Stopia!

Un o fanteision y storom bach dros yr arwydd yn Abertawe yw fy mod i’n dod ar draws blogiau dw i heb eu gweld o’r blaen, fel Glossographia, blog gan ieithydd anthropolegol o Detroit. Neu efallai anthropolegydd ieithyddol yw e, pwy a wyr?

P’un bynnag, dyw e ddim yn syndod bod ei sylwadau e ar yr autoreply trafferthus ymsyg y pethau mwya call dw i wedi darllen yn Saesneg am y sefyllfa yng Nghymru.

Dim syndod chwaeth, i weld bod yr awdur yn arfer byw yng Nghwebec, ac wedi cyflwyno papur trafod yn diweddar ar y sefyllfa ynglŷn ag arwyddion ffordd uniaith Ffrangeg a dwyieithog yn y wlad honno, yn enwedig yr arwyddion Arrêt. Diddorol cymharu y sefyllfa yna a beth sy gyda ni yma yng Nghymru erbyn hyn.

Finally, important public/private tensions in Montreal’s language ideology are evident in stop signs due to the widespread practice of vandalism. Despite the prevalence of public French on stop signs, the vast majority of linguistically-identifiable vandalism is in English. Moreover, stop signs, as highly visible aspects of the city’s public material culture, are frequently vandalized in ways that reflect dissatisfaction with official language ideologies, and can thus highlight ongoing tensions.

Difyr, n’est-ce pas?

Arwyddion Gwael

Amser maith yn ôl, oedd rhyw sôn rhywle am greu Amgueddfa Ar-Lein Arwyddion ‘Cymraeg’, h.y. lluniau o arwyddion heol, neu arwyddion masnachu neu, hyd yn oed, arwyddion Eisteddfodol sy wedi cam-sillafu. Am wn i, ni ymddangosodd y fath peth felly fe af i ati i’w greu. Oes engreifftiau ’da chi? Cysylltwch â fi, os felly.

Diolch i Harry Campbell am y ddau ola, uchod.