Amser talu nôl

Cronfa ddata pobl sy ddim yn gadael tip da. Llawn storiau bach doniol/trist fel hyn:

Tipper’s Name: my ex-husband
Where it happened: all over Southern CA
What happened:
To any female that’s ever had the misfortune to wait on him: I’m sorry that he flirted with you so outrageously and then had the nerve to ask you to discount the meal with a “good looks discount”. I was too meek to stand up and tell him what a complete idiot he was. Yes, I was every bit as embarrassed and uncomfortable as you seemed to be.

By the way, yes, I did finally smack him upside the head one day for staring at your ass or your breasts (or both). I also gave him shit about loosening the tops of the salt and pepper shakers. (And tightened them back up while he was in the restroom.)

Since we’re no longer together, I can’t say if his restaurant behavior has improved any, but I hope it has.

Free at last! Free at last! Thank GOD Almighty, I’m free at last!

Lwcus nad yw’r pobl sy’n cyfrannu i’r wefan hon wedi gweithio yng Nghymru, lle bydden nhw’n lwcus i gael unrhyw dip o gwbl, a chael triniaeth anhygoel gan y cwsmeriad. Y llynedd, o’n i’n ddigon anlwcus i fod ar fwrdd nesa i Gymro a wnaeth hala ei hufen iâ yn ôl am fod yn “rhy oer”. Boglir y meddwl.

Cachu afalau’r diafol

Narcotic Plants and Stimulants of the Ancient Americans – erthygl go hir sy’n dyddio o 1916. Gyda lluniau.

Yn blentynaidd digon, ffeindiais i hon gan Gwglo’r gair cachu. Enw personol yn Japan, mae’n debyg, ond llawer mwy diddorol i ddanganfod taw huaca-cachu yw’r enw brodorol ym Mheriw am Afal y Diafol, planhigyn sy wedi dechrau tyfu yn ein gardd ni, heb i ni ofyn. (yng Ngogledd America, maent yn ei alw Jimsonweed ac mae’n cael ei ddefnyddio fel cyffur rhad, er bod hi’n beryglus iawn.

Ddim wedi clywed ohono cael ei ddefnyddio yma yng Nghymru fach.

Bwyd Araf

Mae mudiad newydd ar y bloc, gyda neges syml iawn: slo bach, bois, pwyll biau hi. Diben y mudiad yw achub y byd, wrth gwrs, ond eu dull yw nid jyst i brotestio ac ymladd â’r diafol, ond i fyw bywyd gwell nawr, gan ddechrau wrth fwrdd y gegin.

Mae cylchgrawn ar gael i’w lawrlwytho o wefan Slow Food USA.

Yr Efengl Yn Ôl Sant Bili

Mae’r Parchedig Billy, gweinidog yn Eglwys Peidiwch â Siopa, yn sgwennu colofn yng nghylchgrawn yr Ecologist bob mis, ac mae’n dod â’i fath arbennig o’r Efengl i eglwysi y stryd fawr (boed Llanstarbucks neu McDonald Sant) bob dydd o’r wythnos. Fe yw Sant Ioan Wrth-Globaleiddio.

The Reverend Billy is the founder and spiritual leader of the Church of Stop Shopping, and he is on a mission from God. His mission is to save New York, to save America, to save the world from the scourge of consumerism. A scourge visited upon the unbelievers like the plagues of Egypt; sent down from on high to homogenise their neighbourhoods, destroy their small shops and cafs, substitute independence for dependence and hand control of their streets to a buccaneering gang of multinational corporations who will decide what they buy and take their money for doing so. The Reverend Billy has come to save them to save us from all this, and I have come, today, to Astor Place, to have my sins absolved (specifically, the purchase of that latte) and to listen to the Reverend explain to me how he intends to do it.

Oes tystion yn y tŷ?

Tŷ Crwn Brithdir Mawr

Sa i wedi blogio’r tŷ crwn am sbel, a dw i’n credu bod lluniau newydd ’da nhw. Mae’n edrych hyd yn oed yn fwy hyfryd na’r tro diwetha i mi ei weld.

Wnes i feddwl amdano ar ôl gweld hwn ar yr ‘hidl. Tŷ arall, sy’n hyfryd, ac yn anarferol, ond y tro ’ma sy’n costio $5 miliwn.

Costiodd tŷ Tony a Jane 3,000.

The horror, mae’n hyfryd

Annie Dillard: The Force That Drives the Flower. Mae llyfr Annie Dillard, Pilgrim at Tinker Creek, un o’m hoff lyfrau am natur. Dyw Dillard ddim ag ofn edrych ar y byd yn fanwl iawn, nes iddo ddangos ei ddannedd. Dyma hi’n gwylio broga yn cael ei fwyta yn fyw gan pryfed dwr:

Downstream at the island’s tip where the giant water bug clasped and ate the living frog, I sat and sucked at my own dry knuckles. It was the way that frog’s eyes crumpled. His mouth was a gash of terror; the shining skin of his breast and shoulder shivered once and sagged, reduced to an empty purse; but oh those two snuffed eyes! They crinkled, the comprehension poured out of them as if sense and life had been a mere incidental addition to the idea of eyes, a filling like any jam in a jar that is soon and easily emptied; they flattened, lightless, opaque, and sank.

Ond trwy’r llyfr i gyd, yr elfen mwya yw’r teimlad o ryfeddod, ein bod ni’n byw mewn breuddwyd Boschaidd o fyd, ac i gyd sydd angen yw cadw ein llygaid ar agor.

Och, dw i ddim yn gwybod. Dw i’n ddigalon achos bod maes-e yn cymryd mwy a mwy o’m hamser, ac yn rhoi llai a llai o bleser i mi. Dyw e ddim yn bosib i drafod unrhywbeth yno heb denu dirmyg o rywle. Mae’n amser i mi ddilyn llwybr Dillard am sbel, neu gwrando ar gyngor Wncl Walt.

WWOOF

Mae gwefan WWOOF wedi’i hail-wampio. Prif welliant yw’r llun ohonof innau yn y gif wedi’i animeiddio ar y ffrynt, a’r lluniau o ein lle ni tu mewn.

Dweud y gwir, dyn ni’n meddwl am adael WWOOF gan nad yw amser ’da ni i gymryd gwirfoddolwyr, a phrin iawn yw’r gwirfoddolwyr sy gyda diddordeb yn yr iaith Gymraeg.