“Anathemata” David Jones

Pethau i’w gwneud, #374 – darllen Anathemata David Jones. Cerdd dw i erioed wedi mynd yn bell trwyddi hi, ond un sy’n talu’r darllenydd yn ôl am yr ymdrech angenrheidiol.

Yn ôl Anne Carson Daly yn Poetry Wales mae’r gerdd yn llawn haeddu lle yn gwmni clasuron moderniaeth megis gweithiau James Joyce, T.S.Eliot ac Ezra Pound.

Adolygwyd y gerdd gan W.H.Auden yn rhifyn cyntaf New York Review of Books yn 1963.

Rhywbeth i wneud trwy’r gaeaf hirlwm sydd o’n blaen.

R.S. Thomas a Chymreictod

R.S. Thomas and the Problem of Welsh Identity – dim ond un o gasgliad mawr o traethodau beiriniadol, yn Saesneg, gan yr Americanwr Jeffery Triggs. Llawer yna i gnoi’r cil drosto, gan gynnwys dyfyniadau o Portrait of an Artist James Joyce:

The language in which we are speaking is his before it is mine. How different are the words home, Christ, ale, master, on his lips and on mine! I cannot speak or write these words without unrest of spirit. His language, so familiar and so foreign, will always be for me an acquired speech. I have not made or accepted its words. My voice holds them at bay. My soul frets in the shadow of his language.

Hatfield, Throbbing Gristle a’r Talwrn

Ro’n i am flogio am hyn ddoe, ond tynnwyd fy sylw gan ffycwit*. Ces i noson dda iawn yn Llambed nos Lun. Tra oedd Philippa yn gwylio’r cadeirio yn y Steddfod, es i i siop Hag i fodio trwy’r hen feinyl yn y gobaith o lenwi’r unig dwll sydd ar ôl yn fy nghasgliad Van der Graff Generator. Dim lwc ’na, ond mi ffeindiais i CD gan Hatfield and the North, un o’r bandiau prog “clasurol” o Loegr dw i heb glywed tan nawr – mae hyn yn mynd i fod yn ffefryn – ac hefyd cwpl o bethau gan Throbbing Gristle. Mae TG yn un o’r bandiau ’na mae dyn yn clywed amdanyn nhw, yn gwybod eu bod nhw’n “ddylanwadol”, ond yn ofni bod hynny yn lledneisair am “anwrandawadwy”, os ydy hynny’n air. Mae un albym ’da fi ganddyn nhw ar feinyl, hanner can ceniog o sêl cist ceir, ond mae hynny yn boenus ar y clustiau. Felly, cymerwyd siawns, a phrynu 20 Jazz Funk Greats, sydd â chlawr arbennig. Record gwych hefyd, a lot mwy o laffs na Psychic TV.

Safle swyddogol TG. TG ar Wikipedia. Undefined (gweffan).

Ar ôl hyn, i’r Llew Du â fi, a chael peint gydag aelod o dîm talwrn Gwesty Emlyn**, cyn mynd i’r talwrn ei hun. Llawer o hwyl, fel arfer, ac unwaith eto dw i’n cael fy nharo gan y cyfoethogrwydd anhygoel yn y diwylliant ’ma. Llai na hanner cant yn y cynulleidfa, a ni yw’r unig bobl a fydd yn clywed y rhan fwya o’r cerddi cafodd eu darllen ar y noson.

Mae rhywbeth yn digwydd ’ma, a ti ddim yn gwybod beth yw e, wyt ti, Mr Jones?

Llongyfarchiadau i’r dau dîm a ddaeth i’r brig, sef y Gler a’r tîm o Gaerfyrddin (ddim yn cofio eu henw go iawn, sori).

Pa dîm talwrn fydd yr un cynta i gael gwefan eu hunain, tybed?

* gyda llaw, mae dim ond un canlyniad am y gair ffycwit ar Google ar hyn o bryd. Dw i’n Google.

** (Gol. 6/1/06 Hoffai Emyr Oernant i mi bwysleisio taw nid aelod Tîm Tanygroes oedd hwn, ond un o dîm Crannog. Os dw i’n cofio’n iawn, mi oedd aelodau’r ddau d&icric;m yn cystadlu fel un Uwch Dîm ar y noson honno, ond mae’n bosibl, debyg hyd yn oed, fy mod i’n camgofio’r manylion.

Ar nodyn arall: mae Emyr Oernant yn darllen Morfablog! Mae hynny yn wneud lan am Dogfael yn cael ei ddisgrifio fel “blog gorau yn y Gymraeg” yn Barn pwy wythnos.)

Bobi Jones

Cyfweliad â Bobi Jones, yn Saesneg gan y bardd Robert Minhinnick. Mae’r holl beth yn werth ei ddarllen, ond dyma ddau baragraff am y profiad o ddysgu Cymraeg:

I sometimes think that the full blast of simply regaining and restoring the language is as valuable and as inspiring as the language itself. First language Welsh people miss a lot, despite their many advantages. The full discovery can be breathtaking.

Getting hold of the language itself, now that in itself is a positive transforming task. Our own just heritage opens out, the country itself becomes more complete, old suppressed wounds are healed, new wonders and relationships are uncovered, and a more sensitive comprehension of internationalism in a more complete and enriching world is opened up. Apart from gaining a unique and vitally creative culture, learning the language is an honour and a revelation, particularly when done in its full context and taught in a well-graded course (not presented on the basis of ‘functional’ fads or show-biz patterns), but founded in a well-disciplined manner within the necessary sequential structures of the language. The language is a great world for everyone. Its essence and existence explain so much.

