Diolch Dafydd!

Newydd sylweddoli bod Dafydd wedi fy noddi. Diolch yn fawr am hyn Dafydd. Ro’n i’n gobeithio dy weld di yn ystod y Steddfod. Fuest ti ’na?

Peidiwch â cholli Gigfap Curiad – sdim lot o bethau sy’n cymaint o hwyl ag ymsaethu i mewn ar y Fic, Llithfaen o uwchben y cymylau.

Criddle yn y Sgrym

Y Rheng Flaen yw blog rygbi, yr un cynta yn y Gymraeg, mae’n debyg – a finne am un yn edrych ymlaen at y dydd pan bydd o leia un o bob math o flog yn y Gymraeg, i mi gael beidio teipio’r llinell ’na byth ‘to.

Y barfog brawd Geraint Criddle sy’n ei gynnal, sy’n warant o’i safon. Wel, o leia bydd popeth wedi’i sillafu’n iawn, sy’n fwy nag allwn ni ddweud am y lle hwn.

Blog Chwaden

Cwacian, blog Chwaden, wrth gwrs.

Mae ganddi gofnod diddorol am hawliau anifeiliad, rhywbeth sy yn y newyddion ar hyn o bryd achos gweithgareddau’r eithafwyr, a’r mesurau newydd gan ein llywodraeth proto-ffasgaidd a ellir, yn handi iawn, cael eu defynddio i amddiffyn elw y cwmniau ffarmasiwtical y bobl sy wedi denu sylw negyddol am eu cysylltiadau (tenau iawn, mewn rhai achosion) i’r diwydiant arteithio anifeiliad.

Feuerwehr Waldtrudering

Tra bod ni yng Nghymru yn mynd ati i ddarbwyllo cwmnïau fel Trenau Arriva, y Banc Cydweithredol neu Marks & Spencer ei bod yn syniad da i beidio anwybyddu ein hiaith, mae’n debyg bod Brigâd Dân Waldtrudering (ie, yn yr Almaen), yn bell o’u blaen nhw.

Mae gyda nhw Basgeg, hefyd, jyst rhag ofn.

Mae hyn wedi wneud fy nydd.

Diolch am y tip, Armin.

Hefyd, o dudlaen Armin o flogwyr oddi gartref, dau flog newydd i fi (yn Saesneg), un gan Gymraes yn Nhalaith Washington a’r llall gan Gymro ym Milano (ddim wedi’i ddiweddaru yn diweddar).

Blog Rhys Llwyd (a bach o rant)

Ydw i wedi sôn bod gan Rhys Llwyd flog erbyn hyn? Mae e’n blogio am ei arholiadau ar hyn o bryd, ond mewn ffordd sy’n eich wneud chi actiwali darllen y cofnodion, yn lle y jyst dweud o, gwae fi am fod yn fyfyriwr.

Pob lwc gyda’r arholiadau, a’r blog, Rhys. Cofia, dim ond dros dro yw poen arholiadau – mae blog am oes. ;-)

Dw i’n edrych ymlaen at yr amser (sy ar y gorwel eisioes) pan fydd yn bosibl i beidio siarad am “flogiau Cymraeg” fel un peth monolithig, a dechrau sôn am y “blogiau Cymraeg sy’n werth eu darllen”. Wedi’r cwbl, y broblem gyda S4C, Radio Cymru, Y Cymro, Golwg, bron â bod pob agwedd o’r cyfryngau Cymraeg eu hiaith eu does dim lle i fwy nag un enghraifft o bob un yn y farchnad (o leia dyna’r syniad di-ofyn), gan fod bob un o’r pethau yma yn dibynnu ar arian cyhoeddus i oroesi.

Dydy blogwyr ddim. Fel dw i wedi dweud o’r blaen, yr unig peth sy’n stopio pobl rhag blogio yn y Gymraeg yw

  1. Anwybodaeth (ddim yn gwybod pa beth yw “blog”)
  2. Prinder diddordeb
  3. Diogrwydd

Does neb yn dy stopio di rhaf dechrau blog heddi. Os wyt ti’n darllen hyn ar gyfrifiadur, ac oes hanner awr y dydd sbâr ’da ti, gelli di fod â dy flog dy hunan mewn hanner awr.

Dyma’r cam cyntaf.

Reit, dw i’n mynd i’r garej. Erbyn i mi ddod yn ôl, dw i eisiau gweld hanner dwsin o flogiau newydd yn y Gymraeg.

</athro_sgêri>