Gwawr Niwclear – blog sy newydd droi yn Gymraeg, ac un arall sy’n defnyddio WordPress.
Tag Archives: Blogiau Cymraeg
Sleblogiwr o fri
Blog newydd i’r ‘fro: sleblog. Gan mod i ddim yn siwr pa enw mae blogiwr yma yn defnyddio ar ei flog, dw i ddim yn gallu ei groesawu gan ei (h)enw, ond dw i’n siwr y bydd popeth yn glir yn y man.
Dw i wedi torri fy rheol am beidio ychwanegu blogiau i restr y rhithfro nes bod y blogiwr wedi postio am sbel, gan fod y blogiwr newydd yma wedi cyfieithu WordPress i’r Gymraeg cyn iddo ddechrau ar y gwaith blogio.
Mmm, WordPress. Dyna rywbeth i ffeddwl amdano…
Helpwch Suw!
Beth yw e am ddysgwyr a’u gliniaduron? Pwy â wyr ond mae Power Suw wedi marw (wel, dim cweit, ond dyw e ddim yn swnio’n dda) ac mae hi’n gofyn am help.
Clecs Cilgwri
Gwylio’r dudalen ‘na
Gwylio’r dudalen ’na – teclyn bach handi i gadw llygad ar wefannau drostot ti – gwefannau sy heb ffrwd RSS, hynny yw. Dw i’n defnyddio fe i wylio blog Cymuned, a’r lleill sy heb y seren pwysig yn rhestr y rhithfro, ac hefyd ar gyfer tudalennau o MP3au sy’n newid o bryd i’w gilydd, fel yr un Van der Graaf ’ma.
(Mae Van der Graaf wedi’u hailffurfio, gyda’r llaw. Fyddwn i wedi gwybod hyn yn gynt, a phrynu tocyn i’r unig sioe sy wedi’i drefnu, ’swn i wedi cofio i roi’r dudalen ’na yn fy rhestr WatchThatPage.
Tsk.)
Un defnydd arall o WTP yw i wylio tudalennau blogiau lle wyt ti wedi gadael sylwadau.
Blogio’n well: 21 + 1 pwynt
21+1 points for better weblogging. Anodd anghytuno ag unrhywbeth yma. Diddorol hefyd i sylwi nad ydy blogio yn y Gymraeg wedi cyrraedd y pwynt oedd blogio yn y Bortiwgaleg wedi cyrraedd erbyn haf 2003, sef bod y cyfryngis a’r gweidyddion yn dechrau cymryd drosodd.
Geiriau Pat
Mae wastad yn braf i weld blog newydd Cymraeg, ond mae’n well byth pan ti’n dod ar ei draws mis ar ôl iddo ddechrau, ac mae tipyn bach o gig ar yr esgyrn. Wele, felly, geiriau, blog Pat Hall am y geiriau ac ymadroddion mae’n darganfod wrth ddarllen blogiau a gwefannau eraill yn y Gymraeg.
Why we blog yn Gymraeg
Erthygl Saesneg ar flogiau Cymraeg, sef y gyntaf mewn cyfres o erthyglau a fydd yn ymddangos ar suite101 yn y misoedd nesa, mae’n debyg. Mae Sarah yn llygad ei lle am ba mor ddefnyddiol mae blogiau yn gallu bod i ddysgwyr – dw i’n gwybod hyn o brofiad. Falle nad yw safon fy Nghymraeg wedi gwella ers i mi ddechrau Mblog, ond dw i’n gallu sgwennu yn yr hen iaith yn glouach nag ydw yn Saesneg erbyn hyn gan fy mod i bron byth yn defnyddio Saesneg ar y we y dyddiau ’ma.
Edrych ymlaen at y rhan nesa, er na fydd hynny cystal â’r darn cyntaf ar ran y blogiau mae hi’n trafod, wrth rheswm.
Ysu am Eirfa
Mae teclyn cyfieithu y BBC, Geirfa, wedi bod yn y newyddion yr wythnos ’ma, gyda lansiad swyddogol ar ôl cwpl o fisoedd o brofi’r peth (fel y blogwyd yma adeg y Steddfod). Mae sôn yn y sawl erthygl sy wedi ymddangos yn diweddar am y posibiliad y bydd y côd ar gael i wefannau Cymraeg eraill, ond ro’n i ar ddeall na fydd hyn yn digwydd nes bod y BBC yn ffeindio ffordd i gadw’r lines of demarcation yn glir rhwng eu cynnwys nhw a chynnwys y safleoedd eraill. Mewn un erthygl dw i wedi gweld heddi mae’n dweud, yn blwmp ac yn blaen The programme, Vocab, is available free of charge to Welsh-language websites, ond does dim sôn am hyn ar hafan Geirfa.
Byddwn i wrth fy modd ’swn i’n gallu cynnig y gwasanaeth yma i ddarllenwyr di-Gymraeg/dysgwyr ar Morfablog.
Eisiau eisiau eisiau.
Oes amserlen i ddweud pryd bydd hyn ar gael i werin bobl y we?
Blogiau newydd…
Cwpl o flogiau newydd: Dyddiau Llwyd (a phen-blwydd i ti Alex) a Peredur Glyn.
Dw i ddim yn ychwanegu blogiau newydd i’r rhestr ar y dde am sbel. Mae lot o’r blogiau sy ’na ar hyn o bryd wedi marw i bob pwrpas, felly bydd rhaid chwyno’r rhestr cyn bo hir. Dw i dal i feddwl bod angen rhyw ffordd arall o gadw trac o’r blogiau Cymraeg, ond ar hyn o bryd, mae gormod ar y plat.
