Morfablog

Jump to content.

Byw trwy flodau

Human Flower Project - blog ar y cyd a llawer mwy. Storiau am bwysigwrydd blodau i bobl. Ffeindiais i hyn ar hap, ac mae wedi goleuo fy more.

GarbageScout.com

(Wedi bod yn dawel fan hyn. Gormod o Poker, dim digon o flogio. Gobeithio pigo pethau lan tamad bach…)

Defnydd da o GoogleMaps #31,549: GarbageScout.com. Syniad syml iawn: ti’n gweld rhywbeth mae rhywun arall yn twlu ma’s, rhywbeth ti ddim eisiau dy hunan ond bydd rhywun yn gallu defnyddio fe; tynnu llun ar dy ffôn lôn; ebostio’r llun at GarbageScout; mae’r eitem yn ymddangos ar y map.

Yn anffodus, dim ond yn Effrog Newydd mae hyn yn gweithio, ond byddai rhywbeth fel hyn yn ddefnyddiol mewn unrhyw ardal.

Da, ‘de?

[Reusablog]

Economi Lleol - Wendell Berry

“The Idea of a Local Economy” - erthygl gan Wendell Berry yn Orion.

[Beca]

Sgrechflwch Doo Wop

Llawer o MP3au o oes aur roc a rol ar y sgrechflwch dŵ-wop.

Celestia

Teithio o gwmpas y cysawd heulol, y Llwybr Llaethog a tu hwnt gyda Celestia. Lot o hwyl. Dw i wedi bod yn hedfan o gwmpas Sadwrn am hanner awr.

Chwerthin ar bennau Cristnogion?

Er mod i’n ffeindio cwlt y FSM mor ddoniol â’r blogiwr nesa, mae rhan ohonof sy’n dal i feddwl ei fod yn bwysig cael mwy na gwawd yn dy gwpwrdd arfau wrth ddadlau â phobl sy’n credu yn gryf mewn syniad fel cynllunio deallus, ta waeth pa mor wirion ti’n ffeindio eu syniadau. Un o’r pethau rhyfeddaf am fod yn rhan o faes-e yw fy mod i wedi dod yn ffrindiau gyda phobl sydd â chredoau Cristnogol dw i’n methu derbyn, er mod i’n parchu y bobl eu hunain. Beth sy’n tueddu digwydd yw fy mod i’n osgoi trafod y pynciau.

Ond dw i’n gweld bod y pynciau ‘ma yn mynd i ddod yn fwy amlwg byth, gan ein bod ni’n byw mewn amseroedd mor beryglus. (Hwyl fawr, New Orleans.) Bydd osgoi’r trafodaeth ddim yn ddigon.

FOXP2 - Mwy na “genyn iaith”

Erthygl ar y genyn sy’n gyfrifol (efallai) am ddatblygu’r gallu ieithyddol mewn homo sapiens.

Linguists are squabbling - linguists do a lot of that - over the origins of human language, and one of the bits of evidence they’re batting back and forth is a fascinating gene called FOXP2.

People who have a defective copy of the gene experience a wide variety of language difficulties. Some of them are physical, related to inability to control the lower part of the face well enough to produce intelligible speech. But others are purely linguistic, involving vocabulary and grammar.

Mae geneteg, fel pwnc ymchwil, yn hytrach na phwnc protestio, yn rhywbeth dw i ddim yn ei ddeall o gwbl, ond wedi darllen llyfr Richard Dawkins Unweaving the Rainbow yn diweddar, a ar fin dechrau ailddarllen The Selfish Gene, dw i am ffeindio ma’s mwy am y pwnc. Dw i’n ymwybodol o duedd ynddo i i ddiystyried gwyddoniaeth fel pwnc darllen a thrafod (gan bod fy nealltwriaeth mor fras, a’r maesydd potensial mor lydan, dwfn a newidiol) - mae’n llawer haws byw mewn byd mytholeg a barddoniaeth, gan ddweud wrth dy hunan bod y safbwynt wyddonol yn lleihau’r byd mewn rhyw fodd. Yn bennaf oll, dw i wedi fy nylanwadu gan ddarllen John Cowper Powys.

Does dim terfyn i fy niffyg dealltwriaeth geneteg, ieithyddiaeth a gwyddoniaeth yn gyffredinol, rhag fy nghywilydd.

Gall unrhywun awgrymu llyfrau i mi?

Cant Cymru

Sôn am Eryri, dyma restr “Cant Cymru”, sef y can mynydd ucha ein gwlad fach fynyddig ni. Dw i wedi bod lan rhyw hanner dwsin ohonyn nhw, rhag fy nghywilydd. Dw i erioed wedi bod lan yr Wyddfa. Mae syniad o stryglan lan mynydd go fawr fel ‘na (go fawr i rywun fy maint, oedran a lefel cyffredinol o ffitrwydd) ac wedyn ffeindio fy hunan yng nghanol cannoedd o pobl sy’n hyd yn oed yn dewach, henach ac yn fwy afiach na fi, ond sy wedi dod lan ar y tr&ecric;n, jyst yn rhy erchyll.

Rhaid i mi feddwl am 93 o esgusodian eraill nawr.

Diolch Joss.

