Bookmarkify

Newydd ychwanegu Bookmarkify, a gyda cryn dipyn o drafferth, wedi llwyddo ei gyfieithu, ac i’w gael yn y lle iawn. Wnaeth e gymryd rhyw awr i fi ffeindio’r ffeil cywir yn Thematic i’w olygu er mwyn ychwanegu’r teclyn ble dw i moyn e. Y pethau dyn ni’n wneud.

Mae’r teclyn yn dod â rhestr o dros 50 o safleoedd rhwydweithio cymunedol a bookmarcio ac ati; y rhan fwya ohonyn nhw dw i ddim wedi clywed amdanyn nhw o gwbl. Felly dw i ond wedi cynnwys saith hyd yn hyn, ac un sy’n gadael i chi hala linc mewn ebost yn hawdd (ddim bod copio a gludo linc o’r we mewn i ebost yn ormod i ddarllenwyr annwyl Morfablog, wrth gwrs).

Oes ’na wasanaethau dw i ddim wedi eu cynnwys, oherwydd fy niglem-rwydd, sy’n anhepgor i syrffwyr ymyl don gwaedlyd y we yn yr unfed ganrif ar hugain*? Oes ’na unrhywun sy’n darllen Morfablog sy’n ysu rhannu fy mherlau gyda darllenwyr Fark, er enghraifft? Fel y hwren yr ydwyf, dw i moyn wneud e mor hawdd ag sy’n bosibl i chi hybu fy mlog dros y we i gyd.

Oherwydd ei fod mor bwysig, dych chi’n gweld?

* Sori, ond pan dw i’n cymysgu fy metafforau, maen nhw’n aros yn gymysglyd.