The Forest Prince and the Pig Man

Bydda i’n blogio am rywbeth arall ond bodio yn y man, siwr o fod, ond am nawr, dyma rhagolwg “The Forest Prince and the Pig” gan Craig Constantine, ffilm am lwcdeithio yn America.

Os ydy hynny wedi cosi dy fodiau, edrych ar beth ddigwyddodd i seren y ffilm ar ôl iddo benderfynnu bodio i noson gyntaf ei ffilm ei hun, yng Ngŵyl Ffilm Ddogfen Utah.

Mae’r ffilm yn agor ym Mhrydain, yn yr hen Gaergrawnt i fod yn fanwl gywir, yfory.

Dim ond reid

Penfoel Cilie, bore Gwener, o gilfach Plwmp

Ces i lot o sbort bodio i’r gogledd dros y Sul. Bore Gwener, fe es i o Blwmp am 9 o’r gloch y bore i’r Gledrid (ger Y Waun) am 1.45 y prynhawn. Gan gofio ei fod yn cymryd o leia 2 awr a hanner i yrru’r 100 milltir yma, dyw hynny ddim yn ffôl o gwbl. Bues i’n lwcus iawn o gael lifft o Langurig yr holl ffordd i’r Waun, bron a bod, ond hyd yn oed wedyn, do’n i ddim yn aros am fwy na chwarter awr yn unrhyw le ond yn Aberaeron, sy’n llawn twristiaid, o hyd.

Yr un stori dod yn ôl, ond i mi roi’r gorau i’r bodio yn Aberystwyth, gan fod y glaw bach yn rhy drwm, a bws ar gael ar ôl i mi gael cinio.

Prif nodwedd y bodio, ar wahan i ba mor hawdd oedd cael lifftiau, yw bod pob un lifft wedi dod o bobl yn eu 40au neu’n hŷn, ar wahan i’r lifft bach ola o Lanarth i Synod Inn gan foi ifainc oedd ar ei ffordd i wylio’r pêl droed yn nhafarn Ffostrasol. Oedd yn syndod i fi cymaint o bobl Twitter oedd yn synny mod i’n (1) bodio o gwbl a (2) yn llwyddo cael lifftiau. Prif nodwedd y bobl yno yw bod nhw’n ifancach na fi. Fel dwedodd un gyrrwr o gyn-athro wrtha i, rhywle rhwng Llanbadarn a Llangurig:

We’re really good at teaching kids about “stranger danger”, but not so good at showing them that they don’t have to be afraid for the rest of their lives.

Dw i ddim eisiau darllen gormod mewn i’r ffaith bod pobl ifainc wedi colli’r arfer o ffawdheglu, ond mae yn drist bod cenhedlaeth gyfan yn meddwl bod rhywbeth od am ei wneud.

Pontydd cario dŵr a threnau, Y Waun

Y peth gorau am fodio, ar wahan i’r ffaith ei fod yn rhad ac am ddim mewn arian a charbon, yw bod pobl yn siarad â chi. Wnes i gwrdd â rhyw ddwsin o bobl newydd dros y Sul, ac oedd gyda phob un ohonyn nhw eu storiau diddorol. O’r hen Gymro oedd wedi bodio yn ystod ei gyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol yn y 50au, i’r Almaenwyr oedd newydd gosod paneli haul ar eu tŷ er mwyn dod oddi ar y grid. O’r Brummie oedd yn isel oherwydd colli ei wraig, ei fusnes, a’i hunan hyder (ond oedd wedi cadw ei Range Rover hynafol) i’r Dyn o Gaint oedd newydd adael ei ferch a’i cheffyl yn y coleg ger y lli, ac oedd yn gyrru yn ôl i ddyfnderoedd Lloegr mewn horsebox gwag. Pobl ffeind, bob un.

“Ond mae bodio yn beryglus“, wrth gwrs.

Ydy e? Oes tystiolaeth, neu ydyn ni’n gadael i’r Toris a’r tabloids rheolu ein ysymwybod yn ogystal â’n gwleidyddiaeth?

Sori am fod yn hipi, ond dim ond (rhannu) reid yw e. Mae rhaid i chi fod yn gall, wrth reswm, ond dydy hynny ddim yn golygu bod ag ofn pawb am byth. Mae bodio yn llawer saffach na hedfan, ym mhob ystyr.

‘Sai detholiad naturiol ddim eisiau i ni fodio, pam mae ein bodiau mor anhygoel o hyblyg?

