Creu Lle ar y We i’r Iaith

(“Dwi’n gwneud addewid i greu un peth bach ar-lein yn y Gymraeg ddydd Gwener 3 Medi 2010″)

Gwadwn y byd digidol
yn ein hiaith llawn-edrych-nôl.
Iaith ar y gwynt, iaith ar gof,
iaith ddi-reg, iaith yr ogof,
iaith ddiwerth ei hawen
yw’n hiaith os cedwir hi’n hen.

Ond “Na!” yw’n datganiad ni
heddiw; ymrown i’w noddi
oblegid y mae blogwyr
a mil sy’n dân yn y mur,
bloedd cannoedd yn bywiocáu,
yn trydar mewn catrawdau.
Rhaid i’r hen iaith frwydro’n ôl –
Y Gad yw’r byd digidol!

Osian Rhys Jones

Helo i Júda

Diolch i Júda adael sylw ar y cofnod isod, dw i wedi darganfod ei flog, Digital Words. Ieithydd yng Nghaersalem yw Júda, gyda diddordeb mewn ieithoedd Celtaidd, ymysg eraill. Mae’r rhan helaeth o’i flog wedi’i sgwennu yn Hebraeg, ond gyda chymorth ein cyfaill Google, dw i’n gallu cael y gist. (Drueni bod y cyfieithydd yn gweithio cymaint yn well o Hebraeg i’r Saesneg, yn hytrach nag i’r Gymraeg, ond dyna fe.)

Ond ffeindiais i un cofnod Saesneg, ambwytu’r Gymraeg ac iaith elfaidd Tolkien, Sindarin: Dull Tengwar Cymraeg, ac wedi pori’n bellach, copi o’i bapur (yn Saesneg eto) ar agweddau cyfieithu Harri Potter i’r Gymraeg.

Hefyd, newydd ddod ar draws y papur Between Narrative and Dialogue: Syntactical Features of Signalling Speech in Narrative in Modern Welsh, sy’n edrych yn ddifyr ond bydd rhaid i fi ei ddarllen fory, os bydd amser.

Talwrn y Beirdd yn Hermon nos fory, gyda Tîm Tanygroes yn erbyn Crannog, a’r Cŵps yn erbyn Glannau Teifi.

Tamaid i aros pryd, gan fy hoff fardd yn y byd mawr crwn:

Cegin
Rwy’n disgwyl, mewn gwael hwyliau – i gogydd
y gegin dymhorau
agor y ddôr i ryddhau
aer ei wanwyn i’m ffroenau.

Hugh MacDiarmid

Mae hi bron â bod pum mlynedd ers i ni sôn am Hugh MacDiarmid fan hyn, a siwr o fod bron cyhyd ers i mi dynnu ei lyfrau o’r silff “llyfrau i’w darllen yn iawn rhywbryd”, ond dw i wedi dod ar draws casgliad recordiadau MacDiarmid yn archif Prifysgol Pennsylvania. Mae gwrando ar y detholiad bach o’i gerdd “The Kind of Poetry I Want” yn ddigon i’m hala yn ôl at y silff. Dyw safon y recordiad ddim yn uchel iawn, ond mae ganddyn nhw hefyd recordiad gwych o MacDiamid yn darllen “A Drunk Man Looks at the Thistle”.

Dyna’r prynhawn wedi’i sorto ‘te.

Y Clasuron Limerigaidd

Cerddi enwog fel limerigau, sy’n cynnwys:

Do Not Go Gentle Into That Good Night

There was an old father of Dylan
Who was seriously, mortally illin’
“I want,” Dylan said
“You to bitch till you’re dead.
“I’ll be cheesed if you kick it while chillin’.”

Hefyd – The Wasteland Limerics gan Wendy Cope.

Hefyd, dim byd i wneud â limerigau na dim byd, a dim hyd yn oed yn dymhorol, ond…

Nine Inch Noëls. Ddim yn ddoniol oni bai dy fod di’n gyfarwydd â gwaith Trent Reznor. A Peter, Paul and Mary, sbo.