Mae’r Rhithfro yn cyrraedd Canolbarth y Gorllewin
Dim ond nawr dw i wedi dechrau darllen blog Cynog, sy wedi mynd i fyw yn Ohio am flwyddyn, mewn tre fach gyda chysylltiadau hen i Gymru fach. Dyma fe’n cyrraedd, ffeindio’r lle gwerthu cwrw agosa, a siarad Cymraeg â rheolwr y siop, wrth gwrs, sef rhywbeth dw i’n ffaelu wneud yn pedwar o’r pump lle sy’n gwerthu cwrw yn Llangrannog.
Dwli ar Bloglines, rhan #386
Syrpreis bach neis pan es i i Bloglines y bore ’ma – roedden nhw wedi wneud awgrymiadau ynglŷn â pha blogiau eraill alla i danysgrifio iddyn, wedi seilio’r rhai dw i’n gwylio nawr. felly dw i’n eitha sicr fy mod i’n tanysgrifio i bob blog Cymraeg nawr, gan gynnwys y rhai dw i newydd ychwanegu i restr y rhithfro.
Sy’n dod â fi at gwestiwn: a ydy hi’n werth cadw y rhestr yna lan, os ydy Bloglines yn gallu wneud y gwaith droston ni? Byddai’n lot haws i fi defnyddio’r javascript mae BL yn cynnig i reoli’r rhestr blogiau. Yr unig broblem wedyn bydd y dau neu dri o flogiau Cymraeg sydd heb ffîd RSS.
Dw i ddim am newid eto, ond dw i yn meddwl amdano.
Sylwadau?
Dyddiadau mewn ieithoedd eraill
Ro’n i’n gwybod mod i wedi gweld enw Luistxo Fernandez, awdur y erthygl linciwyd isod, o’r blaen: dw i wedi bod ar ei flog. Yn ei gofnod diweddaraf, mae e’n sôn am hac sbwriel i ddangos dyddiadau yn Gymraeg ar blogspot, ac yn awgrymu opsiwn arall.
Rhithfro wedi mynd, dros dro
Dw i wedi torri’r cod am restr y Rhithfro, eto. Dw i’n rhy flinedig nawr, wna i drial trwsio fe fory.
Sori.
Blogio’r dysgwyr
Blog newydd i Ddysgwyr De Ddwyrain, ond fydd o ddiddordeb i unrhywun sy’n siarad Cymraeg yn yr ardal fendigedig honno, tybiwn i.
Dyna beth o’n i’n bwriadu wneud gyda dysgu.com, ond honna yw dim ond un o’r prosiectau sy wedi cwympo wrth ochr y ffordd yn diweddar.
Bydd pethau yn gwella, dw i’n addo.
Blogio yn Iran ac ati
Emergent blogging from Iran – hen gofnod am flogio mewn ieithoedd “lleiafrifol” (sa i’n credu bod Persieg yn cyfrif fel un o’r rheiny) gyda sylwadau diddorol gan Suw Charman ac eraill.
He explains that the Persian blogs can be traced to the short explanation written by Hoder at Hoder.com explaining how to use Blogger in Persian. There are now over 100,000 Persian blogs.
Glweon ni rywbeth tebyg yn sgil y trafodaethau ar maes-e ynglyn â Chymreigio Blogger, ond dim byd fel yna.
Llythyr Telsa
Ar flog Telsa yn diweddar:
Dw i wedi ysgrifennu llythr yn Gymraeg heddiw, ac roedd hynny’n real life, dim fel gwaith cartref neu rhywbeth. Dw i’n falch. Nawr, oes digon o hyder ’da fi i’w bostio fe?
Dw i’m amau taw ata i oedd y llythyr hanesyddol yma. Prin iawn bod darllen gwaith cartre yn rhoi cymaint o bleser i mi. Wedi dweud hynny, prin iawn yw’r gwaith cartre gyda siec yn yr amlen
Diolch yn fawr Telsa.
Dyn ni nôl!
Diolch i bawb am y cefnogaeth, yn enwedig y rhai hael iawn sy wedi fy helpu talu am yr iMac newydd. Mae’r cyfanswm wedi cyrraedd £200 erbyn hyn, sy’n wych o beth.
Diolch yn arbennig i fois Ashokhan am y rhodd hael iawn. Y ‘Khan yw house band newydd Morfablog.
Blog Menai
Blog newydd i’r fro. Dw i’n ffaelu ychwengu blogiau newydd i restr y rhithfro ar hyn o bryd, ond wna i hyn unwaith bod cysylltiad we ’da fi gartre.
Blog blogspot Peter Black AM
Braf gweld bod Peter Black AS wedi llwyddo symud ei flog draw i Blogspot, a’r holl archifau hefyd.
Dw i wedi clywed si bod o leia un aelod Cynulliad sy’n medru’r Gymraeg yn ystyried dechrau blog, a dw i wedi sgwennu ato i ddweud pa mor wych byddai fe ’sai’r blog yn un Cymraeg, neu o leia’n ddwyieithog.
Dydy’r AS ’ma ddim yn aelod Plaid Cymru.
Na, dim Plaid Lafur chwaith.
A dyw e ddim yn yr un blaid â Peter Black.
Fyddai’n ddiddorol ’sai’r AS cyntaf i flogio yn y Gymraeg yn dod o’r Blaid Arall, ond fyddai?