The eyes of fear wants you to put bigger locks on your door, buy guns, close yourself off.

Bodio dros Gymru

(Ro’n i wedi anghofio i mi sgwennu cofnod am fodio nôl ym mis Mawrth eleni, felly ymddiheuriadau am y dwbli isod. Rhaid mynd ma’s mewn munud, felly dim amser i’w olygu.)

Jen hitchiking, gan Bob Elderberry ar Flickr (cc)

Mewn erthygl yng nghylchgrawn yr Ecologist, mae Adam Weymouth yn gofyn “ai bodio yw’r ffordd werddaf o deithio does neb yn ei defnyddio?”:

Last week I hitched from Oxford to Salisbury, a two hour drive which took me four. I chatted with a technician about cuts to the sciences, encouraged someone to take to the road themselves, and had an hour’s lecture on how to make my own diesel from chip fat. There aren’t many forms of transport where you find all that. And regardless of these pleasures, hitchhiking should be thriving. With petrol prices rising weekly, people struggling to make ends meet, record youth unemployment and an urgent need to cut carbon emissions, a revival seems to be long overdue.

Mae’r erthygl yn decrau gan sôn am y “ffaith” taw dim ond 9% o yrrwyr heddiw yn debyg i gynnig lifft i fodiwr, wrth cymharu â ffigwr o rhyw 25% chwarter canrif yn ôl. Nawr, fel mae’r awdur yn sôn, dydy 9% ddim mor isel â hynny – dw i’n ei ffeindi braidd yn anodd credu, a bod yn onest – ond mae un pwynt pwysig am y “ffaith” yma dydy’r awdur ddim yn rhoi sylw iddo, sef bod llawer mwy o draffig ar y ffyrdd y dyddiay yma. Os ydy’r rhifau yna yn iawn, dydy cwymp o 25% i 9% ers yr 80au ddim mor syfrdanol â hynny.

Nid newid agwedd y gyrrwyr sy’n gyfrifol felly, ond newid agwedd y bobl sydd, yn draddodiadol, yn fwy tebyg na neb i estyn bawd i fynd o A i B: pobl ifainc. Eto, mae’r ystadegau melltigedig yn cefnogi’r tybiaeth: y rhai rhwng 18 a 24 yw’r grŵp lleia tebyg i fodio bellach, a dych chi’n llai tebyg o gael lifft gan un o’r to ifanc hefyd.

Fel mae’n digwydd, dw i’n perthyn i’r genedlaeth a ddaeth i’w hoed yn ystod Oes Auraidd Olaf bodio, sef canol yr 80au i’r 90au cynnar. Fel myfyriwr serchus ond di- gerbyd yn y Sowth, byddwn i’n dibynnu ar lwcdeithio i nghario at fy nghariad yn y Mers bob yn ail benwythnos. Yn aml iawn, bydde’r daith o Bontypridd i Groesoswallt yn gyflymach wrth fodio na mynd ar y trên. Des i yn gyfarwydd â phob twll a chornel* y ffordd rhwng y ddwy dref bert yna, a dod i nabod ugeiniau o bobl ddifyr hefyd.

Ddes i byth ar draws yr agwedd “pam yn y byd wyt ti’n bodio?” adeg hynny, ond y tro diwtha i mi fodio lawr i Gaerdydd, oedd pobl yn siarad â fi fel yr oedd rhywbeth bach yn anarferol am y ffaith: car broken down, has it?

Wel, ta waeth am hynny, gyda’r pris petrol fel y mae, dw i’n meddwl ei fod yn hen amser i ni ddechrau meddwl am fodio fel “yr unig ffordd (gall) o deithio” unwaith eto.

A fel “ni”, dw i’n meddwl y fi.

Felly, oni bai bod y rhagolygon tiwedd am y penwythnos nesa yn wael iawn, dw i am fodio lan i’r Waun, am y tro cyntaf ers, gylp, 10 mlynedd. Os chi’n gweld dyn tew canol oed yn sefyll wrth ochr yr A44 ddydd Gwener nesa, cofiwch codi eich bys canol a chwerthin ar ei ben, a wna i gofio gweddîo dros eich enaid colledig.

Bodio yng Ngwlad y Lap. Llun gan Mika Meskanen ar Flickr (cc)

(Diolch @paulbrichardson, am y trydariad gwreiddiol!)

