Un o’r blogiau newydd ar y bloc, ac un o’r rhain mwya darllenadwy yw blog Cymuned. Aran Jones, prif weithredwr newydd y fudiad, sy’n cyfrifol am y blog (mae ganddo flog personol hefyd – rhaid bod dim angen cwsg ar y boi) ac mae’n defnyddio i adrodd yn ôl ar y gwaith mae’n gwneud bob dydd, o wneud datganiadau i’r wasg ac ymddangos ar y teledu a’r radio, i’r stwff mwy gwaith-bob-dydd, fel stwffio amlenni. Dw i’n fawr gobeithio y bydd Aran yn gallu parhau wneud y blog yma, sy’n enghraifft gwych o sut all mudiadau pwyso defnyddio’r we i’w mantais.
Continue reading
Tag Archives: Blogiau Cymraeg
Bwydo dy hunan
Dyma tric bach handi, sut i wneud dy ffrwd RSS dy hunan (gan David ar Cloudsoup, eto).
Mae e wedi wneud ffrwd sy’n ffeindio pob stori ar “Wales Welsh Culture Arts”. Jyst i brofi bod ei ganllawiau yn ddigon hawdd i unrhywun i’w dilyn, dyma un dw i wedi’i wneud i ffeindio storiau am yr iaith (cei di danysgrifio i hwn ar Bloglines yma).
Mae’n drueni nad yw’n pigo lan pethau yn y Gymraeg (o wefan Cymru’r Byd, er enghraifft, ond mae siwr o siwr ffordd o addasu fe.
Mae Feedburner yn gallu creu GIF wedi’i animeiddio o dy ffrwd hefyd, nid fy mod i’n ddigon plentynaidd i wneud…
O, g’won ‘te:

Wiki wiki wiki
Diolch i Aran, dw i wedi treulio oriau ychwaegu erthyglau newydd i’r Wicipedia.
Ie, dw i’n gwybod mod i wedi sillafu Medal Rhyddiaith yn anghywir, Huw. Paid poeni, dw i wedi ei gywiro.
Mae ffrwd RSS ’da’r Wiki, i chi ddefnyddwyr Bloglines. (D.S. Dw i’n cael neges wall wrth glicio ar y linc am y ffîd, ond mae Bloglines yn gallu wneud sens mas ohono fe, felly mae popeth yn iawn.)
Moblogio o’r Lôn, ar y ffôn
Mae Rhodri Nwdls ar daith trwy Gymru ar gefn ei feic, ond mae’n blogio o hyd, gyda ei ffôn ar y lôn (ar y lôn las?)

Blogio dros dy Aelod Seneddol
Newydd ddechrau edefyn ar y maes am wleidyddion sy’n blogio (neu, sy ddim, yn achos Cymru). Wrth sgwennu hwnna, des i ar draws tudalen sy’n esbonio sut i ddechrau blog dros dy A.S. – hynny yw, dilyn popeth maen nhw’n wneud yn eu gwaith drostoch chi, a’i bostio ar weflog yn eu henw nhwthau, fel mae Tim Ireland yn wneud yn achos Tim Yeo. Nid yw Tim/Tim yr unig un: mae Rob D yn blogio ar gyfer ei AS, Sarah Teather, ac yn cynnig mwy o gyngor i’r rhai a hoffai gael go.
Gwefan arall sy’n newydd i fi yw They Work For You, sy’n ddefnyddiol iawn. Maent hyd yn oed yn darparu ffrwd RSS ar gyfer pob A.S., felly nawr dw i’n gallu dilyn popeth mae Simon Thomas yn ei ddweud yn San Steffan, trwy fy nhanysgrifiadau Bloglines.
Dw i’n credu byddai Simon Thomas yn wneud blogwr gwych. Beth amdano Simon? Dw i’n siwr bod y tag “aelod seneddol gwrywaidd cynta i wisgo clust-dlws” yn dechrau treulio’n denau erbyn hyn, beth am fod yr aelod cyntaf Cymraeg i gadw blog?
Pigion y Rhithfro
Jyst rhag ofn bod chi ddim wedi sylwi, mae peth bach newydd ar y dde ’na, sef “Pigion o’r Rhithfro”. Dyna ble bydda i’n rhoi lincs i flogiau Cymraeg newydd , neu cofnodion handi ar weflogiau Cymraeg, neu hyd yn oed edeifion diddorddol ar maes-e. Bydd y dolenni yn mynd yn syth at y wefan mewn golwg, ond cei di adael sylw yma os ti moyn gan roi clec ar y “#” dan y linc.