Mynd am Dro gyda GoogleMaps

Teclyn bach arall sy’n defnyddio GoogleMaps i olrhain unrhyw daith cerdded, neu beth bynnag.

Dyma rhai o’m teithiau arferol i.

Rownd y bloc.

Rownd ar y clogwyn.

I’r bws.

Am dro yn Y Waun.

Dw i wedi cael fy ngwyliau, diolch

Fel Lucy Mangan yn y Guardian, dw i ddim am fynd tramor ar fy ngwyliau, bellach.

I have left these shores twice in my lifetime, and I fully hope and expect never to do so again.

Mae mwy na digon yng Nghymru, ac mae Lloegr erbyn hyn yn wlad estron ac ecsotig i fi, sy’n cuddio bob math o gyfrinachau.

Pwyll, ac aros gartre biau hi.

Esgyrn E.S.Christman

E.S. Christman, darlunydd, a weithiodd i’r Amgueddfa Astudiaethau Natur Genedlaethol America yn gynnar yn y ganrif ddiwetha. Lluniau anhygoel, fel yr un ‘ma o benglog Claosaurus agilis.

Cyfoethogi Bioamrywiaeth

Cynllun Cyfoethogi Bioamrywiaeth Ceredigion - newydd anfon am fwy o fanylion am y cynllun’ma, sy’n edrych yn dda iawn.

Hen luniau o’r CAT

Canolfan Dechnoleg Amgen, lluniau o’r hen ddyddiau.

Cyflwyniad i Baramaeth

Beth yw Paramaeth? Cyflwyniad hwylus iawn gan Graham Burnett. Dw i’n hoff iawn o hyn, yn enwedig ei luniau syml. Er enghraifft: cymeri di banad diwydiannol neu banad paramaethyddol?

Pan des i yma i Langrannog i fyw, ro’n i’n llawn brwdfrydedd am syniadau Paramaeth, ac wnes i dwlu fy hunan i mewn i sawl gweithgaredd sy’n gysylltiedig â’r byd hwnna, gan amlaf y mudiad arian cymunedol. Ond wrth i mi ffeindio fy hunan mwyfwy tu mewn i’r gymuned Gymraeg, yn y cigfyd ac ar y we, mae fy nghysylltiadau yn y byd ‘na wedi gwanhau. Dw i ddim hyd yn oed yn aelod o fy ngrŵp LETS lleol nawr, ar ôl i fi dreulio 3 blynedd o’m mywyd mwy neu lai’n rhedeg y peth. (Does neb wedi boddran cadw lan eu gwefan, dw i’n gweld.) Y brif broblem yw bod y byd ‘na yn cael ei redeg gan fewnfudwyr, ac ei fod yn hollol Saesneg ei iaith. Wnes i fy ngorau i Gymreigio’r grwp LETS, ond doedd dim wir diddordeb ymysg y rhan fwya o’r aelodau mewn byw yn y Gymru Gymraeg. Mae hyn yn drueni mawr, ac am wn i, yn groes i’r syniadaeth sydd ar wreidd pethau fel Paramaeth a LETS.

Ond hyd yn oed os ydy’r rhan fwya o’r bobl sy’n ymarfer y syniadau yma, yn y rhan hyn o’r byd ta beth, yn goloneiddwyr, dydy hynny ddim yn golygu nad ydy’r syniadau eu hunain yn werth chweil, nady?

Dolenni Tsiecaidd

Tomen o ddolenni am y Werinaeth Tsiec, yr iaith, a’r we Tsieceg.

del.icio.us

Ffordd newydd o fyw

Ffordd newydd o fyw - ddim yn siwr iawn beth yw cefndir i’r prosiect ‘ma, ond mae’n edrych yn ddiddorol. Llawer o ddolenni defnyddiol.

Bwyd Siapan Bob ac Angie

Mae gan Bob ac Angie 103 o ryseitiau ar eu gwefan, i’r rhai sy’n medru Saesneg.

Mae ganddyn nhw 4341 o ryseitiau i’r rhai sy’n medru Siapaneg.

Ond mae rhai Saesneg yn ddigon i dynnu dŵr i’r dannedd.

Macrell wedi ffrio!

Da iawn, Duw

Iawn, mae blogio yn lot o hwyl, a ffeindio pethau fel blog un o dy arwyr pync roc yn wefr, ond dyma beth sy’n digwydd yn y stafell fawr las y munud hwn (wel, dau funud yn ôl):

Dw i am drosglwyddo caneuon Husker Dü i’r iPod a mynd am dro i’r Ship.

Joss Jones, dringwr o fri

Dringwyr o Fri! Erthygl o’r Gambo am ein ffrind Gareth Jones a’i fab Joss, a wnaeth Her y Tri Chopa yn ddiweddar, sef dringo Ben Nevis, Scafell Pike a’r Wyddfa mewn 24 awr.

Daeth Joss gyda ni i ddringo Pen y Fan diwrnod o’r blaen, fel rhan o Daith y Copaon Cymdeithas yr Iaith. Dyma lun ohono fe ar y copa.

A dyma weddill y criw (y rhan fwya ohonyn nhw ta beth). Ar ôl i mi roi’r camera yn ôl yn y sach, cliriodd y niwl.

Gerddi Zen

Gerddi Zen yn ymyl Tokyo.

Next Page »