Hand it Over

Cerdded i’r bws y bore ’ma, y tro cyntaf mae wedi teimlo’n ddigon twym i fod yn wanwyn. Ar y bws, un o’r gyrrwyr gwallgo, sy’n gyrru fel ynfytyn er mwyn cyrraedd Aberteifi â digon o amser i sbario i gael mwgyn bach cyn gyrru nôl i Aberystwyth. Gyda bonws ychwanegol o gael Wunnerful Radio One yn chwarae yn uchel dros y lle i gyd. Rhaid bod yn anghymdeithasol a plygio mewn i’r iPod. A beth sy’n dod lan ar y shyffl ond, wel, Brothers and Sisters, are you ready to testify?

Cyrraedd y dre a digon o amser i ffeindio rhywbeth newydd i’w ddarllen. A’r peth cyntaf i mi weld yn Smiths yw stondin llawn I Am Ozzy, ar bris arbennig o £3.99. Wedi bod yn darllen trwy’r dydd heddi a heno, ac mae’n sgrech o lyfr. Bob stori Sabbath dych chi wedi clywed o’r blaen, ac un neu ddau chi ddim. Newydd gyrraedd rhan dau o’r llyfr, sef Ozzy ar ei ben ei hun, neu’n hytrach, Ozzy dan adain Sharon Arden. Rhywsut, dw i ddim yn meddwl bydd ail hanner y llyfr cymaint o hwyl â’r hanner cyntaf.

Gweld David Edwards amser cinio, sy’n dweud ei fod e wedi priodi! Ddim yn siwr os yw e’n tynnu nghoes neu beidio, yn enwedig pan mae’n mynd ymlaen i ddweud ei fod yn dechrau recordio eto cyn bo hir gyda band newydd, Dave Datblygu a’r IRA Bomb Threat. Dweud hefyd ei fod e’n edrych ymlaen at adeg llawer mwy creadigol iddo fe, nawr bod gennym lywodraeth Tori eto, ac yn joio eironi bod David Cameron i fod yn ffan y Smiths, band a berfformiodd gân â’r teitl Shoplifters of the World Unite.

Ar ôl y dosbarth, ffeindio cwpl o lyfrau ail-law hardboiled mewn siop elusen: Another Little Drink gan Peter Cheyney a Deep Water gan Patricia Highsmith, hen ffefryn ac awdur cyfres anfarwol Tom Ripley.

Ar y bws adre, dechrau gwrando ar hen albyms Sabbath wrth ddarllen llyfr Ozzy, a chyrraedd hanner ffordd trwy Paranoid (dyma fe ar Spotify) erbyn i mi gerdded adre. Am newid, ddim wedi treulio noson gyfan chwarae WoW, ond wedi gwylio cwpl o bennodau’r cyfres Outnumbered gyda Ph, a drama bach yn dodji am y Royal Wedding.

Flower Travellin’ Band

Sa i wedi lanlwytho MP3 ers sbel, ond dw i’n gwybod bydd o leia un darllenwr cyson y blog wrth ei fodd â hyn, sef y cyfar fersiwn Sabbath cyntaf erioed, gan un o fandiau mwya dylanwadol y sîn Siapan yn y 70au cynnar, Flower Travellin’ Band

Flower Travellin’ Band – Black Sabbath (MP3, 12MBish)

Yn ôl Julian Cope, nid ail-fersiwn yw hwn:

For a start, Flower Travellin’ Band do not cover the song “Black Sabbath”. Instead, they let its tyres down and ride it across a ploughed field. They do to it what no British band ever could have done. The 4/4 becomes an ambient metal assault over which Joe sings the lyrics when he himself feels like it, rather than following any of the original’s tension.

Mae’n werth traco lawr yr albym (ar gael o Amazon). Mae ganddo cwpl o “gyfars” gwych eraill – 21st Century Schizoid Man ac, ym, House of the Rising Sun – ac un o gloriau mwya roc a rol yr adeg.

Sabbath dyb

Mae Maff (darllenwr di-Gymraeg y blog di-Saesneg ’ma) yn pwdu gan fy mod i wedi dechrau blogio yn ddwyieithog, ac wedyn stopio. Pwdu cymaint, ei fod e’n bygwthio dechrau ei flog ei hunan, yn lle jyst ebostio fi bob tro mae’n ffeindio rhywbeth doniol ar YouTube.

Ar ei gyfer e, felly, dyma fi ddychwelyd y ffafr, gan roi linc i fersiwn dyb y gân “Black Sabbath” gan y band Black Sabbath, o’r albym Black Sabbath.

Ond mae hyn gan Venetian Snares.