Locavores

Des i ar draws y syniad o Locavores ar flog ieithyddol penigamp, Language Log. Gair newydd i fi, ond un sy’n ddigon i’w ddyfalu ei ystyr sef rhywun sy’n bwyta (dim ond) bwyd o’r ardal leol.

Beth fyddai hynny yn yr hen iaith, tybed?

Mwy am y mudiad: Her Bwyta’n Lleol, The Ethicurean (heh) a chant a mil o flogiau ar y pwnc.

Mae’n debyg bod y diffiniad o “fwyd lleol” sy’n cael ei ddefnyddio yn yr UDA yw unrhywbeth sy’n cael ei gynhyrchu o fewn 100 milltir. Felly, i rhywun sy’n byw ble ydw i, unrhyw beth o Gymru, mwy neu lai.

Bocs cinio fegan

Blog gan fam fegan gyda lluniau o’r ciniawau di-anifail mae’n paratoi i’w mab bob dydd.

Ar yr un trywydd: Bento Moblog, a blog bwyd Frykitty (wedi’i flogio yma o’r blaen).

Meddwl lot am fwyd oherwydd i mi godi llawer o bwysau’n diweddar, stôn a hanner dros y flwyddyn ’ma, ac hyn ar ôl i mi golli bron yn bedwar stôn dros y ddwy flynedd cyn hyn. Hoffwn i gael fy mhysau o dan reolaeth eto, ac un o’r pethau sy’n helpu yw paratoi cinio dyddiol ar y diwrnodau dw i’n ma’s o’r tŷ, yn lle prynu pethau llawn garbohydradau, braster ac/neu aspartame.

Mmm, aspartame.

Ta beth, dw i’n crwydro. Ac mae’n amser cinio.

Gwyllt, Gwych

Debyg mod i wedi blogio hyn o’r blaen, ond rhag ofn, dyma Really Wild Food Guide gan JJ. Dw i wedi prynu cwpl o’i lyfrau, ac er mod i ddim wedi dilyn llawr o’r ryseitiau, mae’n ysbrydoliaeth i weld beth sy’n bosibl gyda bwyd gwyllt. Mae ganddo un llyfr ar gael am ddim (fel PDF) ac mae’r taflenni gwybodaeth am rai o’n rhywogaethau mwya cyffredin yn werth eu darllen hefyd.