Morfablog

Jump to content.

Cernyw Heb Rent

Post diddorol ar y maes heddiw ‘ma, ynglŷn â’r blog Rent Free Cornwall, sef, yn y bôn, rhestr o dai haf yng Nghernyw sydd ar gael i bobl lleol eu sgwotio.

There is an ongoing housing crisis in Cornwall. Property speculators and investors are buying more houses as Cornwall becomes more fashionable. Towns and villages are becoming ‘ghost towns’ as local working families are forced out, unable to afford to either rent or buy a home. But all these empty homes can be saved, and communities restored, simply by lawfully squatting them.

Syniad difyr, neu syniad ffôl?

Yn ôl gwaith ymchwil gan David Sifry, mae 2 flog newydd yn lansio bob eiliad. Mae Technorati yn olrhain 50 miliwn o flogiau erbyn hyn.

Ond yma yng Nghymru, er gwaethaf tyfiant diweddar yn nifer o flogiau Cymraeg, mae blogio dal yn rhywbeth ymylol, ond yw e? Faint o Gymry (sy ddim yn aelodau maes-e) yn gwybod pa beth yw blog?

Sorto Bloglines

Tra mod i ati, dw i wedi mynd trwy fy holl ffolderi Bloglines a rhoi pob blog sy’n debyg i bostio rhywbeth a fydd o ddiddordeb mewn un ffolder newydd. Er ei fod e’n wych bod cymaint o bobl yn blogio yn y Gymraeg erbyn hyn, does dim digon o oriau yn y dydd i ddarllen popeth, heb sôn am y dros 100 blog MP3 dw i wedi tanysgifio iddynt, a gweddill y blogosphere Saesneg.

Mae’r ffolder newydd - #Dyddiol - yn ymddangos ar frig y rhestr ffolderi (gweler yr # yna?) ac yn cynnwys rhyw ddwsin o flogiau Cymraeg, tipyn bach mwy yn Saesneg, a sawl peth fel ffrydiau Flickr a PledgeBank. Y pethau dw i’n poeni am golli pan dw i’n gweld bod dros 1000 o gofnodion heb eu darllen a does dim dewis ond i ddefnyddio’r botwm panig Mark All Read.

Zonaindie

Blog MP3/fideo yw Zonaindie, llaw top o artistiaid o America Lladin.

Byw trwy flodau

Human Flower Project - blog ar y cyd a llawer mwy. Storiau am bwysigwrydd blodau i bobl. Ffeindiais i hyn ar hap, ac mae wedi goleuo fy more.

Moresukine

Moresukine - blog/dyddiadur/comic, wedi’i sgwennu mewn llyfr Moleskine, gan Almaenwr sy’n byw yn Tokyo.

Synnu bod neb wedi meddwl o wneud hyn o’r blaen.

Undoubtedly Bodacious

Undoubtedly Bodacious - blog (Saesneg, y rhan fwya) gan y bio sy’n gweithio ar y brosiect Rhith Gaerdydd. Dysgwr yw e, felly cer a gadael neges iddo.

Cameron: mwy deniadol na’r Nats?

Unrhywun gweld eisiau Nat Watch?

Reit, dyna beth o’n i’n meddwl.

Ond jyst rhag ofn bod hiraeth arnoch chi, dyma Cam Watch, sori, Notting Hell i lenwi’r bwlch yn eich bywydau. Mae’n debyg taw Nats Lloegr, sef David Cameron a’r Toris Newydd, yw’r bleiddiaid mawr drwg y dyddiau ‘ma, ac nid Nats Cymru.

Wrth gwrs, does dim tystiolaeth yn y byd bod y ddau flog yn eiddo yr un person, dim ond pethau fel steil y blog, y ffugenw “doniol” (Cameroon - heh), a’r cyfeiriad di-enw Gmail i anfon mwy o gynnwys i’r blogiwr di-enw. (Bydd yn ofalus os wyt ti’n wneud hynny - os ydw i’n iawn, mae o leia un person wedi colli ei swydd ar ôl cysylltu â’r blogiwr hwn.)

