T-minws un awr

Dechrau cyffro nawr…

Wedi cael fy rhestr o flogiau bydd rhaid i mi eu gwylio yn ystod y Thon, ac mae ’na sawl un diddorol yna – mwy o fanylion i ddilyn.

Mae’r negeseuon sbamllyd dw i wedi bod yn anfon mas yn dechrau talu eu ffwrdd – mae cyfanswm nawr yn sefyll ar £155.

Dyw e byth yn rhy i noddi, cofia, felly os ti am helpu Cyfeillion y Ddaear Cymru yn eu hymgyrchoedd holl bwysig, cer i’r tudalen noddi a gadael dy fanylion.

Os byddai’n well ’da ti beidio neud hynny, ond ti dal am fy noddi, cysyllta â fi a galla i seto lan cyfrif o dan ffugenw i ti, gyda cyfeiriad ebost dros dro. Fydd dim rhaid i ti neud dim byd arall ond rhoi’r arian ar ôl y Blogathon.

Fy ebost yw nicdafis at gmail dot com, neu elli di hala nodyn bodyn at 07733396981.

Diolch yn fawr i bawb sy wedi fy noddi yn barod!

Yr unig peth sy fy mhoeni nawr yw fy nghysylltiad i’r we. Gyda thywtydd fel hyn, mae’n gallu bod bach yn fregus.

A wel, mwy o hwyl ;-)

An hour to go, and I’m starting to get excited – caffeine kicking in, and lots to do.

My shameless spam campaign has started to pay off too – the sponsorship total now stands at £155.

But remember, it’s never to late to sponsor! Click on this link to sign up as a sponsor – or if you prefer not to go through the Blogathon site (some people don’t like giving their details online), get in touch with me and I’ll sign you up on a proxy account. My email is nicdafis at gmail dot com, or you can text me on 07733396981.

A big thanks to all those who’ve already sponsored me!

Nôl yn y byd

Mae wedi bod bron yn dair wythnos ers i mi bostio yma, sydd, efallai, rhyw record i mi. Mae rheswm da, wrth gwrs. Wythnos diwetha buon ni’n cerdded Clawdd Offa. Yr wythnos cyn hynny, buon ni yn Aberhonddu, cadw cwmni i Joss a cherdded ym Mannau Brycheiniog. Yr wythnos cyn hynny, sy’n teimlo yn llawer mwy na pythefnos yn ôl, buodd y ddau ohonom yn dysgu ar gwrs Ysgol Haf Llambed, lle oedd mwyafswm o 26 o ddysgwyr yn dy nosbarth i. Ffordd braf iawn i bennu fy “ngyrfa” fel tiwtor Cymraeg.

Ie.

Yfory dw i’n dechrau swydd newydd sbon, gydag Urdd Gobaith Cymru, yn eu hadran Technoleg Gwybodaeth.

Ac mewn llai nag wythnos, dw i’n cymryd rhan ym Mlogathon 2006. Nid yn unig ydw i’n cymryd rhan, ond fi yw un o’r cymedrolwyr. Wn i ddim pa flogiau bydd rhaid i mi gymedroli (nid bod rhaid wneud lot o hwnna), ond y tro diwetha i mi wneud y gwaith yma oedd un Cristnogol iawn, ac un pornograffeg. Noson reit ddifyr oedd honno.

Y peth cyntaf i mi wneud yma felly yw gofyn i chi bobl garedig i fy noddi. Bydda i’n blogio i godi arian at Gyfeillion y Ddaear Cymru. Bydd yn wych ’swn i’n gallu codi swm gwerthchweil iddyn nhw.

Diolch yn fowr…

Blogathon 2006

Mae Blogathon 2006 wedi’i lansio! Fel arfer, bydd cannoedd, os na miloedd o flogwyr o bedwar ban y byd yn blogio yn ddi-stop dros eu hoff elusennau, gan ddechrau am 2.00 y prynhawn (amser Cymru) ddydd Sadwrn 29ain o Orffennaf.

Os nag wyt ti wedi clywed o’r Blogathon cyn hyn, byddai’n werth darllen bach o hanes – mae’n stori rhyfeddol.

Eleni, bydda i’n blogio dros Gyfeillion y Ddaear Cymru – allwch chi fy noddi fan hyn, a bydda i’n dy garu dy am byth.

Wel, tan ar ôl y Steddfod, ta beth.

Byddai’n wych gwych gwych o beth ’sai criw o flogwyr Cymraeg yn cofrestru eleni. Dw i efo fy enw i lawr i fod yn gymedrolwr, a byddai’n lot well ’da fi gymedroli blogiau yn fy iaith fy hun. Am wn i, fi yw’r unig un sy wedi wneud y Blogathon yn Gymraeg hyd yn hyn.

Beth amdano?

Cyfieithu’r Blogathon

Bach yn gynnar i sôn am hyn efallai, ond bydd Blogathon ’06 yn digwydd ar y 29ain o Orffennaf eleni, sef wythnos cyn y Steddfod.

Y llynedd, os cofiwch chi, buodd y ‘Thon ar ddydd Sadwrn ola’r Steddfod, sef y diwrnod gwaethaf posibl, ar ran cael blogwyr Cymraeg i gymryd rhan. Fi oedd yr unig un i flogio yn y Gymraeg, ac er i mi gael lot o hwyl, a chodi dros $1000 i Tŷ’r Eos, byddai fe wedi bod yn lot well cael bach mwy o gwmni ar y daith.

Eleni, fel soniais i o’r blaen, mae’r trefnwyr wedi gofyn i mi gyfieithu gwefan y Blogathon. Dechreuais i ar y gwaith hwn y llynedd, ond ar ôl iddyn nhw newid y dyddiad ac oedd yn amlwg taw dim ond fi fyddai ar gael i flogio, doedd dim lot o bwynt cario ymlaen gyda fe.

