Blogi ogi ogi

Dim ond dympio dolenni:

Fideo du Jour

Wedi bod yn chwarae gyda Democracy, teclyn teledu-ar-y-rhyngrwyd, yr wythnos ’ma, sy’n ffordd (arall) wych o wastraffu amser pan dw i fod i wneud pethau eraill. Dw i ddim yn siwr os yw hyn yn well nag iTunes, sydd erbyn hyn yn cynnig podlediadau fideo hefyd – prif mantais falle yw bod Democracy yn cynnwys pethau bach gwirion sy ddim yn dod dan y disgrifiad “blog fideo”. Pethau fel:

Hefyd, cei di fideos cerddorol (BitTorrents yw’r rhain, ond mae Democracy yn eu handlo nhw heb angen meddalwedd newydd – do’n i ddim hyd yn oed wedi sylweddoli taw BT o’n nhw tan nawr):

Ac wrth gwrs, mae unrhywbeth sy’n dod â Morwynion Ffrengig i fy iMac yn werth arbrofi gyda fe am wythnos neu ddwy.


[Gol.] Diolch i Rhys am y ddolen i Treehugger TV, tanysgrifiad newydd i fi.

GarbageScout.com

(Wedi bod yn dawel fan hyn. Gormod o Poker, dim digon o flogio. Gobeithio pigo pethau lan tamad bach…)

Defnydd da o GoogleMaps #31,549: GarbageScout.com. Syniad syml iawn: ti’n gweld rhywbeth mae rhywun arall yn twlu ma’s, rhywbeth ti ddim eisiau dy hunan ond bydd rhywun yn gallu defnyddio fe; tynnu llun ar dy ffôn lôn; ebostio’r llun at GarbageScout; mae’r eitem yn ymddangos ar y map.

Yn anffodus, dim ond yn Effrog Newydd mae hyn yn gweithio, ond byddai rhywbeth fel hyn yn ddefnyddiol mewn unrhyw ardal.

Da, ‘de?

[Reusablog]

Discardia

Un o’r Adran Gydamseredd: y bore ’ma dyn ni wedi cael cyfres o ymweliadau gan bobl a welodd hysbyseb Philippa yn y Teifi Seid a ddwedodd “AM DDIM: hen rwtsh tydynnol.” Hen ffenestri wedi’i torri, olwynion beic, tarps, darnau bach o fetal rhwdlyd, mae gennym ni bopeth.

Wel, oedd gennym.

Anhygoel beth bydd pobl yn ffeindio yn ddefnyddiol.

Ta beth, dyma fi ddod at y Mac, ac i ffrwd Beca yn Bloglines (lle ffeindiais i LibraryThing neithiwr), a beth yw’r linc nesa ond un?

Discardia – gŵyl newydd i bobl gyda gormod o stwff.

Discardia is celebrated by getting rid of stuff and ideas you no longer need. It’s about letting go, abdicating from obligation and guilt, being true to the self you are now. Discardia is the time to get rid of things that no longer add value to your life, shed bad habits, let go of emotional baggage and generally lighten your load.

Mae gan metagrrl gofnod arall ar gael gwared â stwff sy’n hefyd werth ei ddarllen.

Pam “cydamseredd”. Achos mae Discardia yn ŵyl symudol:

The exact days vary. It takes place in the time between the Solstices & Equinoxes and their following new moons. Sometimes it’s short and sometimes it’s long.

Ond yn ôl y calendr hwn, mae Discardia nesa yn dechrau… heddiw.

Amser i mi fynd i Oxfam.