So Carlo’n bodio

Hitchhiker.jpg

Fe fues i ar y radio heddiw; do, ar Taro’r Post. Fi oedd y filler, yr eitem “Ac yn ola…”, yn llenwi’r pwt bach rhwng y ddadl ffyrnig ynglŷn ag enw newydd cynyrch Hufenfa De Arfon a Newyddion Un.

Fel arfer, fyddwn i ddim wedi cytuno bod ar y rhaglen. Dim byd yn erbyn y rhaglen ei hunan, dim ond mod i ddim yn hoffi clywed fy hunan ar y radio. Dw i wastad yn meddwl mod i’n swnio fel Hwntwr sy’n trial yn galed i beidio dynwared Gog, neu efallai fel Gog sy ddim eisiau swnio fel Cardi, neu rhyw gyfuniad o bob posibiliad yna.

Smo fi’n leicio fo, ’na beth dw i’n treial gwêd, ‘sti?

Ta waeth, pan ges i’r galwad y bore ’ma, oedd y cwestiwn “fasech chi’n fodlon siarad am dy brofiadau bodio/hitch-heico?” mor annisgwyl, ro’n i wedi cytuno cyn i fi gofio mod i ddim yn leico bod ar y radio.

Ro’n i ar ddeall byddai criw bach o bobl ar y lein i drafod bodio, ond na, fi wrth fy hunan diflas bach, treial meddwl am hanesion diddorol o’m hamser fel Prif-Fodiwr Ffordd Blaenau’r Cymoedd (1987 i 1992), cyn i ferch o’r Llyfrgell Genedlaethol ddod arno i siarad am Islwyn Roberts, Llanbedr, boi wnaeth lwcdeithio o gwmpas y byd, am sbort. Roedd e’n rhoi fy stori i am ba mor anodd oedd e cael lifft ma’s o Gaerdydd ar Gyffordd 32 mewn rhyw fath o berspectif. (Am fwy o berspectif, dyma boi o Ffindir sy’n byw heb arian, ac yn bodio ei ffordd trwy Ewrop.)

Ta waeth. Un o’r cwestiynau gofynnodd Dylan i fi oedd ambyti “profiadau annifyr”, ac oedd rhaid i mi ei siomi, gan mod i ddim erioed wedi cael y fath brofiad ar wahan i un boi meddw ar yr M4. Roedd hwnna eisiau i mi ddarllen un o’r cylchgronau arbennig oedd ’da fe yn y blwch menig, ac i “ymlacio”. Ro’n i wedi gweld Two Lane Blacktop digon o weithiau i wybod ble oedd hynny am fynd. Ond hyd yn oed wedyn, i gyd wnaeth y boi oedd pwdu tipyn bach pan ofynnais i iddo fy ngadael wrth ymyl y ffordd ger Swindon yn lle mynd “yr holl ffordd” i Gaerdydd gyda fe.

Fel dwedais i ar y rhaglen, dim ond profiadau braf dw i wedi cael wrth fodio, oherwydd mai dim ond pobl neis sy’n rhoi lifftiau i fodwyr. Ar wahan i ambell hilgi o yrrwr lori, does ’na un person sy wedi rhoi lifft i fi yn yr 25 mlynedd dw i wedi bod wrthi na fyddwn i’n fodlon mynd am beint gyda nhw.

Beth na ddwedais i, ond dylwn i fod wedi, yw bod yr unig bobl gas ti’n debyg i ddod ar eu traws wrth i chi fodio unrhywle ym Mhrydain yw’r cociau dryw sy’n codi eu bodiau nhwthau atat ti wrth gyrru heibio dan chwerthin. Byddai hyn yn digwydd o leia unwaith bob hanner awr o aros, ble bynnag fues i. Ond hyd yn oed wedyn, doedd hyn ddim yn fy hala fi’n grac. Does dim cylchdro glawiog yn y byd sy’n fwy diflas na gorfod rhannu car gyda rhywun â’r lefel ’na o hiwmor, felly o’n i bob tro yn diolch iddyn nhw am beidio stopio.

Ond wnes i ddim dweud hynny. Wnes i ddim hyd yn oed meddwl amdano, tan pum mumud ar ôl i fi ddod off y ffôn. Dyna rheswm arall dw i ddim yn rhy hoff o fod ar y radio. Dw i wastad yn meddwl am y pethau dylwn i fod wedi eu dweud pan mae’n rhy hwyr.

Lwcus bod blog ’da fi.

Oes ’na fodwyr, neu gyn-fodwyr, eraill ma’s fan’na? Rhywun sy wedi cael un o brofiadau annifyr bondigrybwyll yna?