Feuerwehr Waldtrudering

Tra bod ni yng Nghymru yn mynd ati i ddarbwyllo cwmnïau fel Trenau Arriva, y Banc Cydweithredol neu Marks & Spencer ei bod yn syniad da i beidio anwybyddu ein hiaith, mae’n debyg bod Brigâd Dân Waldtrudering (ie, yn yr Almaen), yn bell o’u blaen nhw.

Mae gyda nhw Basgeg, hefyd, jyst rhag ofn.

Mae hyn wedi wneud fy nydd.

Diolch am y tip, Armin.

Hefyd, o dudlaen Armin o flogwyr oddi gartref, dau flog newydd i fi (yn Saesneg), un gan Gymraes yn Nhalaith Washington a’r llall gan Gymro ym Milano (ddim wedi’i ddiweddaru yn diweddar).

You speak Flemish…

dltq.vlog: My Human Dog Cameo – dw i’n blogio llawer o flogiau fideo ar hyn o bryd, achos mod i wedi fy nghyffro ganddyn nhw, ond erbyn hyn mae’r pwll yn eitha cyfwng. Wrth gwrs, mae hyn yn golygu bod hi’n bosibl i ddod i “nabod” y criw bach o bobl sy’n blogio ar fideo yn eitha cyflym.

Neis iawn i glywed Peter yn y clip ’ma ddweud:

You speak Flemish, then you blog yn Flemish; you speak Spanish, then you blog in Spanish.

Ond, mae Peter yn blogio yn Saesneg.

Blog Peter Black AC

(As the subject of this post doesn’t read Welsh (I assume, perhaps wrongly), I thought I’d translate this post. Click here to go straight to the English.)

Blog Peter Black, AC. Am wn i, Peter Black yw’r unig Aelod Cynulliad sy’n cadw blog, ac felly, yr unig aelod y Cynulliad sy’n cadw mewn cyswllt â’i etholwyr yn y ffordd fwya effeithiol sydd ar gael i wleidydd yr unfed ganrif ar hugain.
Continue reading

Amser i arafu

Mae elck o’r corff llafar gwlad wedi bod yn arafu am wythnos, cymryd hoe bach, ail-ddarllen, ac ail-gyhoeddu, rhai o’i hoff erthyglau o’i hoff weflogiau.

Y ffordd mae rhithfro yn cynyddu ar hyn o bryd, bydda i’n gallu wneud hyn ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy.

Rhywbeth i edrych ymlaen ato fe.

Kinja

Mae Kinja yn syniad da. Yn syml iawn, ti’n creu rhestr o weflogiau ac mae Kinja yn cadw trac ohonyn nhw. Dw i wedi dechrau rhestr yma. Un broblem yw bod cofnodion y blog ti’n ychwanegu yn ola yn ymddangos uwchben popeth arall, yn lle cael eu trefnu ymysg pethau eraill.

Ddim yn siwr pa mor ddefnyddiol y bydd hyn, ond wna i chwarae gyda fe.