Bywflogio’r Etholiad @ Golwg

Co ni off.

Mae Ifan Morgan Jones yn bwriadu aros lan trwy’r nos yn blogio ar safle Golwg wrth i’r canlyniadau dod i mewn. Dw i ddim yn siwr faint o’r noson bydda i ar lein – mae potel o seidr gyntaf newydd ei chracio, ac ar hyn o bryd y bwriad yw gwylio’r peth ar y teledu, ond mae’n debyg bydda i’n sieco mewn ar Ifan, ac ar yr edefyn enfawr ar Metafilter tan o leia oriau man y bore.

Stopia!

Un o fanteision y storom bach dros yr arwydd yn Abertawe yw fy mod i’n dod ar draws blogiau dw i heb eu gweld o’r blaen, fel Glossographia, blog gan ieithydd anthropolegol o Detroit. Neu efallai anthropolegydd ieithyddol yw e, pwy a wyr?

P’un bynnag, dyw e ddim yn syndod bod ei sylwadau e ar yr autoreply trafferthus ymsyg y pethau mwya call dw i wedi darllen yn Saesneg am y sefyllfa yng Nghymru.

Dim syndod chwaeth, i weld bod yr awdur yn arfer byw yng Nghwebec, ac wedi cyflwyno papur trafod yn diweddar ar y sefyllfa ynglŷn ag arwyddion ffordd uniaith Ffrangeg a dwyieithog yn y wlad honno, yn enwedig yr arwyddion Arrêt. Diddorol cymharu y sefyllfa yna a beth sy gyda ni yma yng Nghymru erbyn hyn.

Finally, important public/private tensions in Montreal’s language ideology are evident in stop signs due to the widespread practice of vandalism. Despite the prevalence of public French on stop signs, the vast majority of linguistically-identifiable vandalism is in English. Moreover, stop signs, as highly visible aspects of the city’s public material culture, are frequently vandalized in ways that reflect dissatisfaction with official language ideologies, and can thus highlight ongoing tensions.

Difyr, n’est-ce pas?

Pe tasai Jon Stewart yn siarad Cymraeg

Jyst rhag ofn bod rhywun yn darllen hyn sy ddim yn dilyn blog Chris Cope, mae ei gofnod fideo diwetha ’na yn wych: Arth sy’n Dawnsio: Parablu.

Dyma’r fideo ar YouTube, rhag ofn dy fod di am adael sylw fan ’na.

Mae Chris yn llygad ei le, mae angen lot mwy o bethau fel hyn arnon ni, a mwy o drafodaeth hefyd.

Mae hefyd yn ddoniol iawn, a ’sai rhywun yn S4C am ddilyn traddodiad y pedwaredd sianel o wneud fersiwn cartre o talk shows Americanaidd, Chris fyddai’n ddewis naturiol am Gymreigio’r Y Sioe Beunyddiol.

Blog Dot

Mae Dot, un o’r dysgwyr o’m grŵp dydd Mercher wedi dechrau ei blog ei hun fel modd o ymarfer ei Chymraeg ysgrifenedig. Mae hi’n dysgu ers mis Hydref 2006, felly so hi wedi bennu Cwrs Wlpan eto.

Dw i wedi bod yn awgrymu hyn i ddysgwyr ers sawl blwyddyn erbyn hyn, ond dim ond nawr ydy’r term “blog” yn ddigon cyffarwydd i beidio rhoi pobl off yn syth.

Ta beth, bydd blog Dot yn werth ei ddarllen, a dw i’n siwr byddai hi’n gwerthfawrogi cael sylwadau bob hyn a hyn.

Pob lwc Dot!

Vanitas a geiriau newydd eraill

Doedd e ddim yn cymryd lot i dorri addewid Blwyddyn Newydd eleni; am 1 o’r gloch neithiwr wnes i ddileu tudalen blaen Morfablog, ynghyd â’m proffeil Facebook. Nawr bod Hedd wedi cymryd drosodd yn swyddogol fel Mistar y Maes, o’n i’n teimlo fel cymryd hoe bach o fyw cymaint o’m bywyd ar lein. Ond y peth cyntaf dw i’n gweld wrth ymweld ag un o fy hoff flogiau y bore ’ma yw’r gerdd ’ma, sy’n fy hala fi off i dir neb y rhyngweoedd.

born with a fall into the collective
grammar hammered deep into the hypothalamus
every I a we that was dreaming
venus-anus-vanitas
mine is the outcast
the culled cattle that bellows
beneath the bloated moon
that pulses in the candied peel of barren suns
my day has no place no year
& every we just an I

[..]