Mae cymaint o bethau da yn digwydd yn y rhothfro ar hyn o bryd oedd perygl y byddai Morfablog yn troi yn ddim byd mwy na chasgliad o ddolenni i weflogiau newydd yn yr hen iaith: dim byd yn bod ar hynny wrth gwrs, ond mae diddordebau eraill ’da fi.
Na, wir i chi.
Croeso i Ddyfryn Aeron
Dyffryn Aeron ar y we – am enghraifft wych o wefan Gymraeg gymunedol. Syml, defnyddiol, diddorol, a digon o luniau o ddynion wedi’u gwisgo fel Jordon. Rhywbeth i bawb.
Adnoddau heb eu hail i’r blogwyr?
Ffeindiais i’r dudalen isod am fwyd Siapan gan ddarllen nodlyfrau Pat trwy gyfrwng fy nudalen Bloglines.
Continue reading
Y Stafell Ddu
Falle o’n i’n gwybod bod blog rhestr ffilmiau gan Rhodri Nwdls, ond dw i’n eitha siwr dw i ddim wedi blogio amdano fe.
Mae blogiau syml fel hyn yn dangos hyblygrwydd y fformat. Dyma rywbeth sy ddim yn swnio yn ddiddorol iawn ar bapur, ond mewn gwirionedd, mae’n ffordd reit dda o ffeindio ffilmiau newydd i’w gwylio.
Myddarffycars ym *mhob* man
Blog newydd gan M.C. Sleifar: dimbrainsdotcom, sy wedi dechrau heb yr arferol “sa i’n gwybod beth ydw i’n mynd i sgwenu yma, dim byd, mwy na thebyg”. Ffyc ddat. Dweud helo ac wedyn mynd yn syth am wddw un o gwmniau telecom mwy’r byd yn yr ail gofnod.
Fel dwedais i ddiwrnod o’r blaen rhywle, y peth gorau am Ddiwygiad Blogs Cymraeg ’04 (™ Macsen) yw’r ffaith bod mwwy o flogiau yn meddwl bvod rhaid i bob un ohonon ni gweithio yn galetach os ydyn ni moyn pobl dod i’n blogs, darllen beth sy gyda ni i ddweud, parhau’r sgwrs.
Sa i wedi edrych ar blog Saesneg mewn wythnos.
Dim cwsg tan coleg
dimcwsg.com – gwefan drafod ar gyfer rhieni a darpar rheini, sy’n defnyddio meddalwedd phpBB (fel mae maes-e yn ei ddefnyddio) ond i greu gwefan gymunedol go wahanol i’r hen faes, tybiwn i.
Llongyfarchiadau i Siwan, Siôn a’r criw am ddod â’r babi newydd hwn i’r byd.
Ocê, dyna digon, cewch chi stopio nawr, diolch
Mae tyfiant ym myd y blogiau Cymraeg yn mynd yn drech na fi. Dw i’n ffaelu cadw i fyny, gyda chymaint o flogiau newydd yn cael eu creu, a llawer ohonyn nhw’n edrych fel y byddan nhw’n werth darllen, hefyd. O ie, sori, wedais i ddim byd am hyn, naddo? Nid jyst mwy o flogiau Cymraeg sydd angen, ond blogiau Cymraeg y bydd pobl eisiau darllen achos eu bod nhw’n dda, yn hytrach nag achos eu bod nhw’n Gymraeg. Dw i wedi cael “getaway” gyda sgwennu rwtsh yma, ond bydd rhaid i hynny newid nawr bod Morfablog yn ddim ond un o lawer.
Dw i wedi bod yn aros am hyn ers 2001.
Mewn datblygiad gwych mae Aran wedi lansio Sgwarn(fl)og, sy’n defnyddio meddalwedd ffynnon agored Nucleus mae Aran wedi’i addasu i greu profiad blogio hollol Gymraeg, fel fyddet ti’n disgwyl gan Brif Weithredwr Cymuned. Mae e’n cynnig llety i flogwyr sy’n “o ddifri” am flogio – hynny yw, sy ddim y mynd i sgwennu “helo byd” ac wedyn diflannu o’r Rhithfro. Os wyt ti am greu http://dyflogdi.cymrurhydd.com, cysyllta ag Aran.
Rownd yp glou o’r blogiau Cymraeg newydd sy wedi ymddangos yn y deudydd/tridiau diwetha. Bydda i’n ychwanegu nhw at rhestr y rhithfro yn y man.
