Blogi ogi ogi

Dim ond dympio dolenni:

Canfod tywod, claddu pen

(So ni wedi cael rant anghysylltiol ers sbel, na dyn?)

Tony Blair yn cefnogi Ryanair (mwy na lai).

Days after his environment minister branded Ryanair the “irresponsible face of capitalism” for opposing an EU carbon emissions scheme, the prime minister says it is impractical to expect people to make personal sacrifices by taking holidays closer to home.

Beth oedd y busnes ’na am fod on message, Tone?

Wnes i ddihuno y bore ’ma gyda syniad am sut all y cwmniau hedfan gwerthu eu hediadau yn fwy gonest: tocynnau tranc rhywogaeth! (Angen enw gwell, efallai.)

Mae’n gweithio fel hyn: bob tro ti’n hedfan rhywle – a fydd dim cymalau gwantan am ba mor “anghenrheidiol” yw’r hediad – cei di seren fach mewn llyfr, gyda mwy o sêr am fwy o filltiroedd. Fatha Green Shield Stamps, i’n darllenwyr hŷn. Wrth i chi lenwi’r llyfr, bydd yn dangos faint o anifeiliaid sy wedi marw fel canlyniad o’r codiad mewn lefelau’r môr trwy’r byd. Ar y dechrau byddwn ni’n siarad am unigolion, wrth gwrs; lemur neu ddau ym Madagasgar, teigrod yn India, ac yn y blaen. Ond os oes digon o ddyfalparhâd ’da ti, wnei di gyrraedd adran y llyfr sy’n dechrau sôn am rhywogaethau cyfan – dychmygwch fod y person cyntaf ti’n nabod i ennill bathodyn polar bear extinction!

Bydd llyfr arbennig i Tonyblairiaid y byd, pobl sy’n gallu wneud rhywbeth gyda’r pwer sy gyda nhw i newid y dyfodol, ond sy’n dewis opsiwn yr estrys. Cân nhw lyfrau gyda lluniau pobl ynddynt. Pobl Bangladesh, lle mae miliwn o bobl yn colli eu cartrefi bob blwyddyn fel canlyniad codiad yn lefel y môr. Pobl de dwyrain yr UDA, lle mae Katrina wedi dod i fyw. A, chyn bo hir, pobl Prydain.

Ti’n poeni am y mewnlifiad o Saeson i Gymru? Aros nes bod pobl de dwyrain Lloegr – a de ddwyrain Cymru, am hynny – yn dechrau gofyn “pa mor uchel yw’r tir?” yn hytrach na “pha mor isel yw’r pris?”

Nôl yn y byd

Mae wedi bod bron yn dair wythnos ers i mi bostio yma, sydd, efallai, rhyw record i mi. Mae rheswm da, wrth gwrs. Wythnos diwetha buon ni’n cerdded Clawdd Offa. Yr wythnos cyn hynny, buon ni yn Aberhonddu, cadw cwmni i Joss a cherdded ym Mannau Brycheiniog. Yr wythnos cyn hynny, sy’n teimlo yn llawer mwy na pythefnos yn ôl, buodd y ddau ohonom yn dysgu ar gwrs Ysgol Haf Llambed, lle oedd mwyafswm o 26 o ddysgwyr yn dy nosbarth i. Ffordd braf iawn i bennu fy “ngyrfa” fel tiwtor Cymraeg.

Ie.

Yfory dw i’n dechrau swydd newydd sbon, gydag Urdd Gobaith Cymru, yn eu hadran Technoleg Gwybodaeth.

Ac mewn llai nag wythnos, dw i’n cymryd rhan ym Mlogathon 2006. Nid yn unig ydw i’n cymryd rhan, ond fi yw un o’r cymedrolwyr. Wn i ddim pa flogiau bydd rhaid i mi gymedroli (nid bod rhaid wneud lot o hwnna), ond y tro diwetha i mi wneud y gwaith yma oedd un Cristnogol iawn, ac un pornograffeg. Noson reit ddifyr oedd honno.

Y peth cyntaf i mi wneud yma felly yw gofyn i chi bobl garedig i fy noddi. Bydda i’n blogio i godi arian at Gyfeillion y Ddaear Cymru. Bydd yn wych ’swn i’n gallu codi swm gwerthchweil iddyn nhw.

Diolch yn fowr…

Fideo du Jour

Wedi bod yn chwarae gyda Democracy, teclyn teledu-ar-y-rhyngrwyd, yr wythnos ’ma, sy’n ffordd (arall) wych o wastraffu amser pan dw i fod i wneud pethau eraill. Dw i ddim yn siwr os yw hyn yn well nag iTunes, sydd erbyn hyn yn cynnig podlediadau fideo hefyd – prif mantais falle yw bod Democracy yn cynnwys pethau bach gwirion sy ddim yn dod dan y disgrifiad “blog fideo”. Pethau fel:

Hefyd, cei di fideos cerddorol (BitTorrents yw’r rhain, ond mae Democracy yn eu handlo nhw heb angen meddalwedd newydd – do’n i ddim hyd yn oed wedi sylweddoli taw BT o’n nhw tan nawr):

Ac wrth gwrs, mae unrhywbeth sy’n dod â Morwynion Ffrengig i fy iMac yn werth arbrofi gyda fe am wythnos neu ddwy.


[Gol.] Diolch i Rhys am y ddolen i Treehugger TV, tanysgrifiad newydd i fi.

GarbageScout.com

(Wedi bod yn dawel fan hyn. Gormod o Poker, dim digon o flogio. Gobeithio pigo pethau lan tamad bach…)

Defnydd da o GoogleMaps #31,549: GarbageScout.com. Syniad syml iawn: ti’n gweld rhywbeth mae rhywun arall yn twlu ma’s, rhywbeth ti ddim eisiau dy hunan ond bydd rhywun yn gallu defnyddio fe; tynnu llun ar dy ffôn lôn; ebostio’r llun at GarbageScout; mae’r eitem yn ymddangos ar y map.

Yn anffodus, dim ond yn Effrog Newydd mae hyn yn gweithio, ond byddai rhywbeth fel hyn yn ddefnyddiol mewn unrhyw ardal.

Da, ‘de?

[Reusablog]

Wendell Berry, howies a’r Gymraeg

Am grys-T hyfred! Wendell Berry yw un o’m hoff awduron, ac howies yw fy hoff gwmni dillad masnach deg, felly rhaid oedd cael un o’r rhain – er bod rhaid i mi aros iddyn nhw gyrraedd adran sêl y wefan, hefyd.

Yr unig peth sy’n fy moddran i am howies, a dw i’n credu mod i wedi dweud hyn o’r blaen, yw’r ffaith iddyn nhw anwybyddu’n llwyr eu bod nhw’n gweithio mewn ardal Gymraeg. Dim gair o’r Gymraeg yn eu catalog. Dim un crys gyda slogan Cymraeg; mae ganddyn nhw un Ffrangeg wedi’r cwbwl, felly beth yw’r broblem? Mae eu catalog yn llawn enghreifftiau o ba mor feddylgar a right on ydyn nhw am bopeth arall, pam felly anwybyddu iaith frodorol Aberteifi?

Tybed fyddai’r iaith frodorol yn fwy deniadol ’sai fe’n cael ei siarad gan frodorion mwy, ymm, masnachadwy?

Mae howies yn wneud cymaint o bethau iawn – masnach teg, defnyddio deunydd organig, annog pobl i beidio defnyddio cardiau credyd (ie, wir) – mae’n drueni eu bod nhw’n colli’r cyfle yma i adlewyrchu diwylliant yr ardal maen nhw wedi sefydlu ynddi.

Dewch ymlaen howies: what would Wendell do?