I wneud yn siwr bod y gwaith yn werth ei wneud eleni, dw i wedi creu addewid PledgeBank. Byddai gwybod bod pobl yn mynd i ddefnyddio’r cyfieithiad yn hwb mawr wrth i fi eistedd i lawr i’r gwaith.

Mae Blogathon yn ffordd wych o godi arian at achos da, ond mae hefyd yn ffordd heb ei ail o godi proffeil dy flog. Mae papurau lleoll wrth eu boddau gyda storiau fel hyn, a pe bai digon ohonon ni yn cymryd rhan yn y Blogathon, yn y Gymraeg, dw i’n siwr y bydd yn ddigon hawdd i gael sylw yn y cyfryngau cenedlaethol.

Beth amdano ‘te?

Blogathoniaid!

Bydd Blogathon bach gwyrdd ar 24 Chwefror. Dim ond nawr dw i wedi clywed amdano, a bydda i bant dros y penwythnos nesa, ond mae syniad neis iawn.

Tra bod ni ar y pwnc, bydd Blogathon 2006 yn digwydd ar 26 29 Gorffennaf eleni, felly fydd e ddim yn clasho gyda’r Steddfod, diolch byth. Dw i wedi cael llith gan Cat Connor, a fydd yn ôl fel trefnydd eleni. Mae Cat wedi gofyn am gyfieithiad llawn o feddalwedd y Blogathon i’r Gymraeg, a dw i wedi cytuno. A oes diddordeb gyda blogwyr eraill helpu gyda’r prosiect?

Dw i ddim wedi postio am hyn ar y maes, gan mod i am gael dim ond blogwyr sy’n debyg i gymryd rhan yn y ‘Thon ei hun, yn hytrach na phob copa walltog sydd â blog unnos.

Beth amdano?

Y Post Ola’

Wel, dyma ni, diwedd Blogathon arall. Diolch yn fawr iawn, iawn, iawn i bawb sy wedi fy noddi. Gobeithio bod rhywbeth yma wedi bod o ddiddordeb. Mi gewch chi ebost gan bobl y Blogathon yn y man sy’n esbonio sut i dalu (oni bai eich bod chi wedi talu yn barod, wrth gwrs).

Mae wedi bod yn dawelach eleni, diolch i’r amseri falle, ond dw i wedi mwynhau.

I’d like to add a special thank you to my Mum, Anne Davies, and to the all rest of the family and friends who have helped raise this money for Nightingale House. I’d also like to thank the wonderful staff at the Hospice for taking such good care of my Dad in his last couple of months, and for being so ready to offer support to the whole family.

I’m sorry I haven’t blogged more bilingually – that was certainly the intention, but I found I was getting bogged down with too much to think about.

Alun will translate everything, I’m sure… ;-)

Nos da…

Cymro Glân, Di-loyw

Wedi cael y cawod dw i wedi bod yn edrych ymlaen ato ers tair awr (anghofiais i droi’r dŵr ymlaen). A dyma ni ar brig yr awr, felly dw i’n mynd i drial postio un cofnod bob hanner awr o hyn ymlaen, a gosod camre i fy hun.

Saith awr i fynd. Dim problem.

Bron Hanner Ffordd Trwyddo…

..ac am y tro cynta ar y Blogathon, dw i’n dechrau poeni am gwympo i gysgu. Newydd fod mas am dro bach, a chyn bo hir caf i gawod. Bydd y coffi ’ma siwr o fod yn helpu. Ond dw i ddim yn cofio teimlo fel hyn yn y Blogathoniaid blaenorol – dyw e ddim hyd yn oed yn hwyr eto.

Dydy treulio wythnos cysgu mewn pabell, ac wedyn mynd i briodas yn nheulu dy bartner ddim y ffordd orau i baratoi am Flogathon.

Diolch Claire ac Angharad, y Mrs Morrisiaid!

Diolch i fy annwyl chwaer, Claire Morris, ac i Angharad Morris a’i theulu, am ddod â’r cyfanswm lan i $986.56, sef dros £550.

Mae Claire yn disgwyl ei babi cynta menw rhyw fis, a dyn ni i gyd yn edrych ymlaen at groesawu cynrychiolwr y genhedlaeth nesa o Dafisiaid (er taw Morris fydd enw’r baban).

Mae Angharad yn hen ffrind o’r teulu, ac mae hi â’i theulu hi wedi byw dros y stryd o fy rhieni i ers 1966. Cymraes Gymraeg ydyw, wrth reswm, ac ym mharti priodas fy chwaer a’i phriod, Derek, fe wnes i siarad Cymraeg ag “Anti Angharad” am y tro cyntaf erioed. Profiad difyr iawn.

Diolch yn fawr iawn i’r ddwy ohonoch chi.

Cwrdd â’r cymdogion

Un o’r pethau dw i wastad yn mwynhau am y Blogathon yw dod ar draws blogiau newydd. Pan ga’ i funud (ddim wedi cael lot sbâr hyd yn hyn) dw i’n hoffi crwydro trwy’r blogiau ar y we-gylch a gweld sut mae’r cymdogion.

Mae pobl drws nesa i gyd yn ddiddorol eleni. I fy chwith mae Diner Bitch, sy’n blogio am ei hatgofion cerddorol, ac ar fy ne, mae Three Moms and a Single Lady, blog ar-y-cyd sy’n blogio am hoff bwnc pawb, rhyw. Maent yn gwahodd cwestiynau, felly paid bod yn swil nawr. (Mae gyda fi gwestiwn, ond dw i’n chwilio am y ffordd orau i’w fynegi.)

Pob lwc i bawb yn y fro!