Llawer mwy o stwff diddorol yn y rhifyn arbennig Cymreig o’r cylchgrawn Transciprt.

[Diolch, Nwdls.]

Fin nos, Fan hyn

Bron wedi bennu fy nhraethawd ar Gerallt Lloyd Owen. Dyw i ddim yn hapus gyda fe, ond ‘sdim amser ’da fi i ail-ddechrau. Fel hyn o’n i’r tro cynta nes i gwrs coleg. Popeth yn funud ola, ddim digon o ddarllen cefndir, traethodau nid cweit mor dda â gallen nhw fod. Och.

Wrth edrych trwy rhestr ail-gyfeiriadau y weflog, mae’n debyg nid fi yw’r person ola i bennu ei draethawd. (Tip i’r person oedd yn chwilio am “Gerallt Lloyd Owen – Ei Bywyd”: mae treiglad meddal ar ôl ‘ei’. Croeso. A phob lwc.)

Neithiwr

Neithiwr, ces i e-bost oddi wrth y ferch dlysaf yn yr ysgol; dwedodd hi I wish I was you. Doedd dim syniad ’da fi am beth oedd hi’n sôn.

Neithiwr, yfais hanner potel o Jack Daniels a threuliais chwech awr gan chwarae NetHack, gêm Dungeons & Dragons o Oesoedd Tywyll y rhyngrwyd. Yn fuan, bydda i’n dri deg pump oed.

Es i’r gwely, ac yn oriau man y bore darllenais i:

The world is charged with the grandeur of God.
It will flame out, like shining from shook foil;
It gathers to a greatness, like the ooze of oil
Crushed. Why do men then now not reck his rod?
Generations have trod, have trod, have trod;
And all is seared with trade; bleared, smeared with toil;
And wears man’s smudge and shares man’s smell: the soil
Is bare now, nor can foot feel, being shod.

And for all this, nature is never spent;
There lives the dearest freshness deep down things;
And though the last lights off the black West went
Oh, morning, at the brown brink eastward, springs —
Because the Holy Ghost over the bent
World broods with warm breast and with ah! bright wings.
Gerald Manley Hopkins

Mae fy llygaid yn sych, bleared, smeared gan y sgrîn anobeithiol bach ’ma. Rhaid gweithio yn yr ardd y bore ’ma.

Fin nos…

Ar fy ffordd yn ôl o’r Llong, gyda llond bola o Flodeuwedd, fe ddysgais fy ngherdd Cymraeg cyntaf o’r cof, ‘Cilmeri’ (o Gerddi’r Cylwilydd) gan Gerallt Lloyd Owen. Ie, yr un sy’n dechrau Fin nos, fan hyn, Lladwyd Llewelyn. Byth nid anghofiaf hyn.

Erbyn i mi gyrraedd top bryn Morfa, oedd pob gair gyda fi ac o’n i mor hwylus a’r brân goesgoch, screchian y geiriau trwy’r coed. Byth nid anghofiaf hyn.

Ypdêt (Awst 2002): dw i wedi ei hanghofio.

Gwyn ap Nudd

Wrth darllen Cyflwyno’r Iaith Lenyddol, fe ddes i ar draws y gerdd hon:

Gwyn ap Nudd

Gwyn ap Nudd, Gwyn ap Nudd,
Lliw y lloer sydd ar dy rudd;
Cerddi’n ddistaw fel y nos
Drwy y pant a thros y rhos;
Heibio i’r grug a’r blodau brith
Ei, heb siglo’r dafnau gwlith:
Gwyddost lle mae’r llyffant melyn
Yn lletya rhwng y rhedyn;
Gwyddost lle daw’r gwenyn dawnus
I grynhoi eu golud melys:
Gweli’r hedydd ar ei nyth,
Ond ni sethri’r bargod byth;
Gwyn ap Nudd, Gwyn ap Nudd,
A lliw y lleuad ar dy rudd.

Elfed

Hyfryd iawn, a dealladwy hyd yn oed i fi (mae ’na obaith, ’te!). Ond, jyst i ddangos pa mor anwybyddus ydw i, doedd dim syniad ’da fi pwy oedd ‘Gwyn ap Nudd’. Wel, rwy’n gwybod nawr.

Byd y Beirdd a’r toeau bach colledig

Byd y Beirdd – ffynnon wych (gwell i mi beidio sôn am gynllun y wefan) am farddoniaeth i blant, gan gynnwys pawb o Taliesin i Dewi Pws.

Un nodyn bach am y cynllun, achos mae wedi fy ngwylltio: mae’r holl safle yn defnyddio’r ffont Afallon, sy’n cynnwys ‘w’ a ‘y’ gyda hirnod. Ond, os dych chi ddim wedi gwario mwy na £20 am y ffont arbennig hon, mae bob ‘w’ gyda hirnod yn edrych fel hyn:

Daear las yw d�r ei lyn

Ac yn y blaen. Grrr.

Y neges yw: peidiwch â defnyddio ffontiau arbennig ar eich gwefannau – dyn nhw ddim yn gweithio.