Vanitas a geiriau newydd eraill

Doedd e ddim yn cymryd lot i dorri addewid Blwyddyn Newydd eleni; am 1 o’r gloch neithiwr wnes i ddileu tudalen blaen Morfablog, ynghyd â’m proffeil Facebook. Nawr bod Hedd wedi cymryd drosodd yn swyddogol fel Mistar y Maes, o’n i’n teimlo fel cymryd hoe bach o fyw cymaint o’m bywyd ar lein. Ond y peth cyntaf dw i’n gweld wrth ymweld ag un o fy hoff flogiau y bore ’ma yw’r gerdd ’ma, sy’n fy hala fi off i dir neb y rhyngweoedd.

born with a fall into the collective
grammar hammered deep into the hypothalamus
every I a we that was dreaming
venus-anus-vanitas
mine is the outcast
the culled cattle that bellows
beneath the bloated moon
that pulses in the candied peel of barren suns
my day has no place no year
& every we just an I

[..]

Anna Hoffmann

Does dim byd fel gair newydd i aildanio fflam, fel soniodd James Meek yn y Guardian pwy wythnos.

Vanitas Still Life - Jan Jansz Treck, 1648.

Englyn i Frecwast

Dyma oedd yn aros amdana i ar fwrdd y gegin y bore ’ma:

      Cerdd Dant
Ni’n hunwyd yn un hunan: dwy alaw
    Sydd yn dal eu hanian
  Ac, o’u hasio drwy gusan,
  Ein dwy gainc sy’n gwneud y gân.

Philippa Gibson

Gwydr

Sôn am y bardd lawr stâr, dyma soned o’i heiddo na chafodd ei defnyddio yn ymryson Steddfod Llambed noson o’r blaen. Dw i’n hoff iawn ohoni.

Gwydr

Mor agos at ei fam fu’i chyw erioed
A theimlent fel dau enaid hoff cytûn:
Pan brifiai’r crwt a phrysur ddod i oed
Yr un mor agos oeddent, fam a dyn.

Pan ddaeth yn bryd, hedfanai’n bell o’r nyth
Ond dôi yn ôl heb newid dim o’i gân;
Er hyn, fe welai’r fam y gwydr yn syth
A’r sglein fu rhyngddi hi a’i chyw rhy lân.

Ni fynnai guddio’i chalon a’i dyheu
Am gael y gwir yn lle rhyw eiriau gau:
Fe fynnai dorri’r gwydr a’i lwyr ddileu
Gan guro’i ‘denydd ar y cwarel brau.

Pan dorrai’r gwydr, heb sglein y gwelai’i chyw
Ond llarpiai’r teilchion g’lonnau’r ddau i’r byw.

Philippa Gibson

Maes-e yw dyfodol yr iaith?

Pennill mawl/dychan (y cyntaf, gobeithio) gan Rhys Iorwerth Owain Rhys, ni chafodd ei darlledu ar y Talwrn.

Cymraeg y Cyfryngau

Mae iaith Radio Cymru wedi mynd yn hen ffash,
Ac S4C sy’n siarad iaith ‘cash’,
Ond fe glywir iaith ifanc, iaith cornel y stryd,
Iaith sydd yn gynnil neu’n swagro i gyd,
Iaith eisteddfodol neu iaith dynnu coes,
Iaith sy’n esblygu, datblygu â’r oes
Ar edefyn fach denau mewn cornel o’r we -
Dyfodol yr iaith sy’n fyw ar Maes-E.

Owain Rhys

Diolch i Owain, ac i’r bardd lawr stâr am dynnu fy sylw ato.

Gol. Ces i enw’r bardd anghywir. Gweler y sylwadau.

The Nude Paper Sermon

Des i ar draws MP3 o record rhyfeddol o waith Eric Salzman pwyddiwrnod yn y Closet of Curiosities:

Billed as tropes for actor, renaissance consort, chorus, and electronics, The Nude Paper Sermon is a conceptual audio theatre piece commissioned by Nonesuch Records in 1968. It features Stacy Keach, an actor known mainly by his starring role as Mike Hammer in the TV series of the same name. The piece revolves around texts from John Ashbery‘s “Three Madrigals” and “The Nude Paper Sermon” written by Steven Wade.

