Albym y Dydd #5 – Magma – K.A.

Clawr K.A.Ahh, Magma. Ble i ddechrau gyda’r band hwn? Wel, maen nhw’n dod o Ffrainc, sy ddim yn ddechreuad da fel arfer (sori, Sophie). Yn ail, maen nhw’n canu mewn iaith wneud o’r enw Kobaïan sy’n dod o blaned arall ac sydd â mwy o ümläüts na wardrôb Lemmy. Mae bob trac o leia chwarter awr o hyd, llawn llafarganu hysterig sy’n adeiladu at uchafbwyntiau mwyaf intense dw i wedi clywed erioed.

Ac mae Steve Davis yn eu caru.

Dim ond yn y ddwy flynedd diwetha ’ma dw i wedi bod yn gwrando ar Magma, ac mae rhaid cyfadde mod i ddim yn ddigon hardcore i eistedd trwy mwy nag un o’u halbyms ar y tro, ond dw i newydd gael gafael yn eu CD comeback Köhntarkösz Anteria o 2002, ac mae’n hollol, hollol wych. Steil Magma clasurol (ar ôl 20 mlynedd yn anialwch jazz i arweinydd y band, Christian Vander) ond am y tro cyntaf, gyda cynhyrchiad sy ddim yn cuddio un o gryfderau mwya’r band, drymio Vander ei hun, dan mwd Kobaïaidd. Cerddoriaeth grefyddol, gyda’r fantais o wybod ei bod yn sôn am fyd ffantasi.

Wna i ddim postio sampleri o hyn, dim ond tri trac hir sydd, ond cewch chi flas ar eu tudalen MySpace neu ar y Magma Web Radio.

Adolygiadau Ground and Sky a Pitchfork. Erthygl a chyfweliad “byd Magma” ar Perfect Sound Forever.

Magma yn y 1970au cynnar

Magma. Allëhlüïa!

Albym y Dydd #4 – Ougenweide – Ousflug

Clawr OusflogNewydd ddod ar draws Ougenweide gan Ousflug, band prog-gwerinaidd o’r Almaen. Recordiwyd yr albym yn 1979, ond allai fe ddod o unrhyw flwyddyn nôl i ’68. Mae’r offer i gyd yn draddodiadol, gyda’r prif tonau yn cael eu cario gan naill ai’r ffliwt/pibgorn neu (yn anarferol, braidd) y glockenspiel a’r seiloffon. Mae’r geiriau i gyd yn Almaeneg.

Os fuoch chi yn y Dyn Gwyrdd y llynedd ac yn ddigon ffodus i weld Circulus a’u mwynhau, mi fyddi di wrth dy fodd gyda hwn.

Dyma un trac – mae’r holl albym (wedi’i rwygo o’r feinyl) ar gael ar flog Kraut-team:

Ousflog – Basse Danse La Gatta

O.N. Mi o’n nhw’n band pert iawn, hefyd.

Albym[s] y Dydd #3 – prog 1973

Tipyn o waith i’w wneud ar y cyfrifiadur heddi, felly edrych am rywbeth alla i chwarae yn y cefndir, sy ddim yn debyg i dynnu fy sylw gormod. Mae gen i lot fawr o albyms prog Ewropiaidd, yn enwedig o’r Eidal a’r Almaen, sy ddim wedi cael chwarae teg gen i hyd yn oed, felly dyma fi droi at rhai o reiny. Wedi creu rhestr chwarae o bob record prog o 1973 sy ’da fi, gawn ni weld faint ohonyn nhw dw i’n mynd trwyddo heddi. Bosib bydd y cofnod yma yn tyfu trwy’r dydd. Bosib hefyd y bydda i wedi cael llond bol o gopiwyr Genesis a Gentle Giant erbyn amser cinio.

Yr un cyntaf yw enghraifft clasurol o’r syndrom yna: albym cyntaf gan Acqua Fragile, progwyr o’r Eidal. Mae dylanwad Genesis mor drwm ar y band fyddai rhywun sy ddim yn gyfarwydd iawn â dyddiau cynnar Gabriel a’i griw yn meddwl taw nhw oedd hyn ar y gwrandawiad cyntaf. Dim byd yn bod ar hynny, dw i’n hoffi Genesis cymaint â’r hipi nesa, ond unwaith ti’n dechrau gwrando bach yn fwy gofalus, ti’n clywed band sy ddim yn canu yn eu hiaith gyntaf, ac sy heb lawer o syniadau gwreiddiol. Rhannau bach chwaraeus Gentle Giant-aidd, llafurganu Jon Anderson-aidd. Mae’n ddigon dymunol, ond dim byd doedd bandiau Lloegr ddim wedi’iu wneud yn 1971.

Hanes Acqua Fragile.

[Gol.] Mae’n dechrau tyfu arna i. Falla hwn bydd Albym y Dydd, wedi’r cwbl.

Albym y Dydd #2 – Jon Poole – What’s the Ugliest Part Of Your Body? [1994]

Gweithiodd yr arbrofiad o gadw at un albym trwy’r dydd yn well nag o’n i’n disgwyl, felly dw i am gario ymlaen, gan ychwanegu un albym ar y tro i’r iPod.