Ond dyw’r llys-enwau dyfeisiol ddim yn stopio yna, o nadyn.

Ddydd Sadwrn diwethaf, postiodd “Cameroon” gofnod am Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru Cabinet newydd y Toriaid, cofnod sy’n dwyn y teitl Cheryl the Peril. Yn ôl Google, mae dim ond un person arall wedi bod yn ddigon hy i alw Cheryl Gillan gan yr enw ‘na ac hynny dim ond deunddydd cyn i Cameroon “bathu” yr enw, sef Leighton Andrews, Aelod Cynulliad, blogiwr, a ffan tymor hir (gynt) o Nat Watch.

Ydy Leighton a “Cameroon” yn berthnasau, tybed? ;-)

Het mewn trwbl

Mae rhywun yn bygythio languagehat â gweithred enllib.

Ac mae pobl ar maes-e sy’n dal i feddwl fy mod i’n ffasgwr am ddileu pethau enllibus.

Smiling under Buses

Speaking a dead language since 1977″.

Mae’n debyg bod gen i 10 mlynedd ar Rhys fel Cymro, ond mae ganddo fe bron 20 arnaf i fel Cymro Cymraeg. Dim ond ers 1995 ydw i’n siarad yr iaith farw hon.

Mae’r syniad o Gymry Cymraeg sy’n blogio yn Saesneg wedi fy nharo i yn chwithig hyd yn hyn, ond nawr bod y syniad o flogio yn y Gymraeg wedi ennill ei le, a ydy hi’n amser i ni feddwl am flogio yn yr iaith fain hefyd, fel modd cyrraedd y di-Gymraeg. Chmod, yr “80% of the population of Wales who don’t speak Welsh”.

Mae ‘na rywbeth yn digwydd yma, ond mae rhan fwya o Mr Joneses y byd ddim yn gwybod beth yw e. (Sori, dw i’n dal i wrando ar ddim byd ond Dylan.)

Beth am blog-ar-y-cyd yn yr iaith fain gan flogwyr Cymraeg? Oes diddordeb?


[Gol. 28/10/05.] Dw i wedi creu addewid PledgeBank ar gyfer hyn, er mwyn profi rhyngwyneb Cymraeg newydd ar PledgeBank, mwy na dim. Byddai’n help fawr, os wyt ti’n ei lofnodi, i nodi unrhyw gwallau iaith, neu anhawsterau eraill, wrth fynd trwy’r broses ar PledgeBank. Diolch yn fawr. Hoffwn i gael hynny’n iawn cyn dechrau defnyddio PledgeBank am bethau mwy difrifol.

Gwe y Gwëwyr

Knit-wits: blogwyr sy’n gwau / gwëwyr sy’n blogio.

[dangerousmeta]

Helo blogiadur.com!

Mae Aran wedi adeiladu’r blogiadur i’w Sgwarnogod, sef “blog o’r blogiau”. Fel cyflwyniad i’r sîn blogio yn y Gymraeg, mae’n heb ei ail, gan fod dim angen cofrestru, na deall terminoleg, na dim byd. Yn ôl Aran, mae eisioes wedi talu am ei le, gan fod mwyafrif o’r bobl sy’n defnyddio Sgwarnog.com ddim yn ymwybodol o’r pethau eraill sy’n digwydd ar y we Gymraeg.

I’r rhai sy’n dod yma am y tro cyntaf ar ôl gweld y cofnod hyn ar y Blogiadur - croeso mawr i chi! Gadewch wybod yn y blwch sylwadau pwy ydych chi. Dyn ni’n hoffi darllenwyr newydd rownd fan hyn.

Rhithfro.com

Rhithfro.com - profi profi profi.

[Gol.] Mae’r Rhithfro yn fyw! Da iawn Aled, mae popeth yn edrych yn wych.

rhithfro.com

Natwatch wedi’i ddallu?

Och a gwae! Mae Natwatch wedi marw. (Ond mae archif Google dal ar gael, os dych chi ddim wedi bod yn dilyn hyn.)