Dw i’n methu ffeindio dim byd am Steven Wade, a does dim sôn amdano yn y cyfweliad yma gyda merch Eric Salzman, er ei bod hi’n sôn am Keach a Ashbery.

Ton a gwymon ar y gwynt

Cawson ni benwythnos yng Nghricieth er mwyn mynychu Gŷyl Gynghaneddu 2006. Fel arfer, dw i wedi dod yn ôl gyda fy mhen llawn barddoniaeth, a’r bwriad o ddarllen dim byd ond cerdd dafod nes bod yr hen fesurau yn chwysu o bob croendwll sy gyda fi.

Gan ddamwain, ffeindiais i fy hun mewn tîm Talwrn ar y nos Wener; tîm a oedd yn brin o aelodau presennol oedd eisiau rhywun i ddarllen un englyn. Sôn am deimlo fel ffugiwr.

Sawl uchafbwynt i’r penwythnos. Y Talwrn ei hun, ond rhaid cyfadde mwynheuais i’r un do’n i ddim yn “rhan” ohono fe yn fwy. Gwylio Guto Dafydd lunio englyn mewn rhyw ddau funud o’n blaen ni. Darlith Tony Conran, sy’n arwr i mi ers cyn i mi ddysgu’r iaith, ac un o’r ffyrdd mewn i’r iaith i mi yn y dyddiau cynnar. Y sesiwn Cawl o Gân, gyda rhyw 15 o feirdd, y rhan fwya o’r “to ifanc”. Clywed Gwynfor ab Ifor darllen ei awdl – un o’r profiadau cryda dw i wedi cael o wrando ar fardd darllen ei waith ei hun, ac un sy edi trawsnewid y gerdd ei hun i fi. Philippa yn ennill gwobr Englyn y Dydd ddoe. Y tywydd bendigedig ddoe, cerdded mewn cylch o gwmpas Cricieth mewn heulwen ddisglair. Gwrando ar In Parenthesis ar y ffordd yn ôl.

Penwythnos gwych iawn; mil o ddiolch i’r rhai sy’n ei drefnu ac i bob un sy’n cymryd rhan mewn pethau felly. Dw i’n gwybod pa mor ystrydebol yw e i ddweud pethau fel hyn, ond oedd wir yn fraint cael bod rhan o’r digwyddiadau yma.

Mewn Cromfachau

Un o’r pethau sy wedi fy helpu penderfynnu i dynnu fy mhen o dywod Tanaris oedd clywed tipyn bach o’r cynhyrchiad newydd gan BBC Radio 3 o waith arloesol David Jones, In Parenthesis. Buodd hyn ar y radio neithiwr, ond collais i fe – dyfalwch beth o’n i’n neud – felly mae gyda fi nawr ar yr iPod.

Rhy flinedig i feddwl am ddim byd arall. Wna i adael i eiriau Jones fynd â i’r byd arall arall, yr un sy ddim yn fy lladd.

Y pwysigwrydd o gael crap da

Noson yng nghwmni y pum bardd ifanc sy’n gyfrifol am y cyfrol Crap ar Farddoni, yng Nghaffi’r Emlyn, Tanygroes. Prin iawn oedd y cynulleidfa, yn anffodus, ond doedd dim prinder o hwyl ar y beirdd, na’r pibydd o Wyddel, Thomas (cyfenw?), na’r parti o aelodau Côr Ger y Lli, Aberystwyth.

Noson hollol wych, sy wedi ail-lenwi fy matris mewn sawl ffordd.

Beirdd Da, Achos Da, Breuddwyd Da

Noson fendigedig yn y Llew Du, Aberteifi heno, yng nghwmni tri thîm o feirdd, sef Tanygroes, Crannog, a’r Glêr, yn ymrysona, a bois y Taeogion yn cadw trefn arnyn nhw. Nosweithiau felly sy’n fy nhynnu fi yn ôl i’r breuddwyd o fod yn Gymro, gan taw breuddwyd yw hynny o hyd, mewn ffordd.

Dydy hynny ddim yn wneud llawer iawn o sens. Dw i am chwarae poker.