener, gyda gwahoddiad agored i unrhywun i dynnu llun ar y pwnc ac wedyn casglu’r dolenni i’r gwefannau (blogiau, fel arfer) bob artist. Gan wneud y pynciau mor syml ag sy’n bosibl, un gair fel arfer, mi gân nhw ymateb eang iawn gan artistiaid o bedwar ban y byd.

Dyma’r rhestr o luniau ar y testun arwyr, gyda 253 o artistiad yn cymryd rhan. Nid cystadleuaeth yw hwn, dim ond ffordd dda o ddangos eich gwaith i gynulleidfa newydd.

Testun yr wythnos hon yw “breuddwydion”, ac mae dros 300 o artistiaid wedi postio cynhigion yn barod.

Woody Allen

Inside Woody Allen - mae brith gof ‘da fi o ddarllen y stribedi ‘ma yn y 70au, pan o’n i’n rhy ifanc i’w deall yn iawn, ond yn chwerthin arnyn nhw. Nawr dw i’n eu deall, ac mae rhan fwya ohonyn nhw’n drist iawn.

*och*

Lot fawr o AC/DC

Comback - stori comic gan Marcus Huber. Ffeindiwyd ar Flight, blog newydd am gomics, nage wir, ar Drawn, lle ffeindiais i Flight, hefyd.

Process Junkie

Mae Process Junkie [rhybudd: ddim yn saff i'r gweithle, falle] yn flog gan Lucio Alberto Ruiz-Diaz, artist comics o Efrog Newydd, sy’n tynnu lluniau di-derfyn a ferched gor-rywiol, os dych chi’n lico’r fath ‘na o beth, ond hefyd yn casglu enghreifftiau di-ri o waith ei hoff ddarlunwyr. Llawer o enwau do’n i ddim yn gyfarwydd â nhw, fel Michael-Mathias Prechtl o’r Almaen a Rafael Freyre ac Ernesto García Cabral, y ddau o Fecsico.

Next Page »