Anna Hoffmann

Does dim byd fel gair newydd i aildanio fflam, fel soniodd James Meek yn y Guardian pwy wythnos.

Vanitas Still Life - Jan Jansz Treck, 1648.

Maffablog

Bydd darllenwyr cyson Morfablog yn gyfarwydd â fy hen ffrind Maff, sy’n ddi-Gymraeg (mae’n byw yn sir Gaint) ond yn gadael mwy o sylwadau ar y blog ’ma na neb arall yn y byd (er bod Sanddef ar ei gwt).

Mae e wedi dechrau ei flog ei hunan, maffablog (weloch chi beth wnaeth e yna?), ac o’r cofnodion cyntaf, mae’n edrych fel ei fod yn mynd yn ddifyr. Metal trwm, rysaitiau llysieuol, ac adroddiadau cwrw o faes y gad yn erbyn ei fola ei hun.

Bloglines Beta

Mae’r darllenydd RSS Bloglines wedi lansio fersiwn Beta sydd, i fi, llawer haws i’w ddefynddio. Mae popeth yn “llusgo a cwympo”, mae modd addasu’ch tudalen flaen, ac mae’r holl beth yn edrych yn lanach ac yn fwy, tmod, Gwe 2.0.

Bloglines Beta

Yr unig beth dw i’n methu gweithio ma’s yw sut i olygu enw ffrwd. Siwr fod e ’na rhywle.

Ochrflog fach Twitter

Diolch i Suw, dw i wedi bod yn chwarae gyda’r app gwe Twitter am gwpl o ddiwrnodau, ac heddi sylweddoli y bydd modd i mi ei ddefnyddio i flogio, o’r ffôn mudol, o faes y Steddfod.

Dw i wedi addasu’r côd Jafa tamaid bach i gael popeth yn Gymraeg – os dych chi am ddefnyddio hwnna, a wnewch chi ei gopio i’ch gweinydd eich hunan yn gyntaf, os gwelwch yn dda?

Wps – dim ffrydiau categoriau [Gol. OES!]

Wedi dweud wrth y darllenwyr di-Gymraeg bod hi’n bosibl tanysgrifio i ffrwd y categori Saesneg, dw i’n sylweddoli nad oes ffrwd o’r fath ar gael. Wna i sorto hyn yn y man, ond rhaid i fi fynd ma’s nawr.

Unrhywun yn digwydd gwybod sut i wneud hyn (creu ffrwd RRS o gategori unigol ar WordPress) – i arbed gwaith Gwglo i fi? Jolch.

[Gol.]http://morfablog.com/categori/english/feed/ yw cyfeiriad y ffrwd. Diolch yn fawr i Aran a Babs, am fod yn glyfrach na fi.

Continue reading

Chris Cope – O Flaen dy Lygaid

Jyst rhag ofn bod rhywun heb glywed am hyn, bydd Chris Cope, internet superstar (Welsh div.) ar raglen S4/C O Flaen dy Lygaid nos yfory am 9 o’r gloch. Wrth feddwl, mae’n bosibl bydda i ar hyn hefyd – wnes i ffilmiau vox pop i ryw raglen am Chris yn y Steddfod, ond mae’r boi wedi bod ar fwy o deledu na theulu Jade Goody at ei gilydd, felly pwy a wyr?

Fydda i ddim yn gallu gweld y rhaglen yn fyw (mae Talwrn y Beirdd yn cael ei recordio nos fory, ac mae tîm Philippa ynddo), felly dw i’n gobeithio y bydd ar gael ar wasanaeth newydd S4/C, Gwylio Eto.

Dyma fideo o Chris wrthi’n adolygu am ei arholiadau. Da iawn rwan.

Continue reading