Yn Abertawe a Chaerdydd dydd Sadwrn diwetha, fe waries i lawer gormod o arian ar CDiau rhad. Hen stwff fel Love, Cream, Leonard Cohen a Capt. Beefheart, stwff mwy cyfamserol fel Beck, Aphex Twin ac yr Orb ac casgliad gan fy hoff band Saesneg ar y foment, Grandaddy. Mae un gân, Fentry, gyda clip sain o ffilm o’r enw “Tomorrow“, sy’n swnio yn wych (fel maen nhw’n dweud ar y clawr a nearly perfect movie made in the 70′s). Sa i wedi ei gweld, dyw hi ddim ar gael ar fideo.
CDs o’r Dinasoedd
Ymateb