Ddydd Sadwrn cyntaf y Steddfod, a ninnau newydd gyrraedd, ces i nodyn fodyn gan gyfail o maes-e i ddweud bod y person tu ôl i’r wefan sarhaus o wrth-Gymraeg wedi troi ata i fel targed nesa ei gasineb, gan gymryd rhywbeth dwedais i ar y maes mas o’i gydestun, ei gyfieithu i rywbeth fel Saesneg, ac yn anwybyddu’r rhan o’r neges lle esboniais i taw jôc oedd y cyfan. Diawl, am frawddeg rhedeg ymlaen. Dyna chi’r Blogathon, dim amser am ail-sgwennu.

Dyma fwrdwn neges y Nat-wyliwr:

Does anyone out there know Mr Dafis? What branch of the Nats is he a member of? Is he a Nat spokesperson on energy we wonder?

Mae “Price4President” yn gwybod yn iawn pwy ydw i, oherwydd i mi sgwennu ato ddwywaith ers dechrau’r busnes gyda Aled Cottle. Dw i ddim yn cuddio tu ôl i ffugenw plentynaidd - diawl erioed, dw i wedi newid fy enw gan weithred cyfreithiol er mwyn bod yn haws i ffeindio ar y we. Dw i’n ffaelu credu bod P4P mor di-glem ei fod e’n ffaelu ffeindio dim byd amdana i.

Yn bell o fod yn “Nats spokesman” ar unrhyw bwnc, dw i ddim hyd yn oed aelod o Blaid Cymru, ond ar ôl y busnes yma dw i’n sicr ystyried ail-ymuno â’r Blaid, ac i helpu nhw curo Plaid Lafur yng Nghymru.

Achos mae gen i reswm i amau taw aelod etholedig Plaid Lafur yw “Price4President”, ac os ydy’r blaid lywodraethol yng Nghaerdydd wedi syrthio mor isel eu bod nhw’n barod i ddefnyddio tactegau fel hyn, wedyn mae dyletswydd â phob un ohonon ni i gael gwared ohonyn nhw.

Dw i hefyd wedi dod yn ymwybodol yn diweddar pa mor wan yw fy ngafael ar faterion y dydd, hynny yw gwleidyddiaeth. Mae safon y trafodaeth ar faterion felly ar y maes wedi achosi cymaint o benbleth i mi yn diweddar i beri i mi gau’r adran wleidyddiaeth, sy ddim wedi bod yn benderfyniad poblogaidd iawn. Ond nawr bod ‘na Fforwm newydd sy’n mynd i arbenigo ym mhethau felly, falle bod yr amser wedi cyrraedd i mi gymryd diddorol mwy manwl.

Felly, diolch yn fawr “Price4President”, a beth bynnag sy wedi dy orfodi cau dy wefan i lawr, gobeithio dwyt ti ddim mewn perygl o golli dy swydd hefyd. Ti yw Swyddog Recriwtio gorau Plaid Cymru ers George Thomas. Mae cenedlaetholdeb Cymru yn dy angen di!

Ni yw’r Chubsters

Chubstergang - criw o ferched mawrion, sy ddim ag ofn defnyddio eu hadnoddau i gael beth maen nhw eu eisiau.

The Chubsters are a vicious girl gang dedicated to showing that chubbers are badass, hot, mean, bitchy, cute, funny and tough.

Amdani, chwirorydd!

[Trwy seeworthy, sy'n blogio am fat lib.]

Gwylio’r Gwylwyr

Fel sôniais o’r blaen, does dim modd gadael sylwadau ar y blog wrth-genedlaetholdeb Cymru/Yr Alban Natwatch, felly mae rhywun wedi mynd ati i ddechrau NatWatchWatch.

Difyr iawn.

Gàidhlig - cha bhithinn às a h-aonais!