Daeth dau CD yn y post, un yn ddetholiad o draciau gan Cardiacs a fydd yn Albym y Dydd yn y dyfodol agos, a’r llall gan Jon Poole, cyn-gitarydd i’r un band.

Yn 1993, mewn adeg gormod o egni, aeth Poole ati i recordiau rhai o’i hoff ganeuon cynnar Frank Zappa, ar ei ben ei hun, yn ei stafell wely, ar 4-trac, gyda peiriant dryms cyntefig. Cafodd y tâp o’r sesiynau yma ei ddosbarthu mewn gigs ac ati, a dim ond yn weddol diweddar (dw i’n neud hyn oll i fyny, o’ch chi wedi dyfalu?) y mae ar gael ar CD. Mae ar gael o’r Organ, ond dw i’n methu ffeindio fe ar eu gwefan, sy mor gyntefig â’r peiriant dryms mwya cyntefig yn y byd, erioed. Ffeindiais i fe ar eBay, safle ocsiwn boblogaidd.

Ie, ocsiynau ar lein, a fyddech chi’n ei gredu fe?

Dim ond dechrau y mae fy mherthynas â’r CD yma. Prynais i fe oherwydd y cysylliad Cardiacaidd, dw i ddim hyd yn oed yn hoffi Zappa. Dw i wedi ceisio hoffi Zappa, gan ei fod e’n un o’r bobl ’na dw i’n teimlo y dylwn i fod ei hoffi, ond bob tro dw i’n gwrando ar ei stwff mae’n dod ar draws mor bell lan ei din ei hun, ac yn wreig-gasäwr o’r radd eithaf. Dydy cadw barf diddorol ddim yn wneud i fyny am wallau fel hyn mewn cymeriad dyn.

Ond erbyn hyn, mae fersiynau Poole o’r caneuon FZ o 1965-68 yn dechrau tyfu arna i, i’r pwynt lle, efallai, dw i’n barod cyfadde mod i wedi colli rhywbeth gan osgoi Zappa hyd yn hyn.

Hefyd, mae Jon Poole â llygaid mawr iawn.

[Gol.]

Oh, gwon te. Dyma MP3 i chi:

Jon Poole – Flower Punk (ail-fersiwn Frank Zappa) 3.3MB.

Albym y Dydd #1 – Six Organs of Admittance – Dark Noontide [2002]

Dych chi’n cofio bod yn ifanc, jyst dechrau mas ar y daith i gerddoriaeth, pan oedd arian yn brin a recordiau yn brinach byth? Dw i’n cofio’r LP cyntaf i mi brynu, a’r ail, a dw i’n cofio pan oedd 10 albym ’da fi am y tro cyntaf. Dw i’n cofio hefyd oedd rhaid i ni’r bois rhannu’r bandiau roc rhyngddon ni er mwyn wneud yn siwr bod neb yn prynu albym oedd ’da rhywun arall – albym allet ti fod wedi’i dapio, ac arbed y £3.50, neu beth bynnag, i brynu albym doedd neb arall wedi clywed. Doedd dim albyms Zeppelin ’da fi, gan taw prynu popeth gan Sabbath oedd fy rhan i.

Ddôs wêr ddy deis, eh?

Ond un peth am y prinder yma, oedd bob record yn sbeshial, ac o’t ti’n fwy tebyg i dreulio tipyn o amser dod i’w nabod. Dw i’n cofio’n glir prynu’r clasur Genesis Foxtrot (sy ddim ar gael ar CD newydd? be’ sy’n mynd ymlân â’r byd?) ac eistedd ar lawr fy stafell wely gyda’r clustffoniau yn sownd ar fy mhen tan bod bob gair o Supper’s Ready yn sâff ’da fi, a bob manylyn y clawr wedi’i serio yn fy ngho’. Roedd siwr o fod bron 30 o albyms ’da fi erbyn hynny, a phob gair o bob cân ar bob un ohonyn nhw dal gyda fi o’r galon.

Mae gyda fi gwerth 36 diwrnod o gerddoriaeth yn iTunes, a gwerth 16.2 diwrnod o ganeuon dw i heb wrando arnyn nhw’r unwaith.

Felly, fel arbrofiad, dw i am ddewis un albym bob dydd (neu ddau) a gwrando ar hwnna a dim byd arall am sbel.

Yr un cyntaf i gael fy holl sylw, er gwell neu er gwaeth, yw Dark Noontide gan Six Organs of Admittance.

Wel, do’n i ddim yn mynd i ail-ddechrau gydag Olivia Newton-John, nag o’n i?

Mae’r iPod wedi’i weipio, a’r un record yma wedi ei lanlwytho iddo, felly fory hwn fydd fy nhgyd-deithiwr ar y ffordd i’r gwaith, hwn bydd gyda fi wrth gerdded adre, a hwn bydd gyda fi ar y ffordd i’r dafarn gyda’r nos i wynebu bois y bwrdd poker.

A tybed, mewn 25 mlynedd, a fydda i’n gallu canu Spirits Abandoned fel ydw i’n gallu canu Supper’s Ready, ac hyd yn oed…

Gawn ni weld…

[Gol.] Ychwanegaf MP3 i bob cofnod o’r fath, tra bod yr arbrofiad yn para.

Six Organs of Admittance – Awaken (MP3, 2MB)