Ymddiheuriadau os ydw i wedi anghofio unrhywun. Rho wybod yn y sylwadau os felly.
Ble mae’r gath? – gan Mike, dysgwr o Lundain.
Yr Efengyl yn l Iesu Nicky Grist (dim perthynas).
Saerhd gan Ifan Saer.
Dim Brains gan MC Sleifar.
Hogyn o Login gan Aled.
Lol, a lot ohono fe
Ddim yn gwybod pam dw i heb wneud hyn o’r blaen, ond dw i newydd ychwanegu Lol Lwlw i Restr y Rhithfro. Un o’r ton newydd o’r blogiau Cymraeg, ac un o’r mwy bywiog. Rhywbeth newydd i ddarllen bob dydd, dyna beth dyn ni moyn! Mwy o lol, plîs, Lwlw!
Blogio o strydoedd Rigo
Blog Droed: Meddwi’n racs yn Riga – stori Gary am ymweliad cyntaf tîm pêl-droed Cymru â Latfia:
Roedd rhywfaint o siom nos Lun wrth i bedwar boi ifanc o Latfia ddewis ymosod ar ein criw ni o hogia mewn bar ger y prif sgwâr. Er bod yr heddlu wedi eu galw i’r bar gan y perchennog, llwyddodd y bois o Latfia i roi slap i nifer o’r hogia. Yn wir, roedd un plismon yn dal Cymro tra roedd un o’r hogia lleol yn ei ddyrnu.
I dorri stori hir yn fyr, es ddywed y Sais, cafodd un Cymro ei gymryd i gefn fan heddlu ac, ymhen ychydig oriau, cafodd ei hebrwng i ATM cyfagos a’i orfodi i dynnu 300 lat (tua 300) allan o’r peiriant – “dirwy” medda nhw …
set-up llwyr a llwgrwobrwyo byddwn i yn ei alw.
Dyma pam mae angen mwy o flogiau Cymraeg. Ble arall gallu darllen storiau fel hyn o berspectif un o’r cefnogwyr?
Mordicai
Mae hi wedi bod yn wythnos fishi ym myd blogiau Cymraeg. Dw i wedi colli trac o faint o flogiau newydd wedi ymddangos (mae o leia dau wedi dechrau heddi, sef Ymgyrchu a’r Bachgen o Bontllanfraith). Ond mae rhywbeth arall wedi dechrau symud yn y tywyllwch. Rhywbeth rhyfedd, rhywbeth amwys, rhywbeth sy’n drewi fel pymtheg llath o fadarch wedi pydru.
Foneddigion a boneddigesau, mae Mordicai yn y tŷ.
Byddwch ag ofn. Byddwch ag ofn mawr.
Beirdd yn blogio
Wel, nid eto, ond rhywbryd, falle.
Byddai’n wych o beth ’sai rhai o’n beirdd yn dechrau blogio. Hawdd i ddychmygu’r hwyl byddai Twm yn cael gyda sgwarnogblog Morysaidd, unwaith ei fod yn gweld pa mor hawdd yw e cyrraedd cynulleidfa uniongyrchol.
Beirdd y byd! Mae’n cymryd pum munud i ddechrau blog! Dyw e ddim yn costu dim! Does dim angen aros am gyllid gan y Cyngor Celfyddydau!
Oes ’na ffordd neis i ddweud wrth cynghanedd.com bod y GIFiau wedi’u hanimeiddio, tagiau <MARQUEE> a’r defnydd o enwau stafelloedd mewn tŷ yn lle adrannau ar wefan, yn wneud eu tudalen flaen yn amhosib i’w ddefnyddio? Nag oes? Ocê ‘te.
Continue reading
Croeso i’r Sibrydion
Wedi ychwanegu Sibrydion Snaks a sawl ffrwd RSS i restr y rhithfro.
Ffotoblog Chris
Mae gan Chris Castle blogffoto o’r enw Bratiaithflog sy’n llawn ffotos gwych Caerdydd a’y cylch.

Blog am wleidyddiaeth Cymreig
Gwleidydd – blog newydd arall, ac un sy’n mynd i fod yn ddiddorol iawn.
Englynion o fri
Dw i wedi dechrau blog bach sydyn ar gyfer englyn y dydd – jyst lle i bostio un (neu fwy) o englynion bob dydd, gan fy mod i’n trial darllen mwy o farddoniaeth.