Rhwydwaith di-wifren i Gaerdydd? – yn ôl yr erthygl hon (o’r New Scientist) bydd ffordd newydd o gysylltu i’r we yn cael ei brofi yng Nghaerdydd yn 2002. Bydd y pobl lwcus yn gallu cysylltu ar 4Mb yr eiliad. Anblydihygoel.
via kindall

Cynhadledd Cymdeithas D.J. yng Nghaerdydd dydd Gwener.
Mikel Irujo a fydd yn annerch Cymdeithas DJ yn ei chyfarfod nesaf. Mikel Irujo a fu’n gyfrifol am lunio polisïau ieithyddol diweddar llywodraeth Gwlad y Basg ac fe fydd yn trafod sut y mae codi heniaith yn ei hôl.Cadeirydd y cyfarfod fydd Robert Hughes. Ef oedd ymgeisydd y Blaid ym Merthyr Tudful yn yr Etholiad Cyffredinol, lle y cynyddodd canran pleidlais y Blaid yn sylweddol iawn.
Cynhelir y cyfarfod yn Neuadd Dewi Sant (ardal 1, 5ed llawr) yng Nghaerdydd am 5.00 ddydd Gwener 21 Medi.
Bydd offer cyfieithu ar y pryd ar gael.
Caerdydd yn ystyried tacsis di-yrrwr – nawr ‘te, mae hwn yn swnio yn ffantastic.
Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn ystyried y sustem fel rhan hanfodol o’i strategaeth drafnidiaeth integredig.
Ffar out. Mae unfed ganrif ar hugain wedi cyrraedd o’r diwedd. Ga i fy siwt ffoyl arian nawr, plîs?