Gàidhlig - cha bhithinn às a h-aonais! - blog yn Aeleg yr Alban, gyda dolenni i fwy, yn yr Aeleg neu efallai y Wyddelig - mae’n flin ‘da fi gyfadde mod i ddim yn gwybod digon am y ddwy iaith i wahannu rhyngddyn nhw. Ond braf iawn gweld cymaint o flogiau newydd yn dechrau yn ein chwioroydd ieithoedd. Ein hieithoedd cefnitherol. Chi’n gwybod beth sy ‘da fi.

Gol. Diddorol bod y rhan fwya o’r blogiau ‘na, o beth dw i’n gallu deall (h.y. o’r tipyn Saesneg sy’n ymddangos) yn cael eu sgwennu gan ddysgwyr, ac nid gan siaradwyr brodorol.

[diolch i Rhys, ar y maes]

Diolch i Pat, ddwywaith

Un am yr ebost hynod o garedig, a’r llall am wneud i fi chwerthin yn uchel gyda’i safle näätämökäm. Dw i’n fawr gobeithio nad ydyn ni wedi clywed y newyddion ola gan y camera traffig mwya cyffrous yn y byd. Dw i newydd gwylio’r codiad yr haul yn y gogledd pell, a bois bach, mae’n sydyn. Un munud mae hi fel y fagddu, y munud nesa (wel, yr hanner awr nesa) mae haul tanbaid yn tywynnu ar y ffordd dawel.

Mwy o adroddiadau plîs, Cudd-weithredwr P.

Mae Pat wedi dechrau mwy o flogiau nag wyt ti wedi eu darllen. Dw i newydd ddod ar draws un arall ganddo sy’n dwyn y teitl I Hate Cars.

Ai hyn yw “blogio”?

Ai hwn yw blogio? Cofnod gan Nick Cohen ar blog newydd The Observer. Unwaith eto, mae’n amlwg pa mor lydan yw’r bwlch rhwng dealltwriaeth y technoleg newydd yng nghyfryngau Lloegr, ac yma yng Nghymru. Dw i’n gwybod bod yr Observer yn fwy tebyg na’r Telegraph, dweder, i ddangos y ffordd ymlaen, ond dydy blogio, fel syniad, ddim cweit wedi cyrraedd soffa Wedi 7 eto yng Nghymru fach.

Mi fydd hi, nos Fawrth nesa, ond sut mae dyn i fod i ateb cwestiwn fel “wel Nic, beth yw ystyr blog?” mewn munud neu ddwy, gan wybod y bydd yn cael ei dorri mas o’r darn recordiwyd gan ei fod yn syniad rhy newydd i Mrs Jones, Llanrug ei ddeall? (10/1 taw’r unig pethau sy’n goroesi o’r cyfweliad wnes i bydd y darnau ble dw i’n sôn am y pethau cas sy’n cael eu dweud ar maes-e o bryd i’w gilydd.)

Mae’r Observer nid yn unig yn deall y cwestiynau sylfaenol “beth yw blog“, maen nhw’n deall, ac yn defnyddio, folksonomies, hynny yw defnyddio tagiau/allweddeiriau i gategoreiddio cofnodion ar y blog.

Mae hefyd yn gadael cofnodion y blog yn agored i unrhywun bostio sylwadau heb cael eu cymedroli (sy’n fwy na dw i’n wneud ar hyn o bryd), tra bod yr unig ffordd i hyd yn oed darllen sylwadau defnyddwyr gwefan Golwg yw cofrestru, mewgofnodi (gyda thri darn o wybodaeth i’w cofio yn lle y ddau arferol) ac wedyn ffeindio taw ti a “WALISER” yw’r unig pobl sy wedi ymweld â’r lle ers oes pys - a’r unig reswm mae ynteu yna yw ei fod e wedi cael ei wahardd o maes-e.

Mae gwefan y Cymro i lawr.

Dyw gwefan Y Byd ddim wedi’i adnewyddu ers cyn y Steddfod.

Wyt ti’n gweld pam dw i wedi postio hyn yn y categori Dyfodol yr Iaith?

*codi gwar*

Hanzi Smatter

Hanzi Smatter - blog am bobl sy’n cael tatws gyda symbolau Siapaneg/Tsieneg heb drafferthu eu cyfieithu.

Next Page »