Mae gwefan Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi’i hymestyn yn diweddar, gan roi rhagor o’u casgliadau ar lein, a chan ddefynddio bob math o elfennau Gwe 2.0 yn y rhyngwyneb. Dim lot o orielau ar lein eto, ond mi ddaw.
Mae’r staff wedi dechrau blogio, a darganfod faint o hwyl yw e sgwennu blogiad ac wedyn ei golli:
Mae’r cofnod yma’n mynd i fod yn fyr. Roeddwn newydd orffen fersiwn estynedig o’r mis diwethaf, yn Gymraeg ac yn Saesneg – fe wasgais ‘Arbed’, ac mi ddiflannodd y cwbl.
Wedi bod ’na, wedi prynu’r crys-t. Cofnod hir = cyfansoddi mewn golygydd testun.
Hmm. Dyw e ddim yn bosibl gadael sylw ar y blog, o leia o Safari. Ydy e’n gweithio gyda phorwyr eraill tybed?