Penwythnos gweddol rhydd felly bant â ni ddydd Gwener i Ynys Bŷr, rhywle dw i heb fod ers mhlentyndod. Sdim llawer o lefydd mae dyn yn gallu dweud hyn amdanynt: so fe wedi newid o gwbl. Mae o leia 30 mlynedd ers i mi fod ar yr ynys, efallai 35, ac er bod fy nghof amdano mor frith (eithin, persawr, mynachdy a goleudy) roedd popeth fel petai wedi’i gadw mewn amber. Er bod y lle yn dibynnu ar dwristiaeth, ac mae digon o bethach kitsch yn y siop anrhegion, does dim hysbysebion hufen iâ ac ati, a dim cerddoriaeth cefndirol ond am glochau hyfryd yr eglwys a bach o plainchant yn y swyddfa bost. Do’n i ddim yn cofio’r cwch glanio gwych, felly mae’n debyg oedd y llanw yn uwch y tro diwetha i mi fod yma.
Mae’r lle yn drysordy o gorneli bach tawel, a gweithiau celf hardd heb lawer o ddim i dynnu sylw’r twristiaid atyn nhw. Mae bedyddfaen yn Eglwys Sant Illtud sydd, yn ôl ei olwg, a’r llyfryn bach gwelais i yn y siop, o waith Eric Gill, ond dw i’n methu ffeindio dim byd ar lein i gadarnhau taw Gill wnaeth. Mae’n edrych fel ei waith, ond dw i ddim yn arbennigwr. Ddim yn hawdd yw Gwglo “Eric Gill” a “font”, wrth reswm.
Ar ôl dod yn ôl i’r tir mawr, a gwastraffu bach o amser edrych yn y siopau yn Ninbyh-y-Pysgod, aethon ni i Faenorbyŷr, lle sawrodd fy hwyliau tamaid bach gan Seisnigrwydd y castell yna. Ddim yn siwr pam bod hyn wedi fy moddran cymaint; doedd e ddim fel bod Dinbych a’r Ynys ei hun â llawer o Gymreictod i’w weld, ond mae castell Normaniaidd gyda dim un gair o’r hen iaith i groesawu darpar ymwelwyr yn gam yn rhy bell mewn i Loegr Fychan. Aethon ni i Dafarn y Castell am beint bach o Aur yr Ymennydd.
Bant â ni wedyn i ymweld â ffrind sy’n byw yn Rosebush. Tra bod hi a Philippa yn mynd â mab y tŷ i gig yn Arberth, es i i un o hoff dafarnau’r ardal i ddarllen a llyncu cwpl o beints o laeth y mwnci.
Diwrnod tawel ddoe, tywydd ddim yn arbennig. Trist oedd clywed y newyddion am Iwan Llwyd yn y bore, a nes ymlaen am Dennis Hopper. Dau rebel mewn un diwrnod.
Gyda’r nos, ma’s i Gastell Newydd Emlyn i helpu ffrind a chyd-diwtor Cymraeg, Richard Vale, ddathlu agoriad ei fenter newydd, Paned Un. Caffi bach drws nesa i dafarn y Pelican ydyw, a neithiwr wnaethon nhw rostio mochyn druan, a chynnig cacennau heb eu hail.
Dod adre â’m bola’n dynn, i dreulio gweddill y noson gwylio’r iPlayer ar y Wii, gan fod ein teledu dal ddim yn gweithio’n iawn.
Wedi bwriadu mynd am dro heddi, ond ffeindio bod poen yn fy mhenglin, rhywbeth sy wedi mhoeni o’r blaen. Debyg bod cysylltiad rhwng y bola tyn a’r penglin bregus, felly dim mwy o gacennau, a bach llai o gwrw, i